Macarons

22 Chwe

Roedd rhaid i fi ddechrau’r blog efo cacen reit arbennig, felly heddiw fe wnes i goginio rhywbeth dwi di bod eisiau gwneud ers oes – macarons.

Na nid y macaroons coconut na o’n plentyndod ni, ond y meringues bach lliwgar Ffrengig na, wedi’u llenwi gyda phob math o flasau rhyfeddol.

Mae rhain wedi dod yn reit ffasiynol yn ddiweddar, ond am ryw reswm dydyn nhw dal ddim ar gael ymhobman. Nes i drio nhw i ddechrau yn Selfridges ar ôl clywed cymaint amdanyn nhw mewn cylchgronau. Ges i dri blas gwahanol, salted caramel, pistachio a siocled ac ers hynny dwi di bod yn hooked. Ers hynny dwi di bod yn sleifio i Laudree yn Piccadilly unrhyw bryd dwi’n pasio i brynu un o’r danteithion bach yma. Dydyn nhw ddim yn rhad, ond maen nhw mor flasus a mor gyfoethog mae un bach yn mynd yn bell iawn.

Ond tan rwan doeddwn i’m di meiddio gwneud nhw adref gan bo fi di clywed eu bod nhw’n anodd iawn i’w gwneud (rheswm arall falla pam nad ydyn nhw ar gael ymhobman?) Ond pa esgus gwell na dechrau blog newydd i fentro?

Felly dyma nhw cyn eu coginio

A dyma nhw fy macarons cyntaf, efo eisin siocled gwyn yn y canol.

Dwi’n hynod hapus efo sut y gwnaethon nhw droi allan. Dydyn nhw ddim yn edrych fel rhai Laudree neu Pierre Herme, doedd dim disgwyl iddyn nhw, ond mae nhw’n hynod flasus!

About these ads

5 Ymateb to “Macarons”

  1. Rhodri 22/02/2011 at 22:04 #

    Edrych yn lysh. Dwi ddim di mynd mor bell a rhyw ffansi ffwtwyrc fel’na eto ond mi nesh i drio gneud byns sinamon Norwyaidd…a’u llosgi nhw.

    Be sa’n dda fasa tips ar lyfrau coginio cacs. Dwi’n dechra mynd chydig yn bôrd o Nigella. Ella na’i neud guest blog i ti ar bobi bara os tisio ;-)

    • Paned a Chacen 22/02/2011 at 22:12 #

      Byns sinamon dwisio ei wneud nesaf fyd!

      O’n i’n meddwl gwneud rhyw features fel coginio o lyfr gwahanol bob nawr ag yn y man. Falla nai wneud blog yn son am fy hoff lyfrau.

      Fysa guest blog ar bobi bara yn gret, dyna un peth dwi eisiau meistrioli.

    • Llanast 23/02/2011 at 19:30 #

      ia, tips ar fara plis..o hyd yn disatar acw.

  2. Nici B 22/02/2011 at 22:19 #

    Llongyfarchiadau ar y blog ac ar y macarons, mae nhw’n edrych yn ffab! Pa rysait wnes ti ddilyn?
    Mae nhw ar fy rhestr i wneud ar gyfer y caffi ond dwi heb fentro eto…
    Edrych mlaen at ddarllen a gweld mwy o gaenni a phaneidiau (?) cyn bo hir :-)

    • Paned a Chacen 22/02/2011 at 22:24 #

      Diolch. Rysait nes i ffeindio ar y we oedd o, nai roi o fyny fory. O’n i’n disgwyl iddo fod yn gythrael o anodd, ond doedd o’m yn rhy ddrwg – beginners luck falla?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn

%d bloggers like this: