Dwi’n teimlo fel fy mod i’n rhannu cyfrinach cenedlaethol efo chi heddiw – dwi am rannu’r rysait am fy nghacen lemon drizzle. Dim bod y rysait ei hun yn ddim gwahanol i unrhyw lemon drizzle arall dybiwn i, ac oes gennych lyfr Nigella dio ddim yn gyfrinach chwaith. Ond dyma’r un gacen dwi’n ei wneud sydd wastad yn cael y ganmoliaeth fywaf. Mae’n un o fy hoff gacennau fy nghariad, ac mae gennai ‘claim to fame’ – dyma hoff gacen Vaughan Roderick!
Dwi”m yn siwr o ba lyfr Nigella y daw’r rysait yma, achos photocopy ar sgrap o bapur sydd genai. Er bod genai lot o lyfrau coginio dwi hefyd yn ueddu i gasglu ryseitiau o’r we ac o bapurau newydd, o bob man a dweud y gwir. Doedd genai ddim trefn ar yr holl bapurau yma tan i fi gael recipe binder fel anrheg nadolig. Presant perffaith sy’n golygu fy mod i wedi gallu rhoi rhywfaint o drefn ar fy ryseitiau – ac mae on un Cath Kidston – be well?
Cynhwysion
Ar gyfer y gacen
125g menyn heb halen
175g siwgr caster
2 wy mawr
zest 1 lemwn
175g blawd codi
pinsiad o halen
4 llwy fwrdd o laeth
Ar gyfer y syryp
sudd 1½ lemwn (tua 4 llwy fwrdd)
100g siwgr eisin
Dull
1. Cynheswch y popty i 180ºC neu 160ºC fan.
2. Cymysgwch y siwgr a’r menyn (mae’n haws defnyddio wisg drydan ar gyfer hyn gan fod angen eu cymysgu yn dda)
3. Ychwanegwch y wyau un ar y tro gan gymysgu yn llwyr cyn ychwanegu’r ail wy.
4. Ychwanegwch zest y lemwn.
5. Hidlwch y blawd a’r halen yna plygwch fewn i’r menyn a’r siwgr. Doedd genai ddim blawd codi yn y tŷ a dim mynydd mynd i’r siop felly fe wnes i ddefnyddio blawd plaen gyda tua llwy de a hanner o baking powder.
6. Ychwanegwch y llaeth, a tolltwch y gymysgedd fewn i dun bara. Dwi’n defnyddio un silicone ar gyfer y rysáit yma, dio byth yn sticio hyd yn oed ar ôl ychwanegu’r syryp. Os nad oes gennych un o’r rhain gwnewch yn siŵr eich bod chi’n iro a leinio’r tun yn dda.
7. Pobwch y gacen am 45 munud, tan hyfryd ac yn frown ac mae profwr cacen (gwneith skewer neu goctail stick y tro) yn dod allan yn lan.
8. Tra mae’r gacen yn coginio rhowch y sudd lemwn a’r siwgr eisin mewn sosban a’i gynhesu nes bod y siwgr yn toddi.
9. Unwaith mae’r gacen allan o’r popty, gwnewch dyllau gyda’r profwr cacen neu gyllell a tollti’r syryp dros yr holl gacen. Gwnewch yn siŵr bod y canol yn cael cyfle i amsugno’r syryp yn ogystal â’r ochrau.
10. Gadewch y gacen i oeri yn llwyr yn y tun.
Gymaint a dwi’n licio’r gacen yma, dwi adara ar ben fy hun wythnos yma ac allai’m bwyta un cyfan, felly treat bach i’r hogia yn y gwaith fydd hwn.



Ma’r rysait yn dod o lyfr Nigella – How To Be A Domestic Goddess. Mae Raymond Blanc yn neud un neis hefyd wrth beintio jam apricot (bricyllen?!) ar hyd y gacen a wedyn peintion siwgwr eisin wedi neid â sudd lemwn ar hyd y gacen. Iym Iym.
Mae’n fersiwn i yn cynnwys dail teim – yn y gacen ei hun ac yn y syrup.
mmm swnio’n neis
Mae fy nghopi fi o Domestic Goddess yn disgyn yn gorad ar y dudalen yma. Hon dwi wastad yn ei gwneud os oes galw am deisan i godi calon rywun neu jyst i osgoi mynd draw at rywun yn waglaw. Wastad yn dyblu’r risêt ac yn gwneud dwy am ryw reswm hefyd. Mynd ag un i rywun a byta’r llall, am wn i! Ond yn ddiweddar mae chocolate chip cookies River Cottage wedi cymryd lle y deisan lemon: mae nhw yn y River Cottage Family Cookbook ac yn yr un Everyday ac mae’n nhw’n beryg bywyd.
Mae hi’n gret tydi, plesio pawb a byth yn mynd o’i le. Ma cookies wastad yn ffefryn gena i hefyd, wastad yn gwneud mwy na sydd ei angen a cadw’r toes sbar yn y rhewgell.