Llyfrau coginio

15 Maw

Ges i bach o splurdge ar amazon y diwrnod o’r blaen, felly yn ogystal â phrynu nofel a llyfr gwleidyddol, nes i brynu dau lyfr coginio newydd. Nawr doeddwn i ddim angen yr un o’r ddau, mae genai lond silff yn barod a gyda channoedd o ryseitiau ar y we, efallai bod yna ddadl dros beidio â phrynu llyfrau o gwbl. Ond dwi’n caru llyfrau coginio ac wrth fy modd yn pori trwyddyn  nhw – ‘food porn’ dwi’n galw nhw! Yn aml dim ond ryw un neu ddau rysáit dwi’n ei wneud allan o’r rhan fwyaf o’r llyfrau dwi’n eu prynu, ond mae yna un neu ddau dwi’n ei ddefnyddio yn llawer mwy aml nag eraill. Felly dyma rai o fy hoff lyfrau.

Hummingbird bakery

Nawr dyma’r llyfr dwi’n ei ddefnyddio ar gyfer gwneud cupcakes ac mae o wedi gweithio yn ddi-ffael, tan wythnos diwethaf. Ond mae yn lawer mwy na cupcakes yma felly mae o’n dal yn ffefryn.

Green & Black’s Chocolate Recipes

Anrheg ges i  gan fy nghariad Nadolig yma oedd hwn,  a dwi eisoes wedi gwneud nifer o ryseitiau allan ohono. Maen nhw i gyd wedi bod yn hyfryd, wel mae ‘na siocled ymhob un!

Delia Smith’s Complete Cookery Collection

Hen lyfr Nain ydi hwn, ac fe gefais yn anrheg er mwyn gwneud cacennau nadolig i’r teulu (nain oedd yn arfer gwneud i ni gyd, cyn iddo fynd yn ormod o job iddi). Clasur o lyfr, sy’n wych ar gyfer clasuron.

Madur Jaffrey’s Indian Cookery

Llyfr gwreiddiol Madur Jaffrey o’r 80au, wedi’i ddwyn o adref. Y llyfr ar gyfer gwneud cyri sy’n well nag unrhyw beth o’ch takeaway lleol. Peidiwch â bod ofn y rhestr hir o gynhwysion mae’r ryseitiau yn ddigon syml.

Plenty gan Yotam Ottolenghi

Mae hwn yn un o’r llyfrau dwi newydd brynu, a dwi eisoes yn rhagweld ei fod yn mynd i fod yn ffefryn. Dwi’n caru caffis Ottolenghi, mae eu salads a chacennau yn anhygoel, os nag ychydig yn ddrud, felly dwi’n edrych ymlaen at geisio eu gwneud adref. Llyfr llysieuol ydi hwn, ond  dwi’m yn tueddu i fwyta cymaint â hynny o gig os gai fy ffordd fy hun, er mae’r cariad yn un sy’n mynnu cael cig efo pob pryd! Beth bynnag mae genai ffrindiau sy’n llysieuwyr yn dod draw am swper nos Sadwrn, felly dwi am drio gwneud rhywbeth o’r llyfr yma ar eu cyfer.

Gan fy mod i wedi symud i Lundain dros dro, doeddwn i ddim yn gallu dod a pob un llyfr efo fi, felly mae ‘na lot mwy nol yng Nghaerdydd, er dwi’m yn cofio be rwan chwaith!  Ac wrth gwrs mae yna lwyth o lyfrau eraill yn dal i fod ar fy amazon wish list i, yn bennaf Nigella Lawson – How to be a domestic Goddess (duw a wyr pam dwi ddim yn berchen y clasur yma), Leon gan Alegra McEvedy ac mae genai ddiddordeb gweld beth mae llyfr newydd Bryn Williams fel, gan fod y bwyd yn Odette’s yn ogoneddus.

Gadewch fi wybod os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar gyfer llyfrau i’w ychwanegu i’r llyfrgell!

5 Ymateb to “Llyfrau coginio”

  1. Mari 16/03/2011 at 09:31 #

    Www, dwi efo chdi ar rhai G&B a Delia! Pan es i i coleg, nes i ofyn un Delia yn anrheg Dolig achos oedd gan mam gopi ac o’n i’n meddwl fod pob rysait DAN HAUL ynddo fo. Do’n i ddim yn anghywir! Ella na’i gael yr un Hummingbird nesa! Nigel Slater – The Kitchen Diaries – yn ffefryn diweddar yn tŷ ni.

    Dwi a Fo di bwcio bwrdd yn Odette’s mewn ryw bythefnos, methu aros!

    • Paned a Chacen 16/03/2011 at 09:48 #

      Ma genai un Nigel slater nol yn gaerdydd ond dim kitchen diaries, ond dwi yn licio Nigel. O’n i’n mwya ecseited pan weles i fo ar y stryd yn ddiweddar. Dwi’n siwr y gwnewch chi joio Odette’s, dwi di bod yna tair gwaith rwan a di cael pryd hyfryd bob tro.

  2. cathasturias 16/03/2011 at 22:54 #

    Cymru ar Blât gan Nerys Howell, neu unrhyw beth gan Elisabeth Luard, yn enwedig The Barricaded Larder – yn llawn hanesion difyr o wledydd Ewrop yn ogystal â ryseitiau.

  3. Sara 25/04/2011 at 11:05 #

    Mae ‘Exceptional Cakes’ gan Dan Lepard (o Baker+Spice) yn llawn ryseitiau blasus; ti wedi fy ysbrydoli i fynd i chwilota amdano heddiw. Awydd pobi arnai! Mae na gyfarwyddiadau manwl iawn iawn (fel defnyddio dwr potel yn hytrach na dwr tap), ond dwi’n siwr gellir anwybyddu rheiny i radde helaeth.

    Ma Tarts With Tops On gan Tamasin Day Lewis yn gret ar gyfer llenwade tartenni melys a sawrus. Dwi’n ffindio’r ryseitiau braidd yn llenyddol felly mae’n cymryd oesoedd imi eu dilyn, fodd bynnag.

    Rhaid ifi gyfadde, llyfr Mum Knows Best #1 y Beicars Blewog fydda i’n ei ddefnyddio amla’. Sut beth ydi Plenty?

    • Paned a Chacen 03/05/2011 at 19:52 #

      Dwi’n caru Dan Lepard, di gwneud cwpwl o’i ryseitiau o’r Guardian ac wedi bod yn meddwl [rynnu’i lyfr bara ers oes, ond dal heb wneud.

      Mae Plenty yn wych, popeth dwi wedi trio yn berffiath. Fe wnes i tarte tatin, tatws a chaws gafr hyfryd o’r llyfr!

Gadael ymateb i Mari Diddymu ymateb