Ymddiheuriadau am beidio a blogio ers oes, ond dwi wedi bod yn galifantio cryn dipyn yr haf yma, a dwi prin wedi bod adref i goginio swper heb son am bobi unrhywbeth. Ond dwi wedi bod yn bwyta mwy na fy nigon o gacennau, yn enwedig tra ar fy ngwyliau yn Ffrainc. Heblaw am y gwin (yn amlwg!) yr un peth dwi wastad yn edrych mlaen iddo yn Ffrainc yw’r pastries. Mae’r Ffrancwyr yn gwybod sut mae gwneud tarten dda, ac mae’r safon, hyd yn oed yn archfarchnadoedd, yn aml yn llawer gwell na’r hyn sydd i’w ganfod yn y wlad hon. Cacennau a cupcakes yw’r ffasiwn yma ond tartenni ffrwythau o bob math sydd i’w gweld ymhob patisserie yn Ffrainc. A gyda patisserie bron ymhob pentref, roeddwn i’n gwledda ar y tartenni ffrwythau bychan, fel y gwelwch isod!
A gan fy mod yng ngwlad y macaron, roedd rhaid i mi gael llond bag, a wow roedden nhw’n hyfryd! Mynd yn berffaith efo gwydraid o champagne!
Roeddwn i’n joio cael macarons bach gyda coffi ar ol pryd hefyd
Ac roedd rhaid cael crepe yn doedd! Un efo siocled i fi ac yn efo mynydd o hufen chantilly i’r cariad.
Ac edrychwch ar y siocled peth yma ges i yn Bruges, bowlen o laeth poeth gyda cwpan siolced llawn botymau siolced i’w gymysgu mewn iddo. Hyfyrd!













Aaah, post hollol wych / peryg! Da dy gael di nôl yn postio eto, edryhc mlaen am dameidiau i gnesu am yr Hydrefn wan
Ia siwr fydd na lot mwy o bobi a phostio wrth i’r tywydd oeri! Dwi’n rili joio dy flog di fyd,