Meistrioli macarons efo Edd Kimber

29 Medi

Yr wythnos dwiwethaf fe gefais i’r pleser o fynychu dosbarth macarons gyda Edd Kimber, ennillydd y Great British Bake Off y llynedd. Fel mae drallenwyr selog y blog yma yn ei wybod, dwi wedi ceisio gwneud macarons unwaith o’r blaen a doedden nhw ddim yn rhy ddrwg (hyd yn oed os ydwi’n dweud fy hun!) Ond am ryw reswm doeddwn i ddim wedi eu gwneud nhw eto. Prinder amser oedd y rheswm pennaf, ond dwi’n credu yng nghefn fy meddwl roedd genai dal bryderon am eu gwneud nhw eto, gan feddw efallai mai ffliwc oedd y tro cyntaf yna.

Felly pan weles i bod Edd Kimber yn cynnal dosbarthiadau nos yn Llundain, fe neidiais ar y cyfle i gael tips gan rywun sydd yn gallu gwneud canoedd ohonyn nhw, a chael pob un i edrych yn berffaith (welsoch chi y twr o macarons wnaeth o ar y rhaglen y llynedd?).

Wel ar ol y cwrs yma does genai ddim pryderon o gwbwl, fydd na ddim stopio fi rwan, fyddai’n pobi macarons drwy’r amser.

Y dull Ffrengig o goginio macarons yr oeddwn i wedi’i ddilyn o’r blaen, ond fe ddangosodd Edd y dull Eidalaidd i ni. Mae’r dull yma yn golygu ychydig bach mwy o waith, gan bod angen berwi siwgr a dwr at dymheredd penodol iawn (dwi di bod yn John Lewis yn barod yn prynnu thermometr siwgr!) Ond does dim rhaid i chi fod cweit mor ofalus wrth gymysgu’r meringue. Er syndod i mi roedd o’n ein hannog ni i guro’r gymysgedd yn galed! Rhywbeth oedd yn mynd yn erbyn pob gyngor arall yr oeddwn i wedi’i ddarllen.

Roedd o’n werthfawr gweld rhywun yn eu gwneud nhw’n iawn yn hytrach na dilyn cyfarwyddiadau mewn llyfr. Pan da chi’n gwneud macarons mae yna bwynt penodol iawn pan mae’r gymysgedd yn barod – gormod o gymysgu a fydd eich macarons chi ddim yn codi, dim digon ac fe fydden nhw’n rhy galed. Rhywbeth sy’n anodd ei ddisgrifio ar bapur.

A dyma sut ddylai’r gymysgedd edrych

Un peth arall ddysgais i oedd bod lleithder yn gallu effeithio ar lwyddiant eich macarons. Os yw hi’n ddiwrnod poeth a chlos, fe fydd hi’n cymryd llawer hirach i’ch macarons sychu, rhywbeth mae’n rhaid ei wneud cyn y gallwch eu coginio. Felly yn ôl Edd yr amser gorau i wneud macarons yw ben bore ac yn y gaeaf. Roeddem ni’n lwcus i fod mewn stafell gyda system cyflyru aer, felly roedd ein macarons ni’n barod i’w coginio o fewn 15 munud, oes yw hi’n llaith, fe allai gymryd hyd at ddwy awr – felly mynadd piau hi!

Wrth aros i’r macarons goginio, fe gawsom ni glased o bubbly a nibbles, a chyfle i holi Edd am ei brofiadau. Roedd o’n hynod o gyfeillgar, ac yn ogystal â rhannu tips coginio, fe rannodd lot o straeon am ei amser yn cystadlu ar y Great British Bake Off.

Pan ddaeth hi’n amser tynnu’r macarons allan o’r popty, roeddwn i ychydig bach yn bryderus na fyddai fy rhai i cystal a gweddill y dosbarth, ond doedd dim rhaid i mi boeni roedd macarons pawb yn edrych yn berffaith.

Ar ôl eu pobi, roedd hi’n amser eu llenwi, ac roedd gennym ni ddewis o siocled, jam mefus a lemon curd. Mae’n bosib eu llenwi efo unrhyw beth da chi eisiau, mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd. Er pan fyddai’n pobi rhain adref, dwi’n meddwl mai rhyw fath o garamel hallt fydd ar frig y rhestr.

Mae pawb sydd wedi trio’r macarons wedi dweud eu bod nhw wrth eu bodd gyda nhw, ac roeddwn i’n bles iawn efo sut yr oedden nhw’n blasu a sut yr oedden nhw’n edrych. A dweud y gwir fe ddywedodd fy nghariad nad oedd o’n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng fy rhai i a’r rhai yr oedd Edd wedi ei roi i ni fel anrheg. Canmoliaeth mawr yn wir! Fy un i sydd ar y chwith ac un Edd sydd ar y dde yn y llun isod.

Anrheg bach gan Ed

Fe brynais lyfr Edd Kimber, The Boy Who Bakes, cyn mynychu’r cwrs, ac os ydych chi’n hoffi pobi dwi’n argymell eich bod chi’n ei brynu hefyd. Mae yna gymaint o ryseitiau gwahanol a newydd yna, dwi methu aros i’w profi nhw. Ac os ydych chi awydd mynd ar y cwrs eich hunain, mae’n nhw’n cael eu cynnal yn fisol yng Nghanol Llundain – ac fe wnaeth Edd son y bydd yna gyrsiau gwahanol yn agosach at y nadolig – cadwch lygad ar ei wefan os oes gennych chi ddiddordeb!

2 Ymateb to “Meistrioli macarons efo Edd Kimber”

  1. Rhodri ap Dyfrig 30/09/2011 at 11:22 #

    Mi ddwedodd Hubert, cyn-bobydd ardal Prestatyn a Rhyl sy’n byw yn Nhrelawnyd, bod tywydd mellt a tharannau yn gallu stopio burum rhag gweithio. Sneb yn son am hynna mewn llyfrau bara!

    Edrych mlaen i gael trio macaronsan gen ti rwbryd. x

  2. Mari 06/10/2011 at 21:18 #

    Dwi mor impresd! Dwi angen trip bach i John Lewis dwi’n meddwl…

Gadael sylw