Ar ôl yr holl bobi, sgwennu ac adolygu, does ‘na ddim byd mwy y gallaf ei wneud. Mae’r llyfr yn yr argraffwyr, ac fe fydd yn eich siopau yn fuan!
A dwi methu aros i weld fy nghopi cyntaf.
Fe fydd unrhyw un sy’n fy nilyn i ar twitter neu’n ffrindiau efo fi ar facebook wedi gweld y clawr yn barod, ond i bawb arall dyma fo. Gobeithio eich bod chi’n ei licio, y ffotograffydd gwych Warren Orchard sydd i’w ddiolch am y llun.
Fe fydd y llyfr yn cael ei gyhoeddi ar 24ain o Hydref ac fe fydd o’n costio £14.95. Mae o’n glawr caled ac mae yn 144 tudalen o ryseitiau ynddo, felly gwerth pob ceiniog dwi’n addo!
Mae o eisoes i’w weld ar wefan Gwales a hyd yn oed ar Amazon. Dwi newydd wario ffortiwn ar lyfrau yno a dwi’m yn meddwl y buaswn i erioed yn dychmygu y bydd gen i lyfr ar werth yno. Ond wrth gwrs fe fydd ar gael yn eich siop Gymraeg lleol, felly os da chi’n gallu, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n eu cefnogi nhw!
Fe fydd y gen i gwpwl o lyfrau i’w rhoi fel gwobr i ddau o fy narllenwyr ffyddlon. Felly cadwch lygad ar y blog am gystadleuaeth yn fuan.
Gobeithio byddwch chi’n licio fo.
