Wel dyna ni’r cam cyntaf o baratoadau’r Nadolig wedi’i gwblhau, mae’r cacennau wedi eu gwneud. Roeddwn i eisoes wedi gwneud un, nol ym mis Gorffennaf, er mwyn tynnu llun ar gyfer y llyfr, ond dwi’n gwneud 3-4 bob blwyddyn ar gyfer y teulu. Dim ond dau yr oeddwn i’n bwriadu ei wneud ond yn y pendraw fe benderfynais wneud dau ganolig eu maint ac un bach.
Nawr mae’r popty yn y fflat newydd yn ofnadwy, mae’n rhaid rhoi stôl yn erbyn y drws er mwyn ei gau yn iawn, felly roedd angen gweddi fach wrth goginio’r cacennau achos duw a ŵyr beth oedd y tymheredd i fod yn onest. Maen nhw wedi brownio ychydig yn fwy nag y buaswn i’n licio ar y top, ond dwi’n gobeithio bod y gacen oddi tano yn iawn.
Diolch byth da ni’n cael popty newydd fory, bach yn rhy hwyr i’r cacennau yma efallai ond fe fydd gwybod bod tymheredd y popty yn gywir yn eithaf defnyddiol i fi!
Fyddai ddim yn addurno’r cacennau yma tan yn llawer agosach at y Nadolig, ond wrth gwrs fe fydd yn rhaid bwydo’r cacennau bob nawr ag yn y man gyda brandi. Dwi ddim yn siŵr sut dwi’n mynd i addurno fy nghacennau eleni, pengwins bach wnes i y llynedd, ond mae gen i ddigon o amser i chwilio am ysbrydoliaeth.
Felly gyda’r cacennau wedi’u gwneud, beth arall sydd ar ôl? O ia dwi mond angen prynu anrhegion a’u lapio, gwneud cardiau a’u sgwennu ac wrth gwrs lot mwy o bobi. Dim llawer felly!



Un Ymateb i “Wishgit, wishgit i ffwrdd a ni mae’r Nadolig yn nesau.”