Archif | pwdin RSS feed for this section

Dysgu gan y meistr yn Awstria

19 Ebr

20130419-172536.jpgGyda’r gaeaf yn edrych fel ei fod am bara am byth, a gwyliau’r Pasg yn agosáu fe benderfynais fynd ar drip munud olaf i Awstria. Wrth gwrs roedd yr eira ffres oedd yn dal i ddisgyn ar y llethrau yn atyniad mawr, ond roeddwn i hefyd yn awyddus i dreulio ychydig o amser yn y gegin gyda Heinz, fy nghyn fos, a phobwr o fri.

Fel dwi wedi sôn o’r blaen roeddwn i’n gweithio mewn gwesty bach yn Awstria am dymor sgïo ar ôl gadael y coleg, gwesty sy’n berchen i Heinz ac Anita Schenk. Mae Heinz yn dod o Awstria ond o Flaenau Ffestiniog y daw Anita yn wreiddiol. Fy gyfarfu’r ddau pan ddaeth Heinz i weithio fel chef yng ngwesty Portmeirion, ond ers blynyddoedd nawr maen nhw wedi bod yn rhedeg gwesty teuluol hyfryd o’r enw Luginsland, ynghanol ardal sgïo anhygoel.

heinz - blog

Mae Heinz yn chef gwych, ac roeddwn i’n lwcus i gael bwyta ei fwyd bob dydd am ryw bum mis wrth weithio yno. Ond er fy mod wrth fy modd ar y pryd yn ei wylio’n coginio ac o gael helpu yn y gegin, wnes i ddim bachu ar y cyfle i ddwyn rhai o’i ryseitiau. Felly y tro hwn roeddwn i wedi rhybuddio Heinz fy mod i’n dod i bigo ei ymennydd (gan mai dyna ble mae ei ryseitiau i gyd) yn ogystal â dod i sgïo.

Roedd o’n grêt cael mynd i sgïo bob dydd (tan i fi frifo fy hun yn troi fy mhen-glin, ond stori arall yw honno) ac wedyn dod ‘nôl i dreulio amser yn y gegin. Cegin anferth broffesiynol! Roedd yna rai ryseitiau yr oeddwn i’n awyddus i’w gael, ond hefyd roeddwn i’n agored i awgrymiadau Heinz.

bara - blog

Y rysáit oedd ar frig fy rhestr oedd y bara melys wedi’i blethu. Roedd yn Heinz yn arfer gwneud y dorth yma bob dydd ar gyfer brecwast ac mae hi’n hyfryd, yn enwedig efo’i jam bricyll cartref, neu jam grawnwin a sinsir. Mae’r dorth yn un reit gyfoethog gyda menyn, siwgr ac wyau ynddi, ond er ei fod yn felys, dyw hi ddim cweit fel torth brioche chwaith.

bara2 - blog

bara3 - blog

Fe ges i hwyl yn dysgu sut i blethu’r dorth, dwi’n gallu plethu gwallt efo tri darn yn hawdd ond fe gymerodd ychydig o amser i gael fy mhen rownd gweithio gyda phedwar. Mae Heinz yn gwneud torth fwy gyda 6 hefyd, ond dwi heb fentro honno … eto.

Dwi wedi gwneud fideo o’r plethu os da chi am drio fo eich hun.

Ymysg y pethau eraill y gwnes i goginio oedd gebacken mäuse - llygod wedi’i ffrio (math o doughnut efo cyrens)

llygod - blog

Beugel – toes bara tenau wedi’i lenwi un ai gyda chnau cyll wedi’i malu yn fan, neu hadau pabi (cynhwysyn sy’n gyffredin iawn yn Awstria).

beugel2 - blog

beugel - blog

beugel3 - blog

Mae’r Awstriaid yn coginio lot efo caws ceulaidd (curd cheese) hefyd, topfen maen nhw’n ei alw ond mae’n cael ei werthu fel Quark yn y wlad yma. Fe wnaethom ni ddau rysáit yn defnyddio’r caws yma – topfen knödel a topfen palatschinken.

Math o dumpling caws sy’n cael ei goginio mewn dŵr berwedig a’i orchuddio mewn briwsion bara, siwgr a sinamon yw topfen knödel. Mae’n flasus iawn, yn enwedig wedi’i weini gyda jam eirin.

IMG_7116

Wedyn crempog wedi’i llenwi gyda’r caws, cyrens a lemon, a’i goginio yn y popty wedi’i orchuddio mewn cwstard yw topfen palatschinken. Ddim yn annhebyg o gwbl i’n pwdin bara menyn ni a dweud y gwir, ond mae’r Awstriaid yn fwy na hapus i’w fwyta fel cinio yn ogystal â phwdin. Un o’r rhesymau pam fy mod i’n licio Awstria gymaint debyg!

paltschinken - blog

palatschinken2 - blog

Yn ogystal â hynny fe wnaethom ni fisgedi bach a creme caramel. Fel y gallwch ddychmygu roeddwn i wrth fy modd yn sglaffio’r holl bwdinau yma bob nos.

bisgedi - blog

creme caramel - blog

Mae’n rhaid i fi nawr ail greu’r holl ryseitiau yma adra, doedd Heinz ddim yn mesur dim, gan fod y ryseitiau i gyd yn ei gof, a’i fod yn gwybod o edrych faint o bopeth oedd angen. Felly roedd rhaid i mi amcangyfrif faint o bopeth yr oedd o’n ei ddefnyddio. Dwi’n gobeithio bod fy mesuriadau yn gywir!

Tartenni lemon meringue bach

11 Hyd

Ar hyn o bryd dwi’n teimlo fel fy mod i’n dechrau pob blog efo ymddiheuriad! Mae’r cyfnod rhwng pob un yn llawer rhy hir ar hyn o bryd. Ond mae’n rhaid cyfaddef dwi prin wedi bod yn pobi yn ddiweddar. Yn y ddau fis diwethaf dwi wedi gorffen y llyfr, symud yn ôl i Lundain, dechrau swydd newydd ac wedi treulio’r tair wythnos diwethaf yn mynd o un gynhadledd wleidyddol i’r llall. Felly dwi prin wedi cael amser i fi fy hun, heb sôn am amser i dreulio yn y gegin.

Ond y diwrnod o’r blaen fe gafodd Johny a fi ein gwahodd i fynd am swper gyda ffrindiau sy’n byw rownd y gornel, ac wrth gwrs fe wnes i gynnig gwneud pwdin. A dweud y gwir mae disgwyl cacen neu bwdin bob tro maen nhw’n fy ngweld i’r dyddiau. Dwi’n torri ffon i guro’n hun!

Ond beth i’w wneud oedd y cwestiwn, felly fe borais drwy fy llyfrau coginio yn chwilio am ysbrydoliaeth. Yn y diwedd fe benderfynais wneud rhyw fath o darten fach unigol i ni gyd, gan setlo ar rai lemon meringue yn y diwedd. Doeddwn i erioed wedi gwneud un o’r blaen, ond maen nhw’n ddigon hawdd mewn gwirionedd.

Cynhwysion

Ar gyfer y toes

330g o flawd plaen

200g o fenyn oer

75g o siwgr mân

1 wy

1 llwy fwrdd o ddŵr oer

Ar gyfer y llenwad

1 tun laeth cyddwys (pwy wyddai mai dyna di condensed milk yn Gymraeg?)

3 melynwy mawr

croen a sudd 3 lemon

3 gwyn wy

150g siwgr caster

Dull

Hidlwch y blawd i bowlen a thorrwch y menyn yn ddarnau bach, a’u rhwbio i mewn i’r blawd nes bod y gymysgedd yn edrych fel briwsion.

Yna ychwanegwch y siwgr a’i gymysgu â llwy cyn ychwanegu’r dŵr a’r wy a chymysgu gyda llaw nes bod y cyfan yn dod at ei gilydd i ffurfio pelen.

Tylinwch am ryw funud er mwyn sicrhau fod y toes yn llyfn, yna lapiwch ef mewn cling film a’i osod yn yr oergell am o leiaf 30 munud.

Ar ôl i’r toes oeri roliwch ef allan nes ei fod rhyw 4mm o drwch; torrwch gylchoedd i ffitio’ch tuniau. Dwi’n defnyddio tuniau tartenni bach unigol sy’n 10cm ar draws a gyda gwaelod rhydd.

Rhowch y toes yn y tuniau, (bydd y rysait yn gwneud digon ar gyfer 8) a gwasgu’n ofalus i’r ochrau. Torrwch unrhyw does sy’n weddill trwy rolio eich pin rholio ar draws dop y tun.

Rhowch y tuniau yn y rhewgell am 10 munud, yn y cyfamser cynheswch y popty i 180˚C/ Ffan 160˚C/ Nwy 4.

Rhowch ychydig o bapur gwrthsaim ar ben y toes a llenwi’r tuniau gyda phys ceramig a’u rhoi yn y popty am 15 munud. Yna tynnwch y papur gwrthsaim a’r pys a choginio’r toes am 5 munud arall.

I wneud y llenwad, rhowch y llaeth cyddwys mewn powlen, ychwanegwch y tri melynwy, croen lemon wedi’i gratio yn fân a’r sudd lemon, a’i gymysgu yn dda. Fe fydd yn mynd yn fwy trwchus yn naturiol.

Rhowch y 3 gwynnwy mewn powlen lân a’u chwisgio gyda chwisg drydan nes eu bod yn drwchus, ond ddim yn hollol stiff. Yna ychwanegwch y siwgr caster, lwy ar y tro, gan chwisgio yn llwyr bob tro. Ar ôl ychwanegu’r holl siwgr, parhewch i chwsigio nes ei fod yn drwchus ac yn sgleinio.

Llenwch y cesys gyda’r llenwad lemon. Yna rhowch y meringue mewn bag peipio, a’i beipio mewn blobs bach ar ben y llenwad lemon.

Rhowch yn ôl yn y popty am ryw 20 munud, nes bod y meringue yn dechrau brownio.

Rhowch ar rwyll fetel i oeri rhywfaint.

Gallwch eu bwyta yn gynnes neu yn oer.

Kaiserschmarrn – ymerawdwr y crempogau!

21 Chwe

Dwi wrth fy modd gyda chrempogau ond heblaw am ryw fore Sadwrn prin, anaml iawn dwi’n eu gwneud nhw. Ond bob dydd Mawrth Ynyd, dwi’n bwyta tomen enfawr ac addo fy mod i’n mynd i’w gwneud nhw’n fwy aml. Ond gesiwch be, dwi ddim!

A dim fi yw’r unig un, mae’r siopau yn llawn cynhwysion crempog (nai ddim dechrau pregethu am y crempogau na da chi’n eu cael mewn paced … Beth sydd yn haws na chymysgu llaeth blawd ac wyau?) yn yr wythnosau cyn dydd Mawrth Ynyd wedyn mae pawb yn anghofio am eu bodolaeth.

Ond pam? Mae yna gymaint y gallwch ei wneud â’r crempog syml, da chi mond angen mynd i creperie yn Ffrainc, neu i gael brecwast yn America i weld hynny. Ond, heb os nag oni bai, fy hoff bryd crempogaidd i yw Kaiserschamarrn. Dwn i’m faint ohonoch sydd wedi clywed am Kaiserschmarrn o’r blaen, heb son am ei fwyta, ond pwdin o Awstria ydio, ac mae o’r peth gorau y gallwch ei wneud gyda blawd, wyau a llaeth!

Ryw ddeng mlynedd yn ôl fe gefais i’r pleser o fyw yn Awstria, yn gweithio mewn gwesty dros y cyfnod sgïo, ac roeddwn i wrth fy modd gyda’r bwyd yno. Nawr dyw selsig a sauerkraut ddim y pethau mwyaf iach yn y byd, ond yn ystod y gaeaf does yna ddim byd gwell. Ond allan o’r holl fwyd kaiserschmarrn oedd fy ffefryn. Roeddwn i’n cael platied i ginio ar y mynydd o leiaf unwaith yr wythnos (peth gwych am Awstria, mae’n dderbyniol i gael pwdin fel cinio yno!).

Felly beth sydd mor arbennig am Kaiserchmarrn? Wel mae’r enw yn golygu llanast yr ymerawdwr, enw da! Ac mae o’n grempog melys, sy’n cael ei wneud trwy chwipio’r gwynnwy ar wahân, a’i blygu i mewn i’r cytew, fel eich bod chi’n creu rhyw fath o grempog souffle. Mae rhai llefydd yn ei goginio yn blaen , ond mae’n boblogaidd iawn gyda chyrens ynddo hefyd, a dyna’r un dwi’n ei hoffi.

Hanner ffordd trwy’r coginio mae’r crempog yn cael ei falu yn ddarnau. Yna mae’n cael ei weini gydag ychydig o siwgr eisin ar ei ben a phowlen o gompot ffrwythau. Mae’r compot ffrwythau fel arfer yn newid o un bwyty i’r llall, eirin sy’n draddodiadol ond dwi wedi cael compot afal neu fefus hefyd a hyd yn oed bowlen o eirin gwlanog tun! Heno fe ddefnyddiais i beth oedd gennyf yn y ty, sef mefus a llys duon bach (blueberry).

Dyma chi’r rysáit, a dwi’n addo does dim angen bod ar ben mynydd yn yr eira i fwynhau hwn, ond bysa fo’n neis!

Cynhwysion

5 wy
150g blawd plaen
250ml llaeth
2 llwy fwrdd siwgr
1 llwy de echdyniad fanila
Pinsied o halen
Rhesinau
Menyn i goginio

Dull

1. Cymysgwch y melynwy, blawd, siwgr, fanila, halen a llaeth nes bod gennych gytew tenau.

2. Chwisgiwch y gwynnwy nes ei fod yn stiff, a’i blygu yn ofalus i mewn i’r cytew gyda llwy fetel.

3. Toddwch y menyn mewn padell ffrio ac ychwanegwch y cytew. Gwasgarwch ychydig o resins am ei ben a’i ffrio ar dymheredd isel.

4. Trowch y crempog drosodd a’i adael i goginio am ryw funud, yna torrwch mewn i ddarnau bach gyda fforc, a’i ffrio nes ei fod wedi coginio yn llwyr.

5. Gweinwch gydag ychydig o siwgr eisin am ei ben a chompot ffrwythau ar yr ochr.

 

 

 

 

 

 

 

 

Baked Alaska

11 Chwe

Ddydd llun fe fyddai’n feirniad ar raglen Cog1nio, rhaglen debyg i junior masterchef. Fe fyddai’n gwneud masterclass efo’r plant ac wedyn yn beirniadu eu hymdrechion nhw.

Yr hyn fydd yn rhaid i’r plant ei goginio bydd baked Alaska. Bach o blast from the past ond rhywbeth fydd, gobeithio, yn herio’r plant.

Mae rhoi hufen ia mewn popty yn swnio yn hollol hurt, ond mae’r meringue yn gweithio fel ynysydd da. A gan mai dim ond am ychydig o funudau da chi’n rhoi’r pwdin yn y popty (jysd digon i setio’r meringue) dyw’r gwres ddim yn cyrraedd yr hufen ia.

Mae’n bosib gwneud un pwdin mawr ond fe wnes i rai bach unigol. Er doeddwn i dal methu gorffen un cyfan gan ei fod mor gyfoethog. Roedd o’n flasu iawn, mae’r meringue meddal un cyferbynnu yn hyfryd efo’r hufen ia oer, a’r sbwng ar y gwaelod yn rhoi ansawdd gwahanol. Ond wir maen nhw mor felys roeddwn i’n bownsio oddi ar y waliau! Felly os da chi isio sugar hit, triwch un o’r rhain.

 

Cynhwysion

Cacen sbwng (gwnewch un eich hun, neu prynwch un o’r siop)
Jam
Hufen ia (pa bynnag flas da chi eisiau)
3 gwyn wy
125g siwgr caster

 

Dull

1. Cynheswch y popty i 220C / 200C ffan.

 

2. Torrwch sleisen o’r gacen a thorri cylch allan (neu os da chi’n ddiog fel fi torrwch sgwâr, dio’n gwneud dim gwahaniaeth). Gosodwch y gacen ar hambwrdd pobi sydd wedi’i leinio gyda phapur gwrthsaim.

3. Taenwch ychydig o jam ar y gacen a gosod pelen o hufen ia am ei ben. Rhowch yn y rhewgell i’w gadw yn oer tan da chi wedi gwneud eich meringue.

4. Er mwyn gwneud y meringue gwahanwch y wyau a gosod y gwyn wy mewn bowlen fawr lân. Nawr mae’n bwysig bod y fowlen yn hollol lân heb unrhyw saim arni neu bydd y wyau ddim yn chwisgio yn iawn.

5. Chwisgwch y gwyn wy ar gyflymder isel i ddechrau, gan gynyddu’r cyflymder yn raddol. Unwaith da chi’n gallu gwneud copaon meddal gyda’r gwyn wy, gallwch ychwanegu’r siwgr. Gwnewch hyn un llwy fwrdd ar y tro, gam barhau i chwisgio nes bod eich wyau yn drwchus ac yn sgleiniog.

6. Nawr tynnwch eich sbwng a hufen ia o’r rhewgell a gorchuddiwch gyda’r meringue. Gwnewch yn siŵr nad oes yna unrhyw dyllau o gwbl, yn enwedig o gwmpas gwaelod y gwaelod.

7. Coginiwch yn y popty am ryw 4 munud, neu nes bod y meringue wedi dechrau brownio ar y tu allan. Gweinwch a bwytewch yn syth.

Hufen ia fanila ddefnyddiais i, ond defnyddiwch pa bynnag flas da chi’n licio. Hefyd os da chi’n licio siocled beth am roi cacen siocled neu brownie siocled ar y gwaelod a defnyddio hufen ia siocled. Hyfryd!

 

 

 

 

 

 

Dathlu’r ddaear gyda Bryn Williams

7 Chwe

Bob blwyddyn mae’r WWF (y bobl anifeiliad nid y reslars) yn gofyn i bobl ar draws y byd, i droi eu goleuadau i ffwrdd am awr er mwyn arbed trydan a hefyd i bwysleisio’r pryder ynglyn a newid hinsawdd.

Mae syniad yr  Awr Ddaear yn un syml iawn ond effeithiol, dwi’m yn meddwl ein bod ni’n sylwi cymaint o oleuadau da ni’n ei ddefnyddio tan mae popeth yn mynd yn dywyll am gyfnod. Felly am 8.30pm ar 31 Mawrth  maen nhw eisiau i bawb i droi eu goleuadau i ffwrdd am awr.

Ond mae eistedd o gwmpas yn y tywyllwch yn ddiflas, felly mae’r WWF yn annog pobl i ddefnyddio’r awr yna i gael pryd rhamantus dan olau cannwyll. Maen nhw hyd yn oed wedi perswadio nifer o gogyddion enwog i gynnig ryseitiau, gan gynnwys hoff gogydd pawb yng Nghymru ar hyn o bryd, Bryn Williams.

Dwi’n ffan mawr o fwyd Bryn Williams, ar ôl cael prydau anhygoel yn Odette’s, felly roeddwn i’n edrych ymlaen i weld ei fwydlen.

Fel pryd cyntaf mae ganddo rysáit ar gyfer cawl betys, sy’n edrych yn hyfryd. Macrell gyda broad beans a chorizo yw’r prif gwrs, rhywbeth fyddai’n sicr yn ceisio ei goginio yn y dyfodol. Ac i bwdin mae’n cynnig crymbl afal a chnau castan.

Fe fyddai’n sicr yn ceisio gwneud y ddau gwrs cyntaf yn y dyfodol ond am y tro, gan mai blog pobi ydi hwn, fe benderfynais wneud y crymbl.

Mae crymbl afal yn bwdin reit glasurol ond mae techneg Bryn o bobi’r crymbl ar wahân yn golygu eich bod chi’n cael crymbl sy’n hynod greisionllyd, sy’n cyferbynnu yn berffaith gyda’r afalau meddal. Mae’r almonau yn ychwanegu at yr ansawdd yna ac yn tostio’n hyfryd i roi blas ychwanegol i’r crymbl.

Mae’n rhaid cyfaddef nad ydw i’n or-hoff o flas nag ansawdd cnau castan, ac er eu bod nhw’n ychwanegu blas llawer mwy dwfn i’r crymbl, fe fuaswn i’n bersonol yn eu gadael allan y tro nesaf. Ond chwaeth bersonol yn unig yw hynny, ac fe fuaswn i’n annog unrhyw un i drio’r cnau yn y crymbl eu hunain.

Fe wnes i gwstard cartref i fynd gyda’r crymbl, oedd yn cyd-fynd yn berffaith, er fe fuasai hufen ia yn hyfryd hefyd. Un rhybudd am y ryaist yma, mae’n gwneud digon i deulu cyfan, felly os da chi’n bwriadu cael pryd rhamantus i ddau, hanerwch y cynhwysion.

Os da chi eisiau cenogi Awr Ddaear, gallwch gofrestru eich cefnogaeth fan hyn a gwnewch y mwyaf o’r awr yn y tywyllwch gyda phryd o fwyd hyfryd dan olau cannwyll (yn anffodus fydd Bryn Williams ddim yn dod draw i’w goginio i chi!).

Cynhwysion

12 afal, wedi eu plicio
1 pod fanila
125g siwgr caster
200g o gnau castan wedi’i goginio
1 llwy de o sbeis cymysg
25g menyn

Ar gyfer y crymbl

250g blawd plaen
200g siwgr caster
200g menyn, yn syth o’r oergell
150g o almonau wedi’i sleisio

Dull


1. Cynheswch y popty i 160C/140C fan/marc nwy 3.

2. Torrwch 3 o’r afalau mewn i sgwariau bach a’u gosod mewn sosban gyda’r pod fanila a’r siwgr. Gorchuddiwch gyda jyst digon o ddŵr a’u coginio nes eu bod nhw’n feddal. Dylai hyn gymryd rhyw 5 munud, ond cadwch olwg arnyn nhw. Yna stwnsiwch yr afalau gyda fforc a’u gosod i un ochr.

3. Torrwch weddill yr afalau a’r cnau castan mewn i ddarnau maint cegaid, a thaenwch y sbeis cymysg ar eu pen.

4. Cynheswch y menyn mewn padell ffrio a ffriwch yr afalau a chnau castan am ychydig o funudau.

5. Ychwanegwch at yr afalau wedi’i stwnsio yn y sosban. Trowch y gwres yn ôl ymlaen a choginiwch am 10 munud arall, neu nes bod yr afalau a’r cnau castan wedi coginio ac yn feddal.

6. Er mwyn gwneud y crymbl cymysgwch y blawd a’r siwgr mewn bowlen fawr. Ychwanegwch y menyn mewn darnau man a’i rwbio rhwng eich bysedd nes bod y gymysgedd yn edrych fel briwsion bras. Ychwanegwch yr almonau a’u cymysgu

7. Rhowch y crymbl ar hambwrdd pobi ai goginio yn y popty am ryw 10 munud, tan fod y gymysgedd yn euraidd frown. Fe fydd hyn yn sicrhau crymbl creisionllyd.

8. Rhowch y gymysgedd afal mewn bowlenni neu ramekins unigol (gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n iawn i’w rhoi yn y popty). gorchuddiwch gyda’r crymbl a’u pobi yn y popty am 10 munud arall.

9. Gweinwch yn syth gyda digon o gwstard, hufen neu hufen ia.

 

Rum Baba

17 Ion

Tan yr wythnos hon doeddwn i erioed wedi clywed am rum baba o’r blaen. Gofynnodd fy ffrind i mi wneud rhai iddo, ond wrth gwrs doedd gennyf ddim clem beth oedd un, heb sôn am sut i’w gwneud nhw. Felly dyma ddechrau twrio trwy fy llyfrau coginio am rysait.

Fe lwyddais i ganfod tri rysait ar eu cyfer ymysg fy llyfrau, ond roedd y tri yn edrych yn hollol wahanol. Felly fe benderfynais i ddilyn rysait Dan Lepard yn bennaf, ond gan gymryd ychydig o syniadau o’r ryseitiau eraill

Rhyw fath o fara melys yw rum baba, sy’n dod yn yn wrieddiol o wlad Pwyl. Sydd, ar ôl ei goginio, yn cael ei socian mewn syryp melys o rym, fanila a lemon. Yn ôl y son (ok yn ôl wikipedia) mae’n ‘signature dish’ ym mwytai Alain Ducasse, un o chefs gorau’r byd. Felly os dio’n ddigon da iddo fo,  mae’n ddigon da i fi fyd!

Ar un pwynt doeddwn i’m yn ffyddiog y byddai’r rysait yn gweithio. Bu raid mi gymysgu’r toes a llaw gan nad yw’r kitchenaid gyda fi yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Doedd hynny ddim yn ddelfrydol gan ei fod yn gymysgedd gludiog iawn. Dwi eisiau eu trio eto ond gyda’r peiriant, dwi’n siwr y bydd o’n llawer haws ac yn creu lot llai o lanast. Y broblem arall gefais i oedd bod rhaid gadael i’r toes godi, fel bara. Ond gan ei bod hi mor oer ar hyn o bryd, fe gymerodd ddwywaith mor hir â’r disgwyl.

Gan nad oeddwn wedi bwyta na hyd yn oed gweld rum baba o’r blaen, doeddwn i ddim yn siwr sut yr oedden nhw fod i droi allan. Ond yn y diwedd fe gefais i fy siomi ar yr ochr orau, roedden nhw’n hyfryd. Mae yna flas tebyg iawn i frioche neu panattone ar y toes, ond maen nhw’n reit sych ar ben eu hunain. Dyna pam mae’r syryp rum yn hanfodol ac mae’n ychwanegu blas diddorol a chic i’r pwdin. Fe fyddai’n sicr yn eu gwneud nhw eto (ond dim ond os oes gennai’r kitchenaid!)

Cynhwysion

100ml llaeth cynnes
1½ llwy de o furum
150g blawd gwyn cryf
1 wy mawr a 1 melynwy
1½ llwy de o siwgr caster
½ llwy de o halen
50g menyn heb halen (ar dymheredd ystafell)
50g o resins

Ar gyfer y syryp
500g siwgr caster
500ml dwr
stribedi o groen lemwn
rym tywyll

Dull

1. Cynheswch fowlen gydag ychydig o ddŵr berw, a’i sychu yn llwyr. Yna ychwanegwch hanner y llaeth cynnes, burum a dwy lwy fwrdd o’r blawd. Cymysgwch a gadewch i sefyll am 15 munud, nes eich bod yn gweld swigod.

2. Tra’ch bod chi’n gwneud hyn sociwch y rhesins mewn ychydig o’r rym tywyll.

3. Yna ychwanegwch weddill y llaeth,  blawd, wy, melynwy, siwgr a halen a’i gymysgu gyda pheiriant cymysgu am 2 funud. Os nad oes gennych chi beiriant cymysgu, fe fydd raid i chi ei dylino efo’ch dwylo. Gan fod y gymysgedd yn un reit wlyb, mae angen slapio’r toes o gwmpas y fowlen yn hytrach na thylino mewn modd cyffredin. Byddwch yn barod am lanast os da chi’n gwneud hyn!

4. Nesaf mae angen ychwanegu’r menyn a’i guro (neu dylino) eto am ddau funud arall, cyn cyhwanegu’r rhesin ar ôl eu tynnu o’r rym.

5. Gorchuddiwch a’i adael mewn lle cynnes am 45 munud neu tan mae wedi dyblu mewn maint. Fe gymerodd llawer hirach na 45 munud i fi, felly mae’n werth dyfalbarhau os nag yw wedi codi rhyw lawer ar ôl 45 munud.

6. Ar ôl i’r gymysgedd godi Irwch dun myffin dwfn gyda menyn a’u hanner llenwi gyda’r cytew (dylai’r rysait wneud rhyw 5-6). Gadewch i godi unwaith eto, nes bod y cytew yn llenwi’r tun.

7. Cynheswch y popty i 200C / 180C fan a’u pobi am 25 munud.

8. Ar ôl eu coginio mae’n bosib eu gweinio yn syth neu eu cadw am ychydig o ddiwrnodau (mewn bocs gyda chaead) cyn eu socian yn y syryp.

9. Pan da chi’n barod i’w gweinio, cynheswch y siwgr, dwr, croen lemwn, fanila a sloch go dda o rym (at eich blas chi, ond mae modd ei dynnu allan os yw plant am ei fwyta).

10. Yna rhowch y babas yn y syryp a’u gadael i socian am ychydig o funudau, gan sicrhau eich bod chi’n eu troi drosodd.

11. Yna gweinwch gydag ychydig o’r syryp ar eu pen ac ychydig o hufen chwisg (neu hufen ia os da chi ddim yn licio hufen fel fi!)

Roulade siocled

15 Ion

20120113-191332.jpg

Dwi’n gwybod na fues i’n blogio rhyw lawer dros y nadolig, ond dyw hynny ddim yn golygu na fues i’n coginio. A dweud y gwir fi oedd yn gyfrifol am wneud cinio dolig i’r teulu eleni, a hynny am y tro cyntaf. Wrth gwrs roedd rhaid gwneud pwdin arbennig, ond does yna’m llawer o bobl yn ein teulu ni sy’n licio pwdin dolig. Yn sicr dwi ddim! Mae’n llawer rhy gyfoethog a thrwm i fwyta ar ôl pryd mor fawr. Felly fe benderfynais wneud roulade siocled ar gyfer y dydd, llawer ysgafnach na phwdin nadolig, a pwy sydd ddim yn licio siocled?

Nawr dwi’n gwybod pawb di hen ddiflasu efo’r nadolig erbyn hyn, ond roeddwn i’n meddwl bod o’n werth rhannu’r rysait yma efo chi, gan fod roulade yn bwdin perffaith ar gyfer unrhyw achlysur.

A gan ei bod hi’n flwyddyn newydd, a rhai ohonom (gan gynnwys fi!) yn ceisio bwyta’n iach, mae modd gwneud y roulade yma yn weddol iachus. Hynny yw os ydych chi’n cyfnewid yr hufen dwbl am iogwrt neu creme fraiche braster isel. Hefyd does dim blawd ynddo, sy’n ei wneud yn ysgafn awn, ac yn gluten free. Felly beth sydd yna i beidio ei licio?

Mae yna filoedd o ryseitiau roualde i’w cael ond rysait gan Merry Berry yw hwn.

 

 

Cynhwysion

175g siocled tywyll, o leiaf 70% cocoa solids

6 wy, wedi eu gwahanu

175g siwgr caster

2 llwy fwrdd o bowdr cocoa

300ml hufen dwbl

Ychydig o ffrywthau fel mefus neu fafon

Dull

1. Cynheswch y popty I 180C/160 fan ac irwch dun swiss roll a’i leinio gyda papur gwrth saim.

2. Torrwch y siocled yn ddarnau man, a’i doddi mewn bowlen sydd wedi ei osod dros sosban o ddŵr sy’n mudferwi. (gwnewch yn siwr nad yw’r fowlen yn cyffwrdd y dŵr o gwbl)

20120113-191658.jpg

3. Rhowch y 6 gwyn wy mewn bowlen a’i chwisgo tan ei fod yn stiff, ond gofalwch nad ydych chi’n ei or-wisgio. Dyle’ chi fod yn gallu dal y fowlen uwch eich pen heb iddo gwympo allan!

20120113-192007.jpg

4. Rhowch y 6 melynwy mewn bowlen arall gyda’r siwgr a’i chwisgo am 2-3 munud nes ei fod yn edrych fel hufen trwchus.

5. Ar ôl i’r siocled oeri rhywfaint, ychwanegwch at y melynwy a’r siwgr, a’i blygu yn ofalus, nes ei fod wedi cymysgu yn llwyr.

6. Yna gan ddefnyddio llwy fetel mawr ychwanegwch ddau lond llwyaid o’r gwyn wy at y gymysgedd siocled. Mae hyn yn llacio’r gymysgedd ac yn ei gwneud hi’n haws i gymysgu gweddill y gwyn wy heb golli’r holl aer.

20120113-192323.jpg

7. Ychwanegwch weddill y gwyn wy a’i blygu yn ofalus. Felly cymysgu yn ofalus mewn ffigwr wyth, yn hytrach na’i guro yn galed.

8. Hidlwch y powdr coco dros y cyfan a’i blygu yn ysgafn.

20120113-192504.jpg

9. Tywalltwch y gymysgedd i mewn i’r tun, gan ei wthio yn ofalus i’r corneli.

10. Pobwch am 20-25 munud nes bod y gymysgedd wedi codi, a bod y top yn teimlo’n eithaf cadarn. Gadewch iddo oeri yn y tun (fe fydd y roulade yn disgyn rhywfaint wrth iddo oeri, ac efallai y bydd y top yn cracio rhywfaint).

11. Chwisgiwch yr hufen nes ei fod yn weddol stiff a pharatowch eich ffrwythau.

12. Gosodwch ddarn o bapur gwrthsaim ar eich bwrdd a thaenu ychydig o siwgr eisin ar ei ben. Gosodwch y roulade ar ei ben, fel bod y papur leinio yn eich wynebu. Yna, yn ofalus, tynnwch y papur i ffwrdd.

20120113-192749.jpg

13. Taenwch yr hufen ar ben y roulade, gan adael gofod o 2cm yr holl ffordd o gwmpas yr ochr. Rhowch eich ffrwythau ar ben yr hufen.

14. Nawr mae’n amser rolio! Gydag un o’r ochrau byrraf yn eich wynebu chi, torrwch linell gyda chyllell finiog ryw 2cm o’r pen, gan sicrhau mai dim ond hanner ffordd trwy’r roulade yr ydych chi’n torri. Bydd hyn yn eich helpu chi i ddechrau rholio. Yna roliwch y darn yma drosodd yn ofalus, yna defnyddiwch y papur i’ch helpu chi i rolio gweddill y roulade yn dynn, trwy ei dynnu oddi wrthoch chi tra da chi’n rholio.

Peidiwch â phoeni os yw eich roulade yn cracio (fe wnaeth fy un i) mae’n eithaf cyffredin ac yn ychwanegu at edrychiad terfynol y pwdin.

Gweinwch gydag ychydig o siwgr eisin ar ei ben.

Blog Gwadd: Pwdin Llenwi Eirin Duon (Clafoutis)

22 Medi

Mae fy mrawd Rhodri yn dipyn o gogydd ei hun, ac yn wahanol i fi mae o’n gallu gwneud bara gwych. Mae o wedi addo ysgrifennu blog gwadd ers peth amser, ond er syndod i fi nid blog ar fara ges i, ond blog ar clafoutis. Dwi erioed wedi gwneud na bwyta clafoutis, felly dwi’n edrych ymlaen at drio hwn fy hun, mae n edrych yn hyfryd!

Da di’r adeg yma o’r flwyddyn; ffrwythau a llysiau yn cael eu cynhaeafu ym mhob man a bob math o lysiau a ffrwythau ffresh. Ma ‘leni di bod yn flwyddyn lewyrchus iawn ar gyfer coed ffrwythau ac mae’r cnwd falau a gellyg yn yr ardd wedi bod yn anhygoel o feddwl cyn dloted oedden nhw llynedd.

Ond un broblem gyda chynhaeafu ydi bod na ormodedd, neu glut, o gynnyrch. Ma gwynebu trin 10 kilo o ffa dringo ar gyfer rhewi yn ddigon i wneud i rywun estyn am y botal jin. Tri opsiwn sydd na: cymryd gwyliau ac ista lawr i fyta’r lot cyn bod nhw’n troi; gneud jam neu jytnis nes bod eich cegin, dillad a gwallt yn un llanast sdici melys; neu rannu bwyd gyda phobol eraill.

Chwarae teg i Hywel sydd hefyd wedi bod yn garddio, am gynnig eirin duon, neu damsons, i ni leni yn ogystal â’r tatws. Gesh i un set fis yn ôl a gwneud jam efo nhw, ond roedd yr ail set yn edrych yn llawer tywyllach a mwy parod. Gan bod y cwpwrdd yn barod yn llawn jam, penderfynais i drio addasiad o rysait oedd wedi codi chwant arna i yn y llyfr coginio New Bistro gan Fran Warde. Ma’r llyfr yn un difyr gyda llawer o glasuron Ffrengig ynddo, gydag arddull goginio syml sydd yn canobwyntio ar gynnyrch da. Mae’r holl ryseitiau wedi eu dewis gan fistros gwahanol ar draws Ffrainc gan roi hanes y bistro gyda’r ryseitiau sydd yn aml yn arbenigeddau lleol.

Clafoutis ffrwythau mirabelle yw’r rysait, ond dyw mirabelles, sef eirin bach melyn gyda blas mwyn ysgafn, ddim ar gael ym Mhrydain yn hawdd. Felly driais i roi tro arni gyda eirin duon. Gyda llaw, mae ‘clafoutis’ yn air Ocsitaneg, o ardal Limousin, sy’n golygu “i lenwi”.

Llenwi bol amdani felly! Neu “sdaco bola’n dynn” fel ma ffrind yn hoffi dweud.

Dyma’r rysait…

Cynhwysion

800g eirin duon (neu unrhyw ffrwyth meddal tebyg: ceirios, eirin, greengage ayyb)

50g blawd plaen(2 owns)

85g Siwgr (3owns) – ond faswn i’n rhoi mwy ar gyfer eirin duon tro nesa am fod y blas braidd yn rhy tart i fi – ond esgus i’w fyta efo llwyth o hufen ia fanila!)

Pinsiad o halen

650ml llaeth gafr (ond nes i ddefnyddio llaeth arferol)

4 wy

2 felynwy

menyn i iro

Dull

Ma hwn mor hawdd ei fod bron yn wirion.

  1. Cneswch y popty i 190C.
  2. Ffeindiwch ddysgl fydd yn ffitio’r eirin nes eu bod nhw’n gorwedd yn drwch o tua un neu ddau mewn dyfnder a’i iro gyda chydig fenyn (neu anghofiwch yn llwyr am hyn fel nesh i…).
  3. Rhowch y blawd, halen a siwgr mewn powlen, ei gymysgu a gwneud pant bach yn y canol ar gyfer cymysgu’r cytew.
  4. Curwch yr wyau mewn jwg ar wahan, a churo’r llaeth ato fesul tipyn.
  5. Curwch y gymysgedd yma’n araf mewn i’r blawd a siwgr, nes ei fod yn gytew llyfn. Mi fydd yn llawer gwlypach na chytew crempog.
  6. Golchwch yr eirin gan dynnu unrhyw goesynnau neu frychau oddi arnyn nhw. Gallwch dynnu’r cerrig os gallwch chi fod yn arsed, ond yn ysbryd hawdd y pwdin dwi di’i gadal nhw mewn, a ma’r rysait gan y bistro Ffrengig yn deud bod y cerrig yn ychwanegu at y blas. A phwy dwi i ddadla fo hynny!
  7. Sdiciwch nhw yn y ddysgl, a tholltwch y cytew drostyn nhw. Roedd gen i ormod o gytew, ond dolltish i o nes bod pennau bach piws rhai o’r eirin yn dangos drwyddo.
  8. Mewn i’r popty â fo am 30 munud.
  9. Trowch y popty lawr i 150C a pharhau i goginio am 20 munud.
  10. Dylai fod y top yn euraid gyda’r sudd yn ffrwtian yn hapus drwy’r tyllau. Rhowch gyllell mewn yn y canol i weld os yw’r cytew wedi setio. Os taw dim ond sudd yr eirin da chi’n gael ar y gyllell wrth dynnu allan mae o’n barod. Fel arall rhowch rhyw ddeg munud bach arall iddyn nhw.

Rysait hawdd ellid ei addasu ar gyfer pob math o ffrwythau dwi’n siwr. Ma gellyg yn opsiwn hefyd am rywbeth ysgafnach ei flas.

Panacotta

15 Meh

Un o fy hoff bwdinau i ydi panacotta, dwi’m yn siwr pam, dwi’n casau hufen fel arfer!

Ond dyma un o’r ryseitiau y dysgais i’w wneud ar y cwrs coginio Eidalaidd ryw fis yn ôl.

Dwi rwan wedi ei wneud adref ac mae o mor syml dwi ddim yn gwybod pan nad oeddwn wedi ceisio ei wneud cyn hyn (dwi’n meddwl efallai fy mod i ofn y gelatin!)

Mae’r rysait isod yn ddigon ar gyfer dau.

Cynhwysion

100ml hufen

100ml llaeth

50g siwgr

½ vanilla pod

1 ½ -2 sheet o gelatin (wedi eu socian mewn dŵr oer)

Dull

1. Holltwch y vanilla pod yn hanner a rhowch yr hadau mewn sosban gyda’r llaeth, hufen a siwgr.

2. Berwch y llaeth, hufen a siwgr.

3. Yn y cyfamser rhowch y gelatin i socian mewn dŵr oer.

4. Unwaith iddo ferwi tynnwch oddi ar y gwres ac ychwanegwch y gelatin.

5. Gwnewch yn siwr fod y gelatin wedi toddi a tolltwch fewn i ramekin a’i roi yn yr oergell i setio.

6. Unwaith da chi’n barod i weini, rhowch waelod y ramekin mewn bowlen o ddwr berwedig am ychydig eiliadau, a dechreuwch i ryddhau y panacotta o ochr y ramekin cyn ei daro allan ar blat.

Dyna ni mae mor hawdd a hynny!

Ac yn lle taflu’r vanilla pod sy’n weddill rhowch mewn jar o siwgr, i wneud siwgr vanilla.

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn