Archif | Ryseitiau RSS feed for this section

Semlor – Byns Cardamom o Sweden

11 Chwe

semlor

 

 

Yr adeg yma o’r flwyddyn da ni gyd yn cofio bod crempogau yn bodoli ac yn gwagio silffoedd yr archfarchnadoedd o flawd, wyau a jiff lemon wrth i ni ddathlu dydd Mawrth Ynyd gyda brwdfrydedd.

Dwi wrth fy modd gyda chrempogau, ond os caf i esgus i wneud rhywbeth arall yna dwi am neidio ar y cyfle i ehangu fy ngorwelion ychydig.

Wrth gwrs nid y ni yw’r unig wlad i ddathlu’r diwrnod olaf yma cyn y Grawys, ond mae gwledydd eraill yn gwneud defnydd gwahanol o’r wyau, siwgr a menyn sydd yn y cypyrddau. Yn Sweden a llawer o wledydd Sgandinafiaiadd eraill nid crempogau maen nhw’n ei wneud ond Semlor – byns bach cardamom, wedi’i llenwi gyda phast marsipán a hufen.

Fy ffrind i Pia o Sweden wnaeth fy nghyflwyno i’r danteithion hyfryd yma yn wreiddiol. Pan yrrodd lun o’r cacennau bach hyn i mi, ro’n i’n gwybod bod rhaid i mi gael y rysáit. Gan eu bod nhw’n seiliedig ar does bara, mae ‘na gryn dipyn mwy o waith i’r rhain na chrempog, ond os cewch chi’r amser mae’n werth eu trio, does dim rhaid cyfyngu eich hunain i ddydd Mawrth Ynyd.

Mae’r sbeis o’r cardamom yn ysgafn iawn ond yn rhoi blas ychydig yn wahanol iddyn nhw, a’r hufen a’r marsipán wedyn yn ychwanegu’r melystra. Mae’r rysáit wreiddiol yn cynnwys almonau chwerw, ond maen nhw’n anghyfreithlon yn y wlad hon gan eu bod nhw’n wenwynig os ydych yn bwyta gormod! Er hynny dwi wedi cael cyflenwad arbennig gan fy ffrind yn y post, ond fe fydd y rhain yr un mor neis heb yr almonau chwerw.

Cynhwysion

500g o flawd bara cryf

14g o furum sych

100g o siwgr mân

5g o halen

1 wy bach

250ml o laeth braster llawn

7 pod cardamom neu llwy de o gardamom mâl

100g o fenyn heb halen

 

I’w llenwi

150g o farsipán

300ml o hufen dwbl

½ llwy de o rin fanila (vanilla extract)

2 llwy fwrdd o siwgr eisin

 

Dull

Toddwch y menyn mewn sosban ac ychwanegwch y llaeth. Tynnwch yr hadau o’r podau cardamom a’u malu yn fân gyda phestl a mortar, neu waelod pin rholio, a’u hychwanegu at y llaeth. Cynheswch i 37°C (tymheredd y corff). Gofalwch nad yw’n rhy boeth gan y bydd gormod o wres yn lladd y burum.

Mewn powlen, cymysgwch y blawd, y siwgr, yr halen a’r burum. Ychwanegwch yr wy ac yna hidlwch y llaeth i’r gymysgedd, er mwyn dal yr hadau cardamom.

Rhowch ychydig bach o flawd ar y bwrdd a thylinwch y toes am 10 munud nes ei fod yn llyfn.

Rhowch y toes mewn bowlen wedi ei iro gydag olew a gorchuddiwch gyda cling film. Gadewch i’r toes godi mewn rhywle cynnes am awr.

Rhannwch y toes yn ddarnau crwn tua 60g yr un (ychydig yn fwy na pel golf ) a’u gosod ar dun pobi gydag ychydig o flawd wedi ei ysgeintio arno. Gorchuddiwch gyda cling film neu liain sychu llestri a’u gadael am awr a hanner arall i godi.

Cynheswch y popty i 230°C/ Ffan 210°C/ Nwy 8 a’u pobi am 10 munud nes eu bod nhw’n euraidd frown.

Gadewch i oeri ar rwyll fetel.

Yn y cyfamser chwipiwch yr hufen gyda’r fanila a’r siwgr eisin.

Gratiwch y marsipán a’i gymysgu gydag ychydig bach o laeth i ffurfio past meddal.

Pan fo’r byns yn oer torrwch y topiau i ffwrdd a’u gosod i un ochr.

Tynnwch ychydig o’r bara allan o ganol y byns a cymysgwch y briwsion bara gyda’r past marsipan a llenwch y twll gyda’r gymysgedd.

Peipiwch ychydig o’r hufen am ei ben, a rhowch y caead yn ôl am eu pennau.

Ysgeintiwch ychydig o siwgr eisin am eu pennau a mwynhewch!

Madeleines

2 Chwe

IMG_6726

Mae’r cacennau bach Ffrengig yma yn syml iawn ond mae nhw’n hynod flasus ac mae nhw’n ddel iawn gyda’u siap cragen unigryw. Yn draddodiadol daw’r cacennau yma o Commercy yn ardal Lorraine o Ffrainc, ac maer spwng ysgafn yn aml wedi’i flasu gyda lemon, oren neu almonau.

Mae rhain yn hawdd iawn i’w gwneud ond er mwyn cael y siap cragen enwog, mae angen tun arbennig. Roeddwn i’n lwcus i gael rhai silicon hyfryd gy fy mrawd yn anrheg. Ac er ei bod posib hi’n bosib gwneud rhain mewn tun cacennau bach neu dun mins peis, fydden nhw ddim cweit mor ddeniadol.

IMG_6722

Mae nhw orau yn ffres allan o’r popty wedi’i hysgeintio gydag ychydig o siwgr eisin. Ond hyd yn oed ddyddiau wedyn, mae nhw’n hyfryd wedi’u trochi mewn paned o de neu goffi.

Cynhwysion

2 wy

80g siwgr mân

2 lwy fwrdd mêl

100g menyn

100g blawd plaen

1 llwy de powdr codi

1 llwy de rhin fanila

Dull

1. Cynheswch y popty i 180°C /160°C ffan

2. Toddwch y menyn mewn sospan a’i roi i un ochr.

IMG_1749

3. Irwch eich tuniau madeleines drwy eu brwsio gyda’r menyn wedi’i doddi.

IMG_6715

4. Chwisgiwch yr wyau a’r sigwr gyda chwisg drydan nes ei fod ewynnog ac wedi’i ddyblu mewn maint.

5. Ychwanegwch y fanila a’i gymysgu.

6. Ychwanegwch y blawd ‘ar powdr codi a’i blygu yn ofalus, gan sicrhau nad ydych yn cnocio’r aer allan o’r wyau.

7. Plygwch y menyn wedi’i doddi mewn i’r gymysgedd.

8. llenwch eich tuniau nes eu bod yn 2/3 llawn.

9. Coginiwch am 10 munud, nes eu bod wedi codi ac wedi dechrau brownio.

IMG_3211

Bisgedi Santes Dwynwen

25 Ion

20130125-175951.jpg

 

Diwrnod Santes Dwynwen hapus i chi gyd!

Da ni mor lwcus fel cenedl i gael ein nawddsant cariadon ein hunain. Da ni’n cael dathlu cyn y Saeson a da ni ddim yn gorfod talu trwy’n trwynau i brynu blodau neu fynd am swper. Mae o’n teimlo’n llawer mwy diffuant ac yn llai masnachol.

Ac mae’n braf gweld bod y dydd wedi cynyddu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi’n cofio gweithio ym Mwrdd yr Iaith bron i ddeng mlynedd yn ôl, pan roedd rhaid i’r Bwrdd argraffu ei gariadau Santes Dwynwen ei hun, er mwyn hyrwyddo’r dydd. Doedd hi ddim yn hawdd cael gafael ar gardiau santes Dwynwen ar y pryd, ond erbyn hyn, mae yna ddewis eang ar gael, ac mae busnesau yn dechrau gweld gwerth dathlu diwrnod santes Dwynwen, boed nhw yn siopau neu yn fwytai. Er diolch byth tydi oddim yn uffern fasnachol fel Valentines Day.

Wrth gwrs dwi’n byw yn Llundain felly dyw Santes Dwynwen ddim mor amlwg yma, ond mae yna un lle sydd yn cynnig profiad arbennig ar ddiwrnod Santes Dwynwen, sef bwyty Bryn Williams, Odette’s yn Primrose Hill. Felly dyna yn union ble fydda i a Johny fy nghariad yn mynd heno. Maen nhw’n gwneud bwydlen rannu arbennig, ac os ydio mor dda â’r un gawsom ni ddwy flynedd yn ôl yna fe fyddai’n hogan hapus iawn heno. Dwi’n addo rhannu’r manylion efo chi ar ôl i ni fod.

Ond cyn hynny dwi wedi pobi bisgedi bach neis ar gyfer y diwrnod arbennig hwn.

Bisgedi fanila reit syml ydi’r rhain ond maen nhw’n blasu’n hyfryd, ac wrth gwrs gallwch eu haddurno nhw fel da chi eisiau, ond gan ei bod hi’n ddiwrnod y cariadon roedd yn rhaid i mi wneud calonnau pinc!

Cynhwysion

Bisgedi

220g blawd plaen

pinsied o halen

125g menyn heb halen oer

100g siwgr caster

1 wy

1 llwy de rhin fanila

 

Eisin

1 gwyn wy

½ llwy de o sudd lemon

200g o siwgr eisin

 

Dull

1. Cymysgwch y blawd, siwgr a halen mewn powlen.

2. Rhwbiwch y menyn oer i mewn i’r cynhwysion sych nes ei fod yn edrych fel briwsion. Neu gymysgwch gan ddefnyddio prosesydd bwyd, neu beiriant cymysgu.

3. Ychwanegwch yr wy a’r rhin fanila a chymysgu nes bod y toes yn dechrau dod at ei gilydd.

4. Yna, gyda’ch dwylo, tylinwch y toes am ryw funud nes ei fod yn glynu at ei gilydd mewn pelen ac yn llyfn.

5. Lapiwch y toes mewn cling film, a’i roi yn yr oergell am 30 munud.

6. Cynheswch y popty i 180°C / Ffan 160°C/ Nwy 4 a leiniwch ddau dun pobi hirsgwar gyda phapur gwrthsaim.

7. Ar ôl i’r toes oeri’n ddigonol ysgeintiwch ychydig o flawd ar y bwrdd a rholiwch y toes allan nes ei fod yn 5mm o drwch

20130125-180042.jpg

8. Torrwch eich bisgedi allan gan defnyddio torrwyr siap calon, neu unrhyw siap arall sy’n mynd a’ch bryd, a’u gosod ar eich tun pobi.

20130125-180031.jpg

9. Coginiwch yn y popty am 10-12 munud nes bod yr ochrau yn dechtrau lliwio.

10. Trosglwyddwch i rwyll fetel i oeri.

11. Er mwyn gwneud yr eisin, chwisgiwch y gwynwy gyda chwisg drydan nes ei fod yn ewynnog, ychwanegwch y sudd lemon a chymysgu.

12. Yna ychwanegwch y siwgr eisin yn raddol, a chwisgio nes ei fod yn weddol drwchus. Mae angen i’r eisin fod yn ddigon trwchus i beidio â rhedeg, ond yn ddigon tenau i’w beipio.

20130125-180018.jpg

13. Os ydych eisiau lliwio eich eisin, ychwanegwch ychidg bach iawn o bast lliw (dwi’n defnyddio ffon gotel i gael jysd digon)

14. Rhowch yr eisin mewn bag eisio bach a thorrwch dwll yn y pen (os oes angen) a pheipiwch addurn ar eich bisgedi.

15. Gadewch i’r eisin galedu cyn bwyta.

Rhannwch gyda eich cariad neu sglaffiwch y cyfan eich hun. Mwynhewch!

Tartenni lemon meringue bach

11 Hyd

Ar hyn o bryd dwi’n teimlo fel fy mod i’n dechrau pob blog efo ymddiheuriad! Mae’r cyfnod rhwng pob un yn llawer rhy hir ar hyn o bryd. Ond mae’n rhaid cyfaddef dwi prin wedi bod yn pobi yn ddiweddar. Yn y ddau fis diwethaf dwi wedi gorffen y llyfr, symud yn ôl i Lundain, dechrau swydd newydd ac wedi treulio’r tair wythnos diwethaf yn mynd o un gynhadledd wleidyddol i’r llall. Felly dwi prin wedi cael amser i fi fy hun, heb sôn am amser i dreulio yn y gegin.

Ond y diwrnod o’r blaen fe gafodd Johny a fi ein gwahodd i fynd am swper gyda ffrindiau sy’n byw rownd y gornel, ac wrth gwrs fe wnes i gynnig gwneud pwdin. A dweud y gwir mae disgwyl cacen neu bwdin bob tro maen nhw’n fy ngweld i’r dyddiau. Dwi’n torri ffon i guro’n hun!

Ond beth i’w wneud oedd y cwestiwn, felly fe borais drwy fy llyfrau coginio yn chwilio am ysbrydoliaeth. Yn y diwedd fe benderfynais wneud rhyw fath o darten fach unigol i ni gyd, gan setlo ar rai lemon meringue yn y diwedd. Doeddwn i erioed wedi gwneud un o’r blaen, ond maen nhw’n ddigon hawdd mewn gwirionedd.

Cynhwysion

Ar gyfer y toes

330g o flawd plaen

200g o fenyn oer

75g o siwgr mân

1 wy

1 llwy fwrdd o ddŵr oer

Ar gyfer y llenwad

1 tun laeth cyddwys (pwy wyddai mai dyna di condensed milk yn Gymraeg?)

3 melynwy mawr

croen a sudd 3 lemon

3 gwyn wy

150g siwgr caster

Dull

Hidlwch y blawd i bowlen a thorrwch y menyn yn ddarnau bach, a’u rhwbio i mewn i’r blawd nes bod y gymysgedd yn edrych fel briwsion.

Yna ychwanegwch y siwgr a’i gymysgu â llwy cyn ychwanegu’r dŵr a’r wy a chymysgu gyda llaw nes bod y cyfan yn dod at ei gilydd i ffurfio pelen.

Tylinwch am ryw funud er mwyn sicrhau fod y toes yn llyfn, yna lapiwch ef mewn cling film a’i osod yn yr oergell am o leiaf 30 munud.

Ar ôl i’r toes oeri roliwch ef allan nes ei fod rhyw 4mm o drwch; torrwch gylchoedd i ffitio’ch tuniau. Dwi’n defnyddio tuniau tartenni bach unigol sy’n 10cm ar draws a gyda gwaelod rhydd.

Rhowch y toes yn y tuniau, (bydd y rysait yn gwneud digon ar gyfer 8) a gwasgu’n ofalus i’r ochrau. Torrwch unrhyw does sy’n weddill trwy rolio eich pin rholio ar draws dop y tun.

Rhowch y tuniau yn y rhewgell am 10 munud, yn y cyfamser cynheswch y popty i 180˚C/ Ffan 160˚C/ Nwy 4.

Rhowch ychydig o bapur gwrthsaim ar ben y toes a llenwi’r tuniau gyda phys ceramig a’u rhoi yn y popty am 15 munud. Yna tynnwch y papur gwrthsaim a’r pys a choginio’r toes am 5 munud arall.

I wneud y llenwad, rhowch y llaeth cyddwys mewn powlen, ychwanegwch y tri melynwy, croen lemon wedi’i gratio yn fân a’r sudd lemon, a’i gymysgu yn dda. Fe fydd yn mynd yn fwy trwchus yn naturiol.

Rhowch y 3 gwynnwy mewn powlen lân a’u chwisgio gyda chwisg drydan nes eu bod yn drwchus, ond ddim yn hollol stiff. Yna ychwanegwch y siwgr caster, lwy ar y tro, gan chwisgio yn llwyr bob tro. Ar ôl ychwanegu’r holl siwgr, parhewch i chwsigio nes ei fod yn drwchus ac yn sgleinio.

Llenwch y cesys gyda’r llenwad lemon. Yna rhowch y meringue mewn bag peipio, a’i beipio mewn blobs bach ar ben y llenwad lemon.

Rhowch yn ôl yn y popty am ryw 20 munud, nes bod y meringue yn dechrau brownio.

Rhowch ar rwyll fetel i oeri rhywfaint.

Gallwch eu bwyta yn gynnes neu yn oer.

Cacen Ferwi Nain

1 Meh

Wel helo, mae hi di bod yn sbel ers i mi bostio diwethaf ac mae’n ddrwg gen i am hynny. Mae’r llyfr yma wedi hawlio pob munud sbâr sydd gen i. Ond dwi’n tynnu i’r terfyn o’r diwedd, mae gen i wythnos i ffwrdd o’r gwaith a dwi’n bwriadu ei orffen yn yr amser hynny. Felly tra bod pawb arall yn mwynhau’r gŵyl banc, fe fydda i wedi cloi fy hun i’r cyfrifiadur. Dwi’n siŵr mai fi di’r unig un sy’n gobeithio y cawn ni’r glaw gŵyl banc traddodiadol, fel nad oes gen i demtasiwn i adael y tŷ.

Ond dwi’n cael noson dawel heno, felly roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n hen bryd i fi flogio rhywbeth.

Wrth ysgrifennu’r llyfr yma dwi wedi bod yn chwilio am syniadau ymhobman. Dwi wedi gofyn i ffrindiau ac aelodau’r teulu am eu hoff ryseitiau, ond dwi hefyd wedi bod yn pori trwy lyfrau fy Nain.  Mae gan Nain lyfr nodiadau o ryseitiau, un bach glas, a thudalennau wedi’u staenio gydag olion ei choginio. Dwi’n cofio ei gweld hi’n ei ddefnyddio fo pan oeddwn i’n iau, ond tan i mi ddechrau ysgrifennu’r llyfr yma doeddwn i ddim wedi edrych arno’n iawn. Dwi rŵan wedi’i fabwysiadu (ok dwi wedi ei ddwyn o!) gan nad yw hi’n ei ddefnyddio mwyach. Mae’r gacen ferwi yn un o’r ryseitiau o’r llyfr yma. Mae hi’n gacen ffrwythau hyfryd, sydd yn hawdd iawn ac yn sydyn i’w gwneud.

Cynhwysion

315ml llaeth

60g menyn

115g siwgr brown golau

230g ffrwythau sych cymysg

1 llwy de o sbeis cymysg

½ llwy de o sinsir sych

230g blawd codi

1 llwy de o soda pobi

Pinsied o halen


Dull

1. Cynheswch y popty i 190C / 170C ffan ac irwch a leiniwch dun torth.

2. Rhowch y llaeth, menyn, siwgr, ffrwythau cymysg a’r ddau sbeis mewn sosban a chodi berw. Gadewch i’r gymysgedd fudferwi am 5 munud.

3. Yna hidlwch y blawd, soda pobi a’r halen ato a’i gymysgu yn llwyr.

4. Trosglwyddwch i’ch tun bara a phobwch am 50 munud.

5. Tynnwch allan o’r tun a’i adael ar restl fetel i oeri.

6. Bwytewch gyda haenen dew o fenyn.

Cacen Guinness

26 Maw

Ia Guinness mewn cacen, mae’n swnio’n od, ond wir i chi mae o’n gwneud synnwyr pan da chi’n ei drio! A dweud y gwir cacen siocled a guinness yw hon, ond mae hi mor wahanol i unrhyw gacen siocled arall. Mae’n ddwys, yn gyfoethog, ond dyw o ddim yn or-felys gan fod y guinness yn rhoi cic chwerw iddo. Mae’n berffaith ar ei ben ei hun, gan ei fod yn ddigon llaith, ond dwi’n licio rhoi eisin menyn ar ei ben. Mae’n ychwanegu ychydig bach mwy o felyster (mae gen i ddant melys!) ond mae’r eisin gwyn gyda’r gacen ddu hefyd yn gwneud iddo edrych yn debycach i beint o guinness.

Mae fy nghariad yn Wyddel a rysáit ei deulu o yw hon, ac roedd ei fam yn iawn pan ddywedodd bod y gacen yn plesio pawb. Pan es i a’r gacen hon i’r gwaith fe gefais i ymateb gwych gan bawb. Trïwch hi, mae hi mor hawdd i’w gwneud a dwi’n addo y bydd hi’n dod yn ffefryn. Mae’n sicr yn un o fy hoff gacennau i ar hyn o bryd.

Cynhwysion

120g menyn heb halen

250g siwgr brown tywyll

2 wy

170g blawd plaen

60g powdr coco

1 llwy de o soda pobi

½ llwy de o bowdr codi

200ml Guinness

Ar gyfer yr eisin

125g menyn heb halen, meddal

250g siwgr eisin

½ llwy de o echdyniad fanila

3 llwy fwrdd o laeth

Dull

1. Cynheswch y popty i 180C/160C ffan, ac irwch a leinio tun crwn dwfn neu dun torth.

2. Curwch y siwgr a’r menyn nes ei fod yn ysgafn, o leiaf 4 munud gyda chwisg trydan.

3. Ychwanegwch y wyau, un ar y tro, gan guro yn llwyr rhwng bob un.

4. Yna hidlwch y blawd, powdr coco, soda pobi a phowdr codi, a’i blygu mewn gyda llwy fetel neu spatula.

5. Yn olaf ychwanegwch y guinness a’i gymysgu yn llwyr.

6. Rhowch ac i mewn i’r popty cyn gynted â phosib, gan mai’r adwaith rhwng y guinness a’r soda pobi fydd yn gwneud i’r gacen godi.

7. Pobwch am awr, nes bod sgiwer yn dod allan o’r gacen yn lan.

8. Gadewch iddo oeri ar restl metel, cyn ei eisio gydag eisin menyn.

9. Er mwyn gwneud yr eisin menyn, cymysgwch y menyn, siwgr eisin, echdyniad fanila a’r llaeth. Cymysgwch am 5 munud gyda chwisg trydan er mwyn cael eisin ysgafn.

Dwi’n caru cacs bach

11 Maw

Welshcakes, pice ar y maen, cacennau cri … neu fel mae fy nheulu i’n eu galw nhw … cacs bach. Beth bynnag da chi’n eu galw nhw, does dim curo ein cacen genedlaethol. Mae’n teulu ni wrth eu boddau efo nhw, ac yn eu gwneud nhw byth a beunydd. Fy hoff beth i fel plentyn oedd bwyta’r toes heb ei goginio, er bod dad yn dweud y buasai’n sticio at fy nghalon! A dwi’n sicr nad oes neb yn gallu eu gwneud nhw’n well na dad. Ond dwi’n trio fy ngorau!

Dwi’n chwyrn fy marn ynglŷn â sut yn union y dylai cacs bach fod. Maen nhw i fod yn syml ac yn blaen, felly plîs peidiwch â rhoi sbeis ynddyn nhw. A pheidiwch â hyd yn oed sôn am y rhai da chi’n gallu eu prynu gyda jam yn y canol, hollol hurt!

Mae lot o ryseitiau ar gyfer cacs yn defnyddio menyn yn unig, ond mae rysáit dad yn defnyddio hanner menyn a hanner lard. Nawr dyw lard ddim yn ffasiynol iawn y dyddiau yma ond mae’n gwneud gwahaniaeth mawr i flas ac ansawdd y cacennau felly maen werth ei drio.

Dylid coginio’r rhain ar radell haearn ond os nad oes gennych chi un mae’n bosib eu gwneud nhw mewn padell ffrio reit drwm hefyd.

Cynhwysion

1lb blawd codi

4 oz menyn

4 oz lard

5oz siwgr

4oz syltanas

1 wy

sblash o laeth

 

Dull

1. torrwch y menyn a’r lard mewn i ddarnau bach a’i rwbio i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel briwsion.

 

2. Ychwanegwch y siwgr, syltanas a’r wy, a’i gymysgu nes eich bod yn ffurfio pelen o does. Ychwanegwch sblash o laeth os oes angen.

3. Roliwch y toes allan nes ei fod yn rhyw ¼ modfedd o drwch a thorrwch allan gylchoedd, neu galonnau fel gwnes i y tro hwn. (doeddwn i methu ffeindio’r torrwr crwn!)

 

 

4. Cynheswch y radell a’i rwbio gydag ychydig o fenyn. Yna gosodwch eich toes ar y radell a’u coginio am ryw 2-3 munud ar bob ochr.

5. Tynnwch oddi ar y radell a’u hysgeintio gydag ychydig o siwgr.

6. Triwch beidio eu bwyta i gyda ar unwaith, er dwi’n gaddo bydd hynny yn anodd iawn. (2-4 ar y tro yw’r tueddiad yn ein teulu ni!)

Kaiserschmarrn – ymerawdwr y crempogau!

21 Chwe

Dwi wrth fy modd gyda chrempogau ond heblaw am ryw fore Sadwrn prin, anaml iawn dwi’n eu gwneud nhw. Ond bob dydd Mawrth Ynyd, dwi’n bwyta tomen enfawr ac addo fy mod i’n mynd i’w gwneud nhw’n fwy aml. Ond gesiwch be, dwi ddim!

A dim fi yw’r unig un, mae’r siopau yn llawn cynhwysion crempog (nai ddim dechrau pregethu am y crempogau na da chi’n eu cael mewn paced … Beth sydd yn haws na chymysgu llaeth blawd ac wyau?) yn yr wythnosau cyn dydd Mawrth Ynyd wedyn mae pawb yn anghofio am eu bodolaeth.

Ond pam? Mae yna gymaint y gallwch ei wneud â’r crempog syml, da chi mond angen mynd i creperie yn Ffrainc, neu i gael brecwast yn America i weld hynny. Ond, heb os nag oni bai, fy hoff bryd crempogaidd i yw Kaiserschamarrn. Dwn i’m faint ohonoch sydd wedi clywed am Kaiserschmarrn o’r blaen, heb son am ei fwyta, ond pwdin o Awstria ydio, ac mae o’r peth gorau y gallwch ei wneud gyda blawd, wyau a llaeth!

Ryw ddeng mlynedd yn ôl fe gefais i’r pleser o fyw yn Awstria, yn gweithio mewn gwesty dros y cyfnod sgïo, ac roeddwn i wrth fy modd gyda’r bwyd yno. Nawr dyw selsig a sauerkraut ddim y pethau mwyaf iach yn y byd, ond yn ystod y gaeaf does yna ddim byd gwell. Ond allan o’r holl fwyd kaiserschmarrn oedd fy ffefryn. Roeddwn i’n cael platied i ginio ar y mynydd o leiaf unwaith yr wythnos (peth gwych am Awstria, mae’n dderbyniol i gael pwdin fel cinio yno!).

Felly beth sydd mor arbennig am Kaiserchmarrn? Wel mae’r enw yn golygu llanast yr ymerawdwr, enw da! Ac mae o’n grempog melys, sy’n cael ei wneud trwy chwipio’r gwynnwy ar wahân, a’i blygu i mewn i’r cytew, fel eich bod chi’n creu rhyw fath o grempog souffle. Mae rhai llefydd yn ei goginio yn blaen , ond mae’n boblogaidd iawn gyda chyrens ynddo hefyd, a dyna’r un dwi’n ei hoffi.

Hanner ffordd trwy’r coginio mae’r crempog yn cael ei falu yn ddarnau. Yna mae’n cael ei weini gydag ychydig o siwgr eisin ar ei ben a phowlen o gompot ffrwythau. Mae’r compot ffrwythau fel arfer yn newid o un bwyty i’r llall, eirin sy’n draddodiadol ond dwi wedi cael compot afal neu fefus hefyd a hyd yn oed bowlen o eirin gwlanog tun! Heno fe ddefnyddiais i beth oedd gennyf yn y ty, sef mefus a llys duon bach (blueberry).

Dyma chi’r rysáit, a dwi’n addo does dim angen bod ar ben mynydd yn yr eira i fwynhau hwn, ond bysa fo’n neis!

Cynhwysion

5 wy
150g blawd plaen
250ml llaeth
2 llwy fwrdd siwgr
1 llwy de echdyniad fanila
Pinsied o halen
Rhesinau
Menyn i goginio

Dull

1. Cymysgwch y melynwy, blawd, siwgr, fanila, halen a llaeth nes bod gennych gytew tenau.

2. Chwisgiwch y gwynnwy nes ei fod yn stiff, a’i blygu yn ofalus i mewn i’r cytew gyda llwy fetel.

3. Toddwch y menyn mewn padell ffrio ac ychwanegwch y cytew. Gwasgarwch ychydig o resins am ei ben a’i ffrio ar dymheredd isel.

4. Trowch y crempog drosodd a’i adael i goginio am ryw funud, yna torrwch mewn i ddarnau bach gyda fforc, a’i ffrio nes ei fod wedi coginio yn llwyr.

5. Gweinwch gydag ychydig o siwgr eisin am ei ben a chompot ffrwythau ar yr ochr.

 

 

 

 

 

 

 

 

Baked Alaska

11 Chwe

Ddydd llun fe fyddai’n feirniad ar raglen Cog1nio, rhaglen debyg i junior masterchef. Fe fyddai’n gwneud masterclass efo’r plant ac wedyn yn beirniadu eu hymdrechion nhw.

Yr hyn fydd yn rhaid i’r plant ei goginio bydd baked Alaska. Bach o blast from the past ond rhywbeth fydd, gobeithio, yn herio’r plant.

Mae rhoi hufen ia mewn popty yn swnio yn hollol hurt, ond mae’r meringue yn gweithio fel ynysydd da. A gan mai dim ond am ychydig o funudau da chi’n rhoi’r pwdin yn y popty (jysd digon i setio’r meringue) dyw’r gwres ddim yn cyrraedd yr hufen ia.

Mae’n bosib gwneud un pwdin mawr ond fe wnes i rai bach unigol. Er doeddwn i dal methu gorffen un cyfan gan ei fod mor gyfoethog. Roedd o’n flasu iawn, mae’r meringue meddal un cyferbynnu yn hyfryd efo’r hufen ia oer, a’r sbwng ar y gwaelod yn rhoi ansawdd gwahanol. Ond wir maen nhw mor felys roeddwn i’n bownsio oddi ar y waliau! Felly os da chi isio sugar hit, triwch un o’r rhain.

 

Cynhwysion

Cacen sbwng (gwnewch un eich hun, neu prynwch un o’r siop)
Jam
Hufen ia (pa bynnag flas da chi eisiau)
3 gwyn wy
125g siwgr caster

 

Dull

1. Cynheswch y popty i 220C / 200C ffan.

 

2. Torrwch sleisen o’r gacen a thorri cylch allan (neu os da chi’n ddiog fel fi torrwch sgwâr, dio’n gwneud dim gwahaniaeth). Gosodwch y gacen ar hambwrdd pobi sydd wedi’i leinio gyda phapur gwrthsaim.

3. Taenwch ychydig o jam ar y gacen a gosod pelen o hufen ia am ei ben. Rhowch yn y rhewgell i’w gadw yn oer tan da chi wedi gwneud eich meringue.

4. Er mwyn gwneud y meringue gwahanwch y wyau a gosod y gwyn wy mewn bowlen fawr lân. Nawr mae’n bwysig bod y fowlen yn hollol lân heb unrhyw saim arni neu bydd y wyau ddim yn chwisgio yn iawn.

5. Chwisgwch y gwyn wy ar gyflymder isel i ddechrau, gan gynyddu’r cyflymder yn raddol. Unwaith da chi’n gallu gwneud copaon meddal gyda’r gwyn wy, gallwch ychwanegu’r siwgr. Gwnewch hyn un llwy fwrdd ar y tro, gam barhau i chwisgio nes bod eich wyau yn drwchus ac yn sgleiniog.

6. Nawr tynnwch eich sbwng a hufen ia o’r rhewgell a gorchuddiwch gyda’r meringue. Gwnewch yn siŵr nad oes yna unrhyw dyllau o gwbl, yn enwedig o gwmpas gwaelod y gwaelod.

7. Coginiwch yn y popty am ryw 4 munud, neu nes bod y meringue wedi dechrau brownio ar y tu allan. Gweinwch a bwytewch yn syth.

Hufen ia fanila ddefnyddiais i, ond defnyddiwch pa bynnag flas da chi’n licio. Hefyd os da chi’n licio siocled beth am roi cacen siocled neu brownie siocled ar y gwaelod a defnyddio hufen ia siocled. Hyfryd!

 

 

 

 

 

 

Dathlu’r ddaear gyda Bryn Williams

7 Chwe

Bob blwyddyn mae’r WWF (y bobl anifeiliad nid y reslars) yn gofyn i bobl ar draws y byd, i droi eu goleuadau i ffwrdd am awr er mwyn arbed trydan a hefyd i bwysleisio’r pryder ynglyn a newid hinsawdd.

Mae syniad yr  Awr Ddaear yn un syml iawn ond effeithiol, dwi’m yn meddwl ein bod ni’n sylwi cymaint o oleuadau da ni’n ei ddefnyddio tan mae popeth yn mynd yn dywyll am gyfnod. Felly am 8.30pm ar 31 Mawrth  maen nhw eisiau i bawb i droi eu goleuadau i ffwrdd am awr.

Ond mae eistedd o gwmpas yn y tywyllwch yn ddiflas, felly mae’r WWF yn annog pobl i ddefnyddio’r awr yna i gael pryd rhamantus dan olau cannwyll. Maen nhw hyd yn oed wedi perswadio nifer o gogyddion enwog i gynnig ryseitiau, gan gynnwys hoff gogydd pawb yng Nghymru ar hyn o bryd, Bryn Williams.

Dwi’n ffan mawr o fwyd Bryn Williams, ar ôl cael prydau anhygoel yn Odette’s, felly roeddwn i’n edrych ymlaen i weld ei fwydlen.

Fel pryd cyntaf mae ganddo rysáit ar gyfer cawl betys, sy’n edrych yn hyfryd. Macrell gyda broad beans a chorizo yw’r prif gwrs, rhywbeth fyddai’n sicr yn ceisio ei goginio yn y dyfodol. Ac i bwdin mae’n cynnig crymbl afal a chnau castan.

Fe fyddai’n sicr yn ceisio gwneud y ddau gwrs cyntaf yn y dyfodol ond am y tro, gan mai blog pobi ydi hwn, fe benderfynais wneud y crymbl.

Mae crymbl afal yn bwdin reit glasurol ond mae techneg Bryn o bobi’r crymbl ar wahân yn golygu eich bod chi’n cael crymbl sy’n hynod greisionllyd, sy’n cyferbynnu yn berffaith gyda’r afalau meddal. Mae’r almonau yn ychwanegu at yr ansawdd yna ac yn tostio’n hyfryd i roi blas ychwanegol i’r crymbl.

Mae’n rhaid cyfaddef nad ydw i’n or-hoff o flas nag ansawdd cnau castan, ac er eu bod nhw’n ychwanegu blas llawer mwy dwfn i’r crymbl, fe fuaswn i’n bersonol yn eu gadael allan y tro nesaf. Ond chwaeth bersonol yn unig yw hynny, ac fe fuaswn i’n annog unrhyw un i drio’r cnau yn y crymbl eu hunain.

Fe wnes i gwstard cartref i fynd gyda’r crymbl, oedd yn cyd-fynd yn berffaith, er fe fuasai hufen ia yn hyfryd hefyd. Un rhybudd am y ryaist yma, mae’n gwneud digon i deulu cyfan, felly os da chi’n bwriadu cael pryd rhamantus i ddau, hanerwch y cynhwysion.

Os da chi eisiau cenogi Awr Ddaear, gallwch gofrestru eich cefnogaeth fan hyn a gwnewch y mwyaf o’r awr yn y tywyllwch gyda phryd o fwyd hyfryd dan olau cannwyll (yn anffodus fydd Bryn Williams ddim yn dod draw i’w goginio i chi!).

Cynhwysion

12 afal, wedi eu plicio
1 pod fanila
125g siwgr caster
200g o gnau castan wedi’i goginio
1 llwy de o sbeis cymysg
25g menyn

Ar gyfer y crymbl

250g blawd plaen
200g siwgr caster
200g menyn, yn syth o’r oergell
150g o almonau wedi’i sleisio

Dull


1. Cynheswch y popty i 160C/140C fan/marc nwy 3.

2. Torrwch 3 o’r afalau mewn i sgwariau bach a’u gosod mewn sosban gyda’r pod fanila a’r siwgr. Gorchuddiwch gyda jyst digon o ddŵr a’u coginio nes eu bod nhw’n feddal. Dylai hyn gymryd rhyw 5 munud, ond cadwch olwg arnyn nhw. Yna stwnsiwch yr afalau gyda fforc a’u gosod i un ochr.

3. Torrwch weddill yr afalau a’r cnau castan mewn i ddarnau maint cegaid, a thaenwch y sbeis cymysg ar eu pen.

4. Cynheswch y menyn mewn padell ffrio a ffriwch yr afalau a chnau castan am ychydig o funudau.

5. Ychwanegwch at yr afalau wedi’i stwnsio yn y sosban. Trowch y gwres yn ôl ymlaen a choginiwch am 10 munud arall, neu nes bod yr afalau a’r cnau castan wedi coginio ac yn feddal.

6. Er mwyn gwneud y crymbl cymysgwch y blawd a’r siwgr mewn bowlen fawr. Ychwanegwch y menyn mewn darnau man a’i rwbio rhwng eich bysedd nes bod y gymysgedd yn edrych fel briwsion bras. Ychwanegwch yr almonau a’u cymysgu

7. Rhowch y crymbl ar hambwrdd pobi ai goginio yn y popty am ryw 10 munud, tan fod y gymysgedd yn euraidd frown. Fe fydd hyn yn sicrhau crymbl creisionllyd.

8. Rhowch y gymysgedd afal mewn bowlenni neu ramekins unigol (gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n iawn i’w rhoi yn y popty). gorchuddiwch gyda’r crymbl a’u pobi yn y popty am 10 munud arall.

9. Gweinwch yn syth gyda digon o gwstard, hufen neu hufen ia.

 

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn