Archif | te RSS feed for this section

Amser am baned?

4 Ebr

Fe wnaeth rhywun bwyntio allan y diwrnod o’r blaen, nad yw’r blog yma yn cadw’n ddigon at y teitl. Hynny yw, mae yna lot o gacennau yma ond dim llawer o baneidiau. Wel dyma ymdrech i wneud fyny am hynny.

Nawr dwi’n hoffi coffi, fel arfer espresso neu americano cryf, ond te sy’n cadw fi fynd drwy’r dydd. A dwi’n yfed lot o de, tua 10 paned y dydd ar ddiwrnod arferol!

A dwi’n benodol iawn am sut dwi’n licio fy nhe hefyd, dwi wrth fy modd yn cael paned mewn cwpan a soser tseina, ond does yna ddim i guro mwg anferthol o de cryf gyda dim ond ychydig bach iawn o laeth. Os oes yna ffrindiau draw, neu os dwi’n gwybod fy mod i’n mynd i’n mynd i fod eisiau mwy nag un paned dwi’n gwneud tebot, ond y rhan fwyaf o’r amser dwi’n arbed ar y golchi ac yn gwneud te tramp.

Ond mae gen i gasgliad bach o debotau gwahanol. Yr un pinc Bodum dwi’n ei ddefnyddio  fwyaf gan fod ganddo hidlydd ynddo sy’n golygu eich bod chi’n gallu defnyddio te rhydd heb gael y dail yn eich cwpan. Mwy ar gyfer sioe mae’r ddau arall ond dwi’n hoff iawn ohonyn nhw. Un gin Hendricks yw’r un mawr yn y canol, mae’n rhan o set te a brynais ar ôl profi te prynhawn gin Hendricks ym, mwyty Hush yn Llundain. Mae’r brandio Hendricks yn golygu i fod yn wahanol iawn ond dwi’n hoff iawn o siâp y tebot hefyd, mae’n ddigon mawr i ddal lot o de! Anrheg Nadolig gan fy nhad oedd yr un chrome a hufen, dwi’n caru’r steil art deco ond mae’n gwneud y job yn gret hefyd, gan fod y metel ar y tu allan wedi’i inswleiddio fel ei fod yn cadw’r te yn gynnes heb i chi ddefnyddio tea cosy.

Mae’n bwysig iawn i mi bod tebotau yn gwneud y job yn ogystal ag yn edrych yn ddel. Synnwyr cyffredin fyse chi’n ei feddwl, ond mae’n gwylltio fi cymaint o debotau sy’n arllwys te i bob man wrth ei dywallt. Waeth i chi gael tebot siocled ddim!

Fel da chi’n ei weld, mae gena’i gasgliad reit eang o de yn fy nghwpwrdd. Dwi’n licio te cryf ar gyfer fy nhe bob dydd, Barry’s Tea o Iwerddon da ni’n ei yfed ar hyn o bryd, ond dwi hefydd yn licio Te Clipper sy’n de masnach deg hyfryd. Dwi hefyd yn licio cael te ychydig bach yn fwy crand yn y tŷ, ac ar y foment mae gen i de Fortnum a Mason ond dwi hefyd yn ffan mawr o de Tea Pigs, pan dwi’n gallu cael gafael ar focs (er tydyn nhw ddim yn rhad).

Te dwi’n ei gadw yn y pot coffi!

Nawr ar y pwynt pwysig. Sut i wneud paned dda? Wel i ddechrau mae angen dwr berwedig, a dyna’r rheswm pam mae te o lefydd coffi yn aml yn afiach (Starbucks yw’r gwaethaf) gan nad ydy dwr yn ddigon poeth. Ond dwi hefyd wedi ffeindio’r erthygl wych yma oddi ar wefan y BBC sy’n nodi 11 rheol George Orwell i wneud y baned berffaith, a dwi’n cytuno efo pob un ohonyn nhw (er fy mod i’n ffan o’r hen fag te hefyd).

Yn ôl yr erthygl fe ddywedodd George Orwell hyn ynglŷn â the:

“one of the “mainstays of civilization” – is ruined by sweetening and that anyone flouting his diktat on shunning the sugar bowl could not be called “a true tealover”.

Dwi hefyd yn cytuno yn llwyr y dylid ychwanegu’r llaeth ar ôl y te, ond mae’r gwyddonwyr yn dweud y gwrthwyneb. Ond mae’n hawdd iawn ychwanegu gormod o laeth os ydio’n mynd i mewn yn gyntaf, a does ‘na ddim byd gwaeth yn fy marn i na the efo lot o laeth.

Ond pwy ydw i, i ddweud wrthych chi sut i yfed eich te. Ond mae un peth yn wir, mae paned wastad yn mynd yn dda gyda chacen Neu fisged!) Mwynhewch.

Bara Brith Nain

6 Hyd

Er bod bara brith yn o fy ffefrynnau, dwi heb wneud torth ers blynyddoedd. Dwi’n tueddu i wneud ryseitiau newydd o’r holl lyfrau dwi’n eu prynu ac yn anghofio am yr hen ffefrynnau. Ond pan ges i gais am gacen gan griw o’r gwaith (sy’n cynnwys Saeson, Albanwyr, Cymry a rhywun o Awstralia) y peth cyntaf ddaeth i fy meddwl oedd bara brith. Doedd nfer ohonyn nhw erioed wedi trio bara brith o’r blaen felly roedd ‘na bwysau arnaf i, i sicrhau bod ein cacen genedlaethol yn plesio.

Doeddwn i methu ffeindio’r rysait adref, sy’n dangos pa mor hir yn ôl wnes i fara brith diwethaf! Ond hen rysait Nain oedd hi felly dim ond un galwad ffôn oedd ei angen ac roedd genai gopi eto.

Dwi’n cofio Nain yn nodi ei ryseitiau mewn llyfr bach glas, gyda’r tudalennau yn cwympo allan ohono o’r holl ddefnydd. Ond roeddwn i wedi anghofio yn llwyr amdano tan i fi ffonio Nain yr wythnos diwethaf i holi am y rysait. Dyw Nain ddim yn pobi bellach felly’r tro nesaf dwi’n mynd adref i’r gogledd mae hi wedi dweud y gai fynd a’r llyfr efo fi. Dwi’n edrych ymlaen at weld pa fath o ryseitiau sydd ynddo ac efallai rhannu un neu ddau yma!

Ond cyn hynny dyma rysait Nain ar gyfer bara brith, sy’n cael ei wneud trwy socian y ffrwythau mewn te. Cacen efo te ynddi – perffaith!

 

Cynhwysion

8oz ffrwythau cymysg

6 fl oz te oer

8oz blawd codi

pinsed o halen

4oz siwgr brown

1 wy wedi’i guro

 

Dull

1. Gwnewch de cryf a’i adael i oeri (dwi’n gaadel iddo stiwio efo’rbagiau te dal ynddo)

2. Mwydwch y ffrwythau yn y te dros nos

3. Y diwrnod wedyn, cymysgwch yr wy i mewn i’r ffrwythau

4. Ychwanegwch y siwgr

5. Gogor y blawd a’r halen a’i gymysgu i gyd.

6. Irwch dun bara 2lbs a ‘i  bobi am awr ar 150°C

Bwytewch efo haenen dew o fenyn!

Te yn Claridges

1 Gor

Dwi mond angen yr esgus lleiaf i fynd am afternoon tea, ac felly gyda dwy ffrind o Gaerdydd yn dod lawr i aros am y penwythnos, beth gwell i’w wneud na mynd i dre i siopa ac wedyn mynd am de ar ddiwedd y dydd.

Mae yna gymaint o lefydd yn Llundain i fynd i gael te, ond roeddwn i eisiau mynd a’r genod i Claridges, gan mai nhw oedd wedi ennill gwobr y tea guild am y te gorau yn Llundain y flwyddyn hon.

Nawr fel gwnes i sôn mewn blog arall roedd rhaid bwcio’r bwrdd fisoedd o flaen llaw, felly roeddwn i wedi bod yn edrych malen am y penwythnos yma ers peth amser. Ond gyda’r te yn costio £50 yr un (gyda service charge o 12.5% ar ben hynny) roedd genai ddisgwyliadau uchel iawn. Ond dwi’n falch o ddweud na chefais i fy siomi.

Roeddwn wedi bwcio bwrdd am hanner awr wedi pump, ac efallai eich bod chi’n meddwl bod hynny bach yn hwyr am baned a chacen, ond roedd yn hyn yn bwrpasol, fel ein bod ni yn ddigon llwglyd i wneud y mwyaf o’r danteithion, ac fel nad oedd angen swper arnom wedyn, ar ôl gwario cymaint!

Felly beth oeddem ni’n ei gael am £50?

Wrth gwrs roedd yna ddewis helaeth o de, ac fe es i am y Claridges royal blend, a dwn i’m faint o baneidiau wnes i yfed, paned dda!

Roedd ganddyn nhw fwydlen arbennig ar gyfer wimbledon felly ar ben y te arferol roeddem ni’n cael gwydraid o champagne rose a phlât o fefus a macarons mefus. Fel da chi’n gwybod dwi’n ffan MAWR o macarons ,ac roedd y rhain ymysg y gorau dwi wedi’i gael, dwi’n glafoeri rwan wrth feddwl amdanyn nhw.

Nawr fe fuaswn i wedi bod yn hapus efo hynny, ond roedd yn a lot mwy i ddod. Fe gawsom ni blât o frechdanau, dewis reit glasurol – samwn wedi’i fygu, wy, ciwcymbr, coronation chicken a ham. Roedd yn amlwg eu bod nhw wedi cael eu gwneud yn ffres ac roedden nhw mor neis fe gawsom ni blât arall.

Nesaf wrth gwrs oedd y sgons, dau fath, un efo cyrens ac un efo afal. Roedden nhw’n ysgafn iawn ac yn gynnes ac roedd y ‘tea-infused jam’ yn odidog.

Wrth edrych nôl mae’n anodd meddwl y gallem ni fwyta mwy ond dyna wnaethom ni, gydag ystod o gacennau a pastries i orffen. Y gorau gen i oedd y darten afal a’r gacen caws lemwn.

Ond nid dim ond y bwyd a’r te sy’n bwysig pan fyddwch chi’n cael afternoon tea, mae’r llestri maen nhw’n eu defnyddio, y stafell yr ydych ynddo a safon y gweini i gyd yn ychwanegu at y profiad.

Mae gwesty Clardiges yn hyfryd, ‘old school glamour’ go iawn. Mae’r ystafell fwyta yn reit fawr ond wedi ei rannu yn ddwy, sy’n wgneud iddo deimlo yn lot llai, ond mewn ffordd neis. Mae’r ystafell edrych yn reit art deco, mae yna lot o arian a drychau mawr ar y waliau – da chi’n gallu dychmygu eich hunain mewn rhaglen poirot!

Mae’r llestri maen nhw’n eu defnyddio yn hyfryd hefyd, streipiau gwyrdd a gwyn gydag ymyl arian, sy’n cyd fynd gydag addurn y stafell. Ond fy hoff beth i oedd y bocs bach arian yn dal y siwgr – hyfryd!

Roedd y staff gweini yn arbennig hefyd, doedd yna ddim snobyddiaeth o gwbl ac roedden nhw’n ein hannog ni i gymryd mwy o frechdanau a mwy o gacennau, rhywbeth sydd yn ennill ychydig o bwyntiau ychwanegol iddyn nhw yn fy marn i.

A cyn gadael fe gawsom ni anrheg, dau siocled hyfryd mewn bocs bach del,  i fynd adref gyda ni. Diwedd perffaith i bnawn perffaith. Sori does genai ddim byd gwael i ddweud am y lle, mae’r tea guild yn amlwg yn gwybod beth maen nhw’n siarad amdano!

Hendricks High Tea

20 Ebr

Dwi di bod am ddau ‘afternoon tea’ yn ddiweddar, roedd un yn ofnadwy ac un yn anhygoel – dwi bron a dweud y gorau dwi wedi’i gael hyd yn hyn.

Afternoon tea ydi fy hoff bryd i, hynny yw os ydio’n cyfri fel pryd. Fe fuasai’n well gennai fynd allan am de a chacen a brechdanau bach nag am swper neu ginio crand.

Hyd yn hyn y te gorau i fi gael, o bell ffordd, oedd yn y Lanesborough – dewis anhygoel o de oedd yn cael ei weini mewn tebot arian go iawn gan sommelier te, brechdanau a chacennau hyfryd a gwasanaeth penigamp. Ac mae’r gwesty ei hun yn hyfryd hefyd, felly tan rŵan doeddwn i ddim wedi canfod afternoon tea arall oedd yn gallu ei guro.

Ond wedyn fe ddois i ar draws adolygiad o’r Hendricks High Tea yn Hush. Bwyty a bar cocktail oddi ar New Bond Street ydi Hush felly roedd y profiad ychydig yn wahanol i fynd am de mewn gwesty mawr crand, ond fe gefais fy siomi ar yr ochr orau.

Yn lle gweini champagne efo’r te mae Hush yn gweini cocktails gin Hendricks. Nawr os nag ydych chi wedi trio gin Hendricks, ble da chi di bod, mae o’n hyfryd, gin efo hint o giwcymbr, be well!

Roeddem ni’n eistedd mewn stafell fwyta fach, reit breifat, ar y llawr cyntaf ac roedd y te yn cael ei weini mewn llestri Hendricks arbennig. Dwi wrth fy modd efo nhw, a fyswn i’n caru cael set fy hun adref.

                                                                                  Roedd y bwyd yn hyfryd, roedd yna nifer o frechdanau (salmon, wy, ciwcymbr a chyw iâr ac afocado ar fara poilâne) a sgons cynnes efo jam mefus, rhosyn a gwsberis a blodau ysgaw. A’r ‘piece de resistance’ oedd y detholiad o macarons – 6 blas gwahanol o salted caramel i pistachio – llawer gwell na’r cacennau bach da chi fel arfer yn ei gael a’r maint perffaith ar ol yr holl fwyd arall.

Ond y peth gorau am y te oedd y cocktails. Roedd yna ddewis hir a gwahanol iawn, ac yn y diwedd fe es i am y Royal Lady a fy nghariad johny am y Hush Wolfsberry. Ges i’r cocktail anghywir i ddechrau, ac er nad oeddwn i wedi sylwi ond fe ddaeth y gweinydd a’r un cywir draw yn fuan iawn, felly ges i ddau gocktail am bris un!

Roedd y Royal Lady wedi ei wneud efo Hendricks, Grand Marnier, ciwcymbr wedi ei garameleiddio a cinnamon ‘caviar’. Roedd y cocktail yn hynod gryf ond lyfli ac roedd y cinnamon caviar yn ddiddorol, ond do’n i’m yn rhy siŵr o’r texture – fatha bwyta penbyliaid!

Roedd yr Hush Woolfsberry yr un mor potent ac wedi ei wneud efo Hendricks, petalau rhosod, mwyar Goji a liqueur Goji.

Ar ôl cael dau cocktail roeddwn i’n reit hapus yn gadael, ond fyddai’n sicr yn ôl yn fuan, ac am £24.75 yr un am y te a’r cocktails, mae’n fargen i gymharu â rhai o westai Llundain – fyddai’n talu £50 am de yn Claridges fis Mehefin!

A ble oedd y te ofnadwy? … Gwesty St Brides. Gwasanaeth ofnadwy, brechdanau sych, te o fagiau te a chacennau di-ddim. Hynod siomedig ac am bris tebyg i’r te yn Hush. Dwi’n gwybod ble fydd yn cael fy arian i eto!

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn