Paned a Chacen

Te yn y Dorchester
Gyda fy ffrind gorau, Catrin, yn dod i aros am y penwythnos, a minnau heb ei gweld hi ers sbel, roedd rhaid trefnu rhywbeth arbennig. A does yna ddim esgus gwell nag ymweliad ffrind i wneud y mwyaf o’r ddinas hon. Roeddwn i eisoes wedi cael tocynnau i ni fynd i’r theatr i weld The Audience, drama am gyfarfod wythnosol y frenhines (wedi’i actio yn wych gan Helen Mirren) gyda phrif weinidogion y wlad, ond wrth gwrs roedd angen trefnu rhywle i fwyta cyn hynny hefyd. Felly, gan fod angen bwyta yn gynnar, beth well na the prynhawn (unrhyw esgus!).

Nawr dwi wedi bod am de mewn nifer o westai yn Llundain yn barod, ond mae yna dal ddigon ar fy ‘to do list’. Y broblem fel arfer yw bod angen mis neu fwy o rybudd i gael bwrdd yn y llefydd gorau, yn enwedig ar ddydd Sadwrn. Ond rhywsut, gyda minnau ddim ond yn bwcio rhyw bythefnos yn ôl, fe gefais i fwrdd i dri yn y Dorchester.

Pan gyrhaeddodd Catrin a fi (ar ôl bod yn potsian o gwmpas Selfridges) roedd Johny eisoes yn aros amdanom yn y bar, felly gydag ychydig o amser i fynd nes bod y bwrdd yn barod, roedd rhaid cael diod bach. Ac wrth gwrs, beth mae merch i fod i’w yfed yn y Dorchester na glased o Bollinger. Yn amlwg maen nhw’n mynd trwy lot o champagne yno, achos nid o botel safonol y daeth ein glased ond o Jeraboam, roedd o’n anferth. Duw a ŵyr faint mae Jeraboam o Bollinger yn ei gostio!

Doedd dim rhaid aros yn hir am ein bwrdd, ac fe gawsom ein harwain draw i fwrdd ger y piano yn y Promenade, sef lobby y gwesty. Ond peidiwch â meddwl ein bod ni’n ei slymio hi, dyma’r lobby mwyaf crand yr ydw i wedi’i weld, gyda cholofnau euraidd, trefniadau blodau anferthol a soffas moethus. Ac roeddem ni mewn cwmni da, pwy oedd yn eistedd yno gyda chwpwl o ffrindiau ond y cricedwr Kevin Pieterson (bu bron i mi stopio i gymharu anafiadau ben-glin, wrth i mi hoblan heibio ar fy maglau!).

Dwi’n licio ffaith mai’r unig ddewis mae’n rhaid i chi wneud gyda the prynhawn yw champagne neu beidio (champagne bob tro!) a pha de i’w gael. Yn y Dorchester roedd yna ddewis helaeth o de, ond roedd ein gweinyddes yn hapus iawn i’n helpu ni i wneud penderfyniad. Gan ein bod ni i gyd yn hoff o de cryf, fe wnaeth hi argymell yr Assam, te dwi wastad yn dewis fy hun fel arfer.

Ar ôl i’r te a’r champagne gyrraedd (o Jeraboam arall!) fe ddaeth y brechdanau. Roedd yna ddewis o eog wedi’i fygu, ham, wy, cyw iâr a chiwcymbr. A ddim eisiau edrych yn farus fe es i am dri i ddechrau, ond wrth gwrs doedd hynny ddim yn mynd i fod yn ddigon a diolch byth fe ddaeth y weinyddes yn ôl i gynnig mwy i ni. Roedden nhw’n flasus iawn gyda bara gwahanol i bob llenwad, ac roedden nhw’n amlwg wedi eu torri yn ffres (does dim byd gwaeth na brechdanau sy’n dechrau sychu ar yr ochrau). Roedd y tri ohonom yn gytûn bod y frechdan cyw iâr, gyda bara basil ymysg y frechdan cyw iâr orau i ni ei gael. Roeddwn i’n hoff iawn o’r frechdan ciwcymbr, oedd yn fwy diddorol na’r arfer gan fod yna caraway yn y bara.

Cyn i’r sgons a chacennau gyrraedd, fe gawsom ni gwpan bach siocled wedi’i lenwi gyda mousse cappucino a ffeuen goffi aur am ei ben. Doeddwn i ddim yn disgwyl hwn, felly roedd o’n ychwanegiad bach neis. Roedd y mousse yn ysgafn dros ben o’n flasus iawn, ac er fy mod wedi trio bwyta’r gwpan siocled gyda’r llwy, roedd o bach yn anodd felly fe wnes i stwffio yn un darn i fy ngheg.

Dim ond wedyn y daeth y sgons, yn dal yn gynnes o’r popty a’r cacennau bach. Roedd yna ddwy sgon yr un i ni, un plaen ac un ffrwythau, ac wrth gwrs jam mefus, jam cyrens duon a hufen tolchog i fynd gyda nhw. Roedd y sgons yn ysgafn iawn a ddim yn rhy fawr, felly doedd bwyta dwy ddim yn ormod o broblem!

Y cwrs olaf yw’r piece de resistance bob tro, ble ma’r chefs yn gallu dangos eu hunain gyda’r cacennau a thartenni bach del. Y broblem yn aml yw fy mod i’n stwffio gymaint ar y brechdanau a’r sgons fel nad oes gen i ryw lawer o le pan ddaw hi at y cacennau. Ond y tro hwn roedd y cacennau yn ddigon bach ac ysgafn fel nad oeddwn i’n teimlo’n rhy llawn ar y diwedd. OK roeddwn i’n llawn ond ddim yn teimlo fel fy mod i’n mynd i fyrstio!

Yn rhy aml hefyd mae’r danteithion olaf yma yn gallu edrych yn dlws iawn ond mae’r blas yn gallu bod ychydig yn siomedig. Ond nid y tro hwn, roedd y gacen oren yn iawn, ond ddim byd anhygoel, ond roedd yvgweddill yn flasus dros ben. Roedd yna gacen mefus a siocled gwyn, financier siocled gyda mousse pistasio (dwi’n caru unrhywbeth pistasio), macaron pina colada (wow!) a tharten siocled a chanu mwnci a charamel hallt (OMG!).

Roedd y darten siocled a chnau mwnci yn ogoneddus, fel snickers posh iawn ac roedd y macaron yn gyfuniad perffaith o goconyt a phinafal. Roedd rhaid i mi gael mwy ac roedd y weinyddes yn fwy na bodlon i ddod a rhagor.

Fe wnaeth y tri ohonom ni wedi mwynhau yn fawr a doeddwn i ddim yn gallu canfod yr un bai, wel heblaw am y bil yn y diwedd! Mae o’n sicr yn un o’r drytaf yn Llundain, ond mae o hefyd, yn fy marn i, ymysg y gorau hefyd.

Fe aethom ni’n syth o’r’ Dorchester i’r Gielgud Theatre i wylio Helen Mirren yn The Audience. Drama ddoniol a diddorol iawn gyda Helen Mirren yn portreadu’r frenhines yn llwyddianus iawn o’r dyddiau cynnar i’r presennol.

Diweddglo perffaith ar ddiwrnod i’r brenin (neu frenhines).

**Ymddiheuriadau am ansawdd y lluniau, ro’n i’n canolbwyntio mwy ar y bwyta a’r joi ang ar y lluniau!**

Dysgu gan y meistr yn Awstria
Gyda’r gaeaf yn edrych fel ei fod am bara am byth, a gwyliau’r Pasg yn agosáu fe benderfynais fynd ar drip munud olaf i Awstria. Wrth gwrs roedd yr eira ffres oedd yn dal i ddisgyn ar y llethrau yn atyniad mawr, ond roeddwn i hefyd yn awyddus i dreulio ychydig o amser yn y gegin gyda Heinz, fy nghyn fos, a phobwr o fri.

Fel dwi wedi sôn o’r blaen roeddwn i’n gweithio mewn gwesty bach yn Awstria am dymor sgïo ar ôl gadael y coleg, gwesty sy’n berchen i Heinz ac Anita Schenk. Mae Heinz yn dod o Awstria ond o Flaenau Ffestiniog y daw Anita yn wreiddiol. Fy gyfarfu’r ddau pan ddaeth Heinz i weithio fel chef yng ngwesty Portmeirion, ond ers blynyddoedd nawr maen nhw wedi bod yn rhedeg gwesty teuluol hyfryd o’r enw Luginsland, ynghanol ardal sgïo anhygoel.

Mae Heinz yn chef gwych, ac roeddwn i’n lwcus i gael bwyta ei fwyd bob dydd am ryw bum mis wrth weithio yno. Ond er fy mod wrth fy modd ar y pryd yn ei wylio’n coginio ac o gael helpu yn y gegin, wnes i ddim bachu ar y cyfle i ddwyn rhai o’i ryseitiau. Felly y tro hwn roeddwn i wedi rhybuddio Heinz fy mod i’n dod i bigo ei ymennydd (gan mai dyna ble mae ei ryseitiau i gyd) yn ogystal â dod i sgïo.

Roedd o’n grêt cael mynd i sgïo bob dydd (tan i fi frifo fy hun yn troi fy mhen-glin, ond stori arall yw honno) ac wedyn dod ‘nôl i dreulio amser yn y gegin. Cegin anferth broffesiynol! Roedd yna rai ryseitiau yr oeddwn i’n awyddus i’w gael, ond hefyd roeddwn i’n agored i awgrymiadau Heinz.

Y rysáit oedd ar frig fy rhestr oedd y bara melys wedi’i blethu. Roedd yn Heinz yn arfer gwneud y dorth yma bob dydd ar gyfer brecwast ac mae hi’n hyfryd, yn enwedig efo’i jam bricyll cartref, neu jam grawnwin a sinsir. Mae’r dorth yn un reit gyfoethog gyda menyn, siwgr ac wyau ynddi, ond er ei fod yn felys, dyw hi ddim cweit fel torth brioche chwaith.

Fe ges i hwyl yn dysgu sut i blethu’r dorth, dwi’n gallu plethu gwallt efo tri darn yn hawdd ond fe gymerodd ychydig o amser i gael fy mhen rownd gweithio gyda phedwar. Mae Heinz yn gwneud torth fwy gyda 6 hefyd, ond dwi heb fentro honno … eto.

Dwi wedi gwneud fideo o’r plethu os da chi am drio fo eich hun.

Ymysg y pethau eraill y gwnes i goginio oedd gebacken mäuse - llygod wedi’i ffrio (math o doughnut efo cyrens)

Beugel – toes bara tenau wedi’i lenwi un ai gyda chnau cyll wedi’i malu yn fan, neu hadau pabi (cynhwysyn sy’n gyffredin iawn yn Awstria).

Mae’r Awstriaid yn coginio lot efo caws ceulaidd (curd cheese) hefyd, topfen maen nhw’n ei alw ond mae’n cael ei werthu fel Quark yn y wlad yma. Fe wnaethom ni ddau rysáit yn defnyddio’r caws yma – topfen knödel a topfen palatschinken.

Math o dumpling caws sy’n cael ei goginio mewn dŵr berwedig a’i orchuddio mewn briwsion bara, siwgr a sinamon yw topfen knödel. Mae’n flasus iawn, yn enwedig wedi’i weini gyda jam eirin.

Wedyn crempog wedi’i llenwi gyda’r caws, cyrens a lemon, a’i goginio yn y popty wedi’i orchuddio mewn cwstard yw topfen palatschinken. Ddim yn annhebyg o gwbl i’n pwdin bara menyn ni a dweud y gwir, ond mae’r Awstriaid yn fwy na hapus i’w fwyta fel cinio yn ogystal â phwdin. Un o’r rhesymau pam fy mod i’n licio Awstria gymaint debyg!

Yn ogystal â hynny fe wnaethom ni fisgedi bach a creme caramel. Fel y gallwch ddychmygu roeddwn i wrth fy modd yn sglaffio’r holl bwdinau yma bob nos.

Mae’n rhaid i fi nawr ail greu’r holl ryseitiau yma adra, doedd Heinz ddim yn mesur dim, gan fod y ryseitiau i gyd yn ei gof, a’i fod yn gwybod o edrych faint o bopeth oedd angen. Felly roedd rhaid i mi amcangyfrif faint o bopeth yr oedd o’n ei ddefnyddio. Dwi’n gobeithio bod fy mesuriadau yn gywir!

Pobi dros y Pasg
Mae penwythnos hir yn golygu un peth i fi, digon o amser i botsian yn y gegin. Doedd gen i ddim llawer o gynlluniau dros benwythnos y Pasg, felly fe fachais ar y cyfle i bobi ychydig o bethau sydd angen amser ac amynedd i’w gwneud. Pethau na fuaswn i’n gallu eu gwneud ar benwythnos prysur arferol. Ar frig y rhestr wrth gwrs oedd hot cross buns, neu bynen y Grog yn Gymraeg (dwi’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd efo’r blog ma!). Dwi wrth fy modd efo’r byns bach sbeislyd yma, yn enwedig wedi’i tostio a’u taenu efo menyn. Ond yn wahanol i’r arfer roeddwn i’n awyddus i drio eu gwneud nhw gyda blawd spelt y tro hwn. Dwi heb bobi gyda’r blawd yma o’r blaen ond mae’r pobydd o Norwy, Signe Johansen yn ei argymell yn ei llyfrau hi, ac fe ddywedodd wrthyf ei bod hi’n ei defnyddio mewn 90% o’i bara melys y dyddiau yma. Mae spelt yn wenith hynafol, oedd wedi mynd allan o ffasiwn, ond mae o i fod yn fwy iachus na gwenith arferol ac mae yn lot llai o glwten felly mae’n dda ar gyfer pobl sy’n sensitif i wenith.   Mae blawd spelt yn bihafio ychydig yn wahanol i flawd cyffredin, fe wnes i ffeindio bod angen llai o hylif nag y buaswn i’n arferol, ond dyw’r diffyg glwten ddim yn effeithio ar y bara yn y pendraw, a dweud y gwir mae’n rhoi blas hyfryd i’ch byns.  Yn ogystal â chwarae gyda spelt roeddwn i hefyd eisiau trio rhywbeth hollol newydd, felly ar ôl pori drwy fy llyfrau fe benderfynais y buaswn i’n trio gwneud croissants am y tro cyntaf, gan ddilyn rysáit o lyfr gwych Richard Bertinet.  Nawr dwi erioed wedi trio gwneud croissants o’r blaen, yn bennaf gan ei fod yn cymryd cymaint o amser. Ond mewn gwirionedd dyw o ddim yn anodd, ond mae’r broses yn un hir wyntog, gan fod angen digon o amser i’r toes godi dros nos, ac mae’n rhaid gadael i’r toes orffwys rhwng bob cam.  Er bod y broses yn un llafurus, roedd o’n werth o yn y diwedd i gael croissants cartref ffres. Roedden nhw’n hyfryd, doeddwn i ddim yn gallu dychmygu y buasent nhw’n troi allan cweit mor dda. Rydych chi’n gallu rhewi’r toes hefyd cyn eu coginio, felly rwan mae gen i lond rhewgell o croissants yn barod i’w dadmer pan fyddai awydd un eto. Fe ddywedodd rhywun ar twitter yn ddiweddar bod Pasg yn wyliau llawer gwell na’r Nadolig, does ‘na ddim y pwysau na’r disgwyliadau i borthi’r pum mil na’r angen i lynu at fwydlen ddogmatig, ac felly mae rhywun yn tueddu i’w fwynhau yn fwy. Ac mae’n rhaid dweud fy mod i’n cytuno, dwi’n cael digon o amser i bobi, ond teimlo fy mod i’n gallu gwneud hynny yn fy amser fy hun a gwneud yn union beth dwi eisiau. O weld trydar pobl dros y dyddiau diwethaf dim fi yw’r unig un, mae’r byg pobi wedi bachu llawer. Beth arall sy’n well pan fo’r tywydd yn dal i fod mor oer.  Mwynhewch y pobi a’r wyau siocled!

Digon o gacen i dagu ci
Fel da chi’n gwybod dwi ddim angen unrhyw anogaeth i bobi nac i fwyta cacennau, felly pan glywais i gan ffrind bod yna grwp o bobwyr lleol yn cwrdd yn fisol, roeddwn i’n gwybod bod rhaid i mi ymuno â nhw.

Mae Band Of Bakers yn grwp yn Ne Ddwyrain Llundain sy’n dod a pobl at ei gilydd sy’n hoffi pobi, i rannu eu campweithiau dros ddiod a sgwrs.

Mae yna thema benodol i bob digwyddiad, ond dyna’r unig reol. Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr a does yna ddim elfen o gystadleuaeth o gwbwl. Mae pawb yn dod a’u cacen, pwdin, tarten neu fisgedi gyda nhw, eu gosod ar fwrdd enfawr a wedyn mae pawb yn cael cyfle i flasu.

Y thema y tro hwn oedd clasuron Prydeinig, ac roedd yna ystod eang o ddanteithion fel cacennau eccles, sgons, digestives, tarten gaws a nionyn, cacen sticky toffee pudding, cacennau bach earl grey a hot cross buns.

Mae’n rhaid cyfaddef nad oedd rhaid i fi feddwl yn hir, pan glywais i beth oedd y thema. Beth arall gallwn i ei wneud ond cacs bach Mamgu? Fe gefais i ymateb da iddyn nhw, gyda lot o bobl yn dweud wrthai eu bod nhw wrth eu boddau gyda ‘welshcakes’, ac roeddwn i’n falch o weld plât gwag ar ddiwedd y noson.

Roedd yna ryw 30-35 o bobl yn y digwyddiad, oedd yn cael ei gynnal mewn tafarn leol, felly roedd hi’n amhosib blasu popeth. Ond fe fyddwch chi’n falch o glywed fy mod i wedi gwneud fy ngorau a stwffio fy hun nes fy mod i’n cael palpitations o’r holl siwgr. Wedyn os nad oeddwn i wedi bwyta digon, ar ddiwedd y noson, roedd pawb yn cael llenwi eu bocsys gyda beth bynnag oedd ar ôl ar y bwrdd i fynd adra gyda nhw.

Mae’n rhaid dweud bod popeth wnes i flasu yn hyfryd, yn amlwg mae yna griw talentog iawn o bobwyr yn yr ardal yma.

Mae’r syniad o ddod at eich gilydd i rannu yr hyn ‘da chi wedi’i goginio, mor syml ond yn gymaint o hwyl. Ac mae’n rhaid i mi ddiolch i Gemma a Naomi am drefnu’r digwyddiadau. Dwi methau aros rwan i glywed beth fydd thema’r un nesaf.

Diwrnod Crempog
I lawer, dydd Mawrth Ynyd yw’r un diwrnod y flwyddyn pan maen nhw’n gwneud yr ymdrech i wneud crempogau. Ond dwi’n hapus i fachu ar unrhyw gyfle i wneud crempogau, boed nhw’n rai tenau fel sy’n draddodiadol i ni heddiw, neu grempogau tew Americanaidd i frecwast gyda bacwn a sudd masarn, neu hyd yn oed y Kaiserschmarrn o Awstria, sy’n gwneud pwdin neu hyd yn oed ginio barus.

Ond ar ddydd Mawrth Ynyd, dim ond y crempogau mawr tenau sy’n gwneud y tro, a dwi’n reit draddodiadol ac yn hoffi eu llenwi gyda menyn, siwgr a lemon ( a rhaid cyfaddef dwi’n ddigon hapus i ddefnyddio sudd lemon ffug ar y rhain, dyna da ni wastad wedi ei wneud ers yn blant). Yna byddaf eu rholio i fyny ac yn eu sglaffio yn sydyn, does dim angen cyllell a fforc. Ac os ydy un grempog yn unig yn eich digoni, yna rydych chi’n well person na fi o lawer!

Mae’n bosib prynu pob math o gymysgedd crempogau wedi’i gwneud yn barod yn y siopau y dyddiau hyn, ond beth all fod yn haws na chymysgu ychydig o flawd gydag wyau a llaeth?

Y broblem pam da chi’n eu coginio yw nad ydych chi byth yn cael nhw ar eu gorau, yn syth o’r badell yn chwilboeth.

Dyma chi’r rysáit , ond sut ‘da chi’n licio eich rhai chi?

Cynhwysion

110g blawd plaen

pinsied o halen

2 wy mawr

250ml llaeth (dwi’n defnyddio llaeth sgim gan mai dyna sydd yn y tŷ, ond defnyddiwch chi beth bynnag da chi eisiau)

25g menyn wedi’i doddi.

Dull

Hidlwch y blawd mewn i bowlen ac ychwanegwch yr halen

Cymysgwch y wyau mewn cwpan a gwnewch bant ynghanol y blawd a’u tywallt i mewn.

Yn raddol ychwanegwch y llaeth gan gymysgu gyda chwisg llaw.

Cymysgwch yn araf o’r canol gan gymysgu’r blawd o’r ochrau yn raddol. Fe fydd hynny sicrhau na fydd gennych chi unrhyw lympiau.

Ar ôl ychwanegu’r llaeth i gyd, gadewch y cytew yn yr oergell i orffwys am ryw hanner awr.

Pan fyddwch chi’n barod i goginio eich crempogau toddwch y menyn mewn padell ffrio, ac ychwanegwch ddau lond llwy fwrdd i’r cytew, a’i gymysgu yn dda.

Tywalltwch y gweddill allan o’r badell a’i roi i un ochr. Defnyddiwch bapur gegin i gael gwared ag unrhyw ormodedd o fenyn yn y badell, da chi ddim eisiau boddi eich crempog mewn menyn. (Dwi’n ffeindio drwy wneud hyn a drwy sicrhau bod y gwres yn ddigon uchel fe fydd hyd yn oed y grempog cyntaf yn berffaith).

Yna gyda’r gwres i fyny yn uchel rhowch diogon o gytew yn eich padell i orchuddio’r gwaelod, gan droi’r badell o gwmpas i wneud yn siŵr bod y cytew yn gorchuddio’r badell yn hafal. Gofalwch i beidio â rhoi gormod, fe ddylen nhw fod yn eithaf tenau.

Ar ôl rhyw funud neu ddau, fe ddylech chi weld swigod bach ar dop y grempog, trowch nhw drosodd a’u coginio am funud neu ddau yn bellach.

Bwytewch cyn gynted â da chi’n gallu.

Semlor – Byns Cardamom o Sweden
Yr adeg yma o’r flwyddyn da ni gyd yn cofio bod crempogau yn bodoli ac yn gwagio silffoedd yr archfarchnadoedd o flawd, wyau a jiff lemon wrth i ni ddathlu dydd Mawrth Ynyd gyda brwdfrydedd.

Dwi wrth fy modd gyda chrempogau, ond os caf i esgus i wneud rhywbeth arall yna dwi am neidio ar y cyfle i ehangu fy ngorwelion ychydig.

Wrth gwrs nid y ni yw’r unig wlad i ddathlu’r diwrnod olaf yma cyn y Grawys, ond mae gwledydd eraill yn gwneud defnydd gwahanol o’r wyau, siwgr a menyn sydd yn y cypyrddau. Yn Sweden a llawer o wledydd Sgandinafiaiadd eraill nid crempogau maen nhw’n ei wneud ond Semlor – byns bach cardamom, wedi’i llenwi gyda phast marsipán a hufen.

Fy ffrind i Pia o Sweden wnaeth fy nghyflwyno i’r danteithion hyfryd yma yn wreiddiol. Pan yrrodd lun o’r cacennau bach hyn i mi, ro’n i’n gwybod bod rhaid i mi gael y rysáit. Gan eu bod nhw’n seiliedig ar does bara, mae ‘na gryn dipyn mwy o waith i’r rhain na chrempog, ond os cewch chi’r amser mae’n werth eu trio, does dim rhaid cyfyngu eich hunain i ddydd Mawrth Ynyd.

Mae’r sbeis o’r cardamom yn ysgafn iawn ond yn rhoi blas ychydig yn wahanol iddyn nhw, a’r hufen a’r marsipán wedyn yn ychwanegu’r melystra. Mae’r rysáit wreiddiol yn cynnwys almonau chwerw, ond maen nhw’n anghyfreithlon yn y wlad hon gan eu bod nhw’n wenwynig os ydych yn bwyta gormod! Er hynny dwi wedi cael cyflenwad arbennig gan fy ffrind yn y post, ond fe fydd y rhain yr un mor neis heb yr almonau chwerw.

Cynhwysion

500g o flawd bara cryf

14g o furum sych

100g o siwgr mân

5g o halen

1 wy bach

250ml o laeth braster llawn

7 pod cardamom neu llwy de o gardamom mâl

100g o fenyn heb halen

I’w llenwi

150g o farsipán

300ml o hufen dwbl

½ llwy de o rin fanila (vanilla extract)

2 llwy fwrdd o siwgr eisin

Dull

Toddwch y menyn mewn sosban ac ychwanegwch y llaeth. Tynnwch yr hadau o’r podau cardamom a’u malu yn fân gyda phestl a mortar, neu waelod pin rholio, a’u hychwanegu at y llaeth. Cynheswch i 37°C (tymheredd y corff). Gofalwch nad yw’n rhy boeth gan y bydd gormod o wres yn lladd y burum.

Mewn powlen, cymysgwch y blawd, y siwgr, yr halen a’r burum. Ychwanegwch yr wy ac yna hidlwch y llaeth i’r gymysgedd, er mwyn dal yr hadau cardamom.

Rhowch ychydig bach o flawd ar y bwrdd a thylinwch y toes am 10 munud nes ei fod yn llyfn.

Rhowch y toes mewn bowlen wedi ei iro gydag olew a gorchuddiwch gyda cling film. Gadewch i’r toes godi mewn rhywle cynnes am awr.

Rhannwch y toes yn ddarnau crwn tua 60g yr un (ychydig yn fwy na pel golf ) a’u gosod ar dun pobi gydag ychydig o flawd wedi ei ysgeintio arno. Gorchuddiwch gyda cling film neu liain sychu llestri a’u gadael am awr a hanner arall i godi.

Cynheswch y popty i 230°C/ Ffan 210°C/ Nwy 8 a’u pobi am 10 munud nes eu bod nhw’n euraidd frown.

Gadewch i oeri ar rwyll fetel.

Yn y cyfamser chwipiwch yr hufen gyda’r fanila a’r siwgr eisin.

Gratiwch y marsipán a’i gymysgu gydag ychydig bach o laeth i ffurfio past meddal.

Pan fo’r byns yn oer torrwch y topiau i ffwrdd a’u gosod i un ochr.

Tynnwch ychydig o’r bara allan o ganol y byns a cymysgwch y briwsion bara gyda’r past marsipan a llenwch y twll gyda’r gymysgedd.

Peipiwch ychydig o’r hufen am ei ben, a rhowch y caead yn ôl am eu pennau.

Ysgeintiwch ychydig o siwgr eisin am eu pennau a mwynhewch!

Madeleines
Mae’r cacennau bach Ffrengig yma yn syml iawn ond mae nhw’n hynod flasus ac mae nhw’n ddel iawn gyda’u siap cragen unigryw. Yn draddodiadol daw’r cacennau yma o Commercy yn ardal Lorraine o Ffrainc, ac maer spwng ysgafn yn aml wedi’i flasu gyda lemon, oren neu almonau.

Mae rhain yn hawdd iawn i’w gwneud ond er mwyn cael y siap cragen enwog, mae angen tun arbennig. Roeddwn i’n lwcus i gael rhai silicon hyfryd gy fy mrawd yn anrheg. Ac er ei bod posib hi’n bosib gwneud rhain mewn tun cacennau bach neu dun mins peis, fydden nhw ddim cweit mor ddeniadol.

Mae nhw orau yn ffres allan o’r popty wedi’i hysgeintio gydag ychydig o siwgr eisin. Ond hyd yn oed ddyddiau wedyn, mae nhw’n hyfryd wedi’u trochi mewn paned o de neu goffi.

Cynhwysion

2 wy

80g siwgr mân

2 lwy fwrdd mêl

100g menyn

100g blawd plaen

1 llwy de powdr codi

1 llwy de rhin fanila

Dull

1. Cynheswch y popty i 180°C /160°C ffan

2. Toddwch y menyn mewn sospan a’i roi i un ochr.

3. Irwch eich tuniau madeleines drwy eu brwsio gyda’r menyn wedi’i doddi.

4. Chwisgiwch yr wyau a’r sigwr gyda chwisg drydan nes ei fod ewynnog ac wedi’i ddyblu mewn maint.

5. Ychwanegwch y fanila a’i gymysgu.

6. Ychwanegwch y blawd ‘ar powdr codi a’i blygu yn ofalus, gan sicrhau nad ydych yn cnocio’r aer allan o’r wyau.

7. Plygwch y menyn wedi’i doddi mewn i’r gymysgedd.

8. llenwch eich tuniau nes eu bod yn 2/3 llawn.

9. Coginiwch am 10 munud, nes eu bod wedi codi ac wedi dechrau brownio.

Bisgedi Santes Dwynwen
Diwrnod Santes Dwynwen hapus i chi gyd!

Da ni mor lwcus fel cenedl i gael ein nawddsant cariadon ein hunain. Da ni’n cael dathlu cyn y Saeson a da ni ddim yn gorfod talu trwy’n trwynau i brynu blodau neu fynd am swper. Mae o’n teimlo’n llawer mwy diffuant ac yn llai masnachol.

Ac mae’n braf gweld bod y dydd wedi cynyddu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi’n cofio gweithio ym Mwrdd yr Iaith bron i ddeng mlynedd yn ôl, pan roedd rhaid i’r Bwrdd argraffu ei gariadau Santes Dwynwen ei hun, er mwyn hyrwyddo’r dydd. Doedd hi ddim yn hawdd cael gafael ar gardiau santes Dwynwen ar y pryd, ond erbyn hyn, mae yna ddewis eang ar gael, ac mae busnesau yn dechrau gweld gwerth dathlu diwrnod santes Dwynwen, boed nhw yn siopau neu yn fwytai. Er diolch byth tydi oddim yn uffern fasnachol fel Valentines Day.

Wrth gwrs dwi’n byw yn Llundain felly dyw Santes Dwynwen ddim mor amlwg yma, ond mae yna un lle sydd yn cynnig profiad arbennig ar ddiwrnod Santes Dwynwen, sef bwyty Bryn Williams, Odette’s yn Primrose Hill. Felly dyna yn union ble fydda i a Johny fy nghariad yn mynd heno. Maen nhw’n gwneud bwydlen rannu arbennig, ac os ydio mor dda â’r un gawsom ni ddwy flynedd yn ôl yna fe fyddai’n hogan hapus iawn heno. Dwi’n addo rhannu’r manylion efo chi ar ôl i ni fod.

Ond cyn hynny dwi wedi pobi bisgedi bach neis ar gyfer y diwrnod arbennig hwn.

Bisgedi fanila reit syml ydi’r rhain ond maen nhw’n blasu’n hyfryd, ac wrth gwrs gallwch eu haddurno nhw fel da chi eisiau, ond gan ei bod hi’n ddiwrnod y cariadon roedd yn rhaid i mi wneud calonnau pinc!

Cynhwysion

Bisgedi

220g blawd plaen

pinsied o halen

125g menyn heb halen oer

100g siwgr caster

1 wy

1 llwy de rhin fanila

Eisin

1 gwyn wy

½ llwy de o sudd lemon

200g o siwgr eisin

Dull

1. Cymysgwch y blawd, siwgr a halen mewn powlen.

2. Rhwbiwch y menyn oer i mewn i’r cynhwysion sych nes ei fod yn edrych fel briwsion. Neu gymysgwch gan ddefnyddio prosesydd bwyd, neu beiriant cymysgu.

3. Ychwanegwch yr wy a’r rhin fanila a chymysgu nes bod y toes yn dechrau dod at ei gilydd.

4. Yna, gyda’ch dwylo, tylinwch y toes am ryw funud nes ei fod yn glynu at ei gilydd mewn pelen ac yn llyfn.

5. Lapiwch y toes mewn cling film, a’i roi yn yr oergell am 30 munud.

6. Cynheswch y popty i 180°C / Ffan 160°C/ Nwy 4 a leiniwch ddau dun pobi hirsgwar gyda phapur gwrthsaim.

7. Ar ôl i’r toes oeri’n ddigonol ysgeintiwch ychydig o flawd ar y bwrdd a rholiwch y toes allan nes ei fod yn 5mm o drwch

8. Torrwch eich bisgedi allan gan defnyddio torrwyr siap calon, neu unrhyw siap arall sy’n mynd a’ch bryd, a’u gosod ar eich tun pobi.

9. Coginiwch yn y popty am 10-12 munud nes bod yr ochrau yn dechtrau lliwio.

10. Trosglwyddwch i rwyll fetel i oeri.

11. Er mwyn gwneud yr eisin, chwisgiwch y gwynwy gyda chwisg drydan nes ei fod yn ewynnog, ychwanegwch y sudd lemon a chymysgu.

12. Yna ychwanegwch y siwgr eisin yn raddol, a chwisgio nes ei fod yn weddol drwchus. Mae angen i’r eisin fod yn ddigon trwchus i beidio â rhedeg, ond yn ddigon tenau i’w beipio.

13. Os ydych eisiau lliwio eich eisin, ychwanegwch ychidg bach iawn o bast lliw (dwi’n defnyddio ffon gotel i gael jysd digon)

14. Rhowch yr eisin mewn bag eisio bach a thorrwch dwll yn y pen (os oes angen) a pheipiwch addurn ar eich bisgedi.

15. Gadewch i’r eisin galedu cyn bwyta.

Rhannwch gyda eich cariad neu sglaffiwch y cyfan eich hun. Mwynhewch!

Cinio tair seren
Dwi’n gwybod mai blog pobi a chacennau yw hwn ond mae’n rhaid i mi sgwennu am bryd anhygoel gefais i yn ddiweddar. Roedd y pwdin ei hun yn werth cofnod cyfan, ond gwell peidio ag anwybyddu dau gwrs hyfryd arall ges i .

A ble’r oedd y pryd yma? Wel bwyty tair seren Michelin Gordon Ramsay yn Chelsea.

Fe ddaeth ffrindiau i aros diwedd y flwyddyn ddiwethaf ac maen nhw’n dipyn o ‘foodies’ fel fi ac yn awyddus i gael pryd yn un o fwytai Gordon Ramsay. Nawr mae gan Gordon Ramsay nifer fawr o fwytai ar draws Llundain yn amrywio o gastropubs i lefydd llawer mwy crand mewn gwestai fel Claridge’s ar Savoy, felly roedd yna ddigon o ddewis. Ond bwyty Gordon Ramsay (enw unigryw de!) yw’r unig un gyda thair seren Michelin felly yn amlwg roedd rhaid i ni fynd yno.

Dim ond dau fwyty yn Llundain sy’n ddigon lwcus i gael tair seren, bwyty Gordon Ramsay (sydd wedi cadw tair seren ers 2001) a bwyty Alain Ducasse yn y Dorchester (mae hwna yn nesaf ar y rhestr), felly doedd pryd yn byth yn mynd i fod yn rhad. Ond trwy gael ‘set menu’ amser cinio mae’n bosib torri’n sylweddol ar y gost, er hynny fydden i ddim yn licio dangos y bil i’r rheolwr banc!  Mae’n ddiddorol nodi hefyd mai Clare Smyth, y prif gogydd ym mwyty Gordon Ramsay yw’r unig gogydd benywaidd ym Mhrydain i ennill tair seren.

Felly beth mae rhywun yn ei gael am ei arian mewn bwyty tair seren? Wel tydio ddim yn fwyty mawr, dim ond lle i 45 sydd yno, ond fe fuaswn i’n dweud bod yna gymaint â hynny o staff yn gweithio yno. Roedd y staff gweini yn rhoi digon o sylw i ni, ond heb iddo fod yn ormod. Roedd y maitre’d yn benodol yn wych, yn cymryd diddordeb yn y tri ohonom, ac yn gwneud i ni deimlo’n gyfforddus iawn.

Gyda’r pryd amser cinio dim ond 3 dewis sydd yna ar gyfer pob cwrs, ond dwi’n eithaf licio hynny. Mae’n gwneud y dewis yn llawer haws, a da chi’n gallu bod yn eithaf sicr mewn bwyty fel hyn bod unrhyw beth da chi’n ei ddewis yn mynd i fod yn neis.

Cyn i ni gael ein cwrs cyntaf, fe gawsom ni amuse bouche o gawl butternut squash gyda ricotta cartref, lardons a crispbread tenau iawn. Nawr yn gwrs bach ychwanegol sy’n rhoi blas o’r hyn i ddod, ond wir i chi roedd hwn bron a bod yn gwrs maint llawn. ond doeddwn i ddim yn cwyno. Roedd o’n hyfryd.

Fel cwrs cyntaf fe wnes i ddewis y salt cod, gyda ham, pupur, olewydd ac wyau quail. Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl, ond roedd o’n edrych yn drawiadol iawn pan ddaeth allan, ac yn blasu’r un mor neis, gyda’r salt cod cynnes yn gweddu yn hyfryd gyda’r blasau cryf eraill. Gyda’r cwrs yma roedd y sommelier wedi argymell gwin gwyn diddorol iawn oedd yn arogli yn gryf iawn o sherry. Roedd o’n eithaf anhygoel a dweud y gwir, ond yn gweddu yn berffaith gyda’r holl flasau gwahanol ar y plât.

Pysgodyn arall gefais i ar gyfer y prif gwrs, y tro yma Pollock, wedi’i weini gyda couscous chorizo a baby squid. Eto blasau cryf oedd yn llwyddo i weddu gyda’i gilydd yn berffaith. Gyda’r cwrs yma gwin rosé gafodd ei argymell, rosé difrifol meddai’r sommelier. Dewis eithaf anghyffredin efallai ond perffaith ar gyfer y pryd yna.

Mae rhywun yn tueddu i feddwl bod maint y platiau o fwyd yn mynd i fod yn fach iawn mewn bwytai crand fel hyn, felly fe gefais i fy synnu gyda pha mor fawr oedd y prydau yma. Doeddwn i ddim yn gallu gorffen fy mhrif gwrs, roeddwn i’n ymwybodol wrth gwrs bod rhaid cadw lle ar gyfer y pwdin.

Ac ar gyfer ein pwdin, fe gafodd y tri ohonom yr un peth, pinafal wedi’i rostio gyda financiers coriander, sorbet coconyt a hufen fanila. Swnio’n eithaf syml ond dwi erioed wedi blasu rhywbeth tebyg, roedd o’n anhygoel. Roedd y pinafal yn gynnes ac yn felys a’r sorbet coconyt oer yn cyferbynnu yn hyfryd. Roedd y coriander yn y finaciers yn ychwanegiad gwahanol iawn oedd yn cael ei ategu gan y dail bach o goriander ffres ar y plât. Yn clymu popeth at ei gilydd wedyn oedd yr hufen fanila gogoneddus, dwi erioed wedi blasu hufen mor flasus na mor esmwyth. Mae’n tynnu dwr o fy nannedd yn meddwl amdano.

Roeddwn i’n credu mai dyna ddiwedd y pryd, ond o na! Fe ddaeth y gweinydd allan gyda bowlen fach arian oedd yn mygu gyda rhew sych. Yn y canol roedd peli bach o hufen ia mefus wedi’i gorchuddio mewn siocled gwyn, roedd o fel ffrwydrad o flas mefus yn eich ceg. Yn ogystal fe gawsom ni truffle siocled moethus oedd yn fach iawn ond yn hynod gyfoethog a jeli rhosyn, oedd yn debyg iawn i turkish delight ond yn llawer mwy ysgafn. Sypreis hyfryd ar ddiwedd pryd.

Yna cyn gadael fe ddaeth y maitre’d clên draw at ein bwrdd a gofyn a oeddem ni eisiau gweld y gegin. Dwi ddim yn siŵr pam gawsom ni’r cynnig yma, weles i neb arall yn mynd, ond doeddwn ni ddim yn mynd i wrthod. yr hyn oedd yn fy synnu i, pan gerddais i mewn i’r gegin oedd pa mor fach oedd o, a cymaint o bobl oedd yn gweithio yno. Yn amlwg roedd gan bob cogydd ei ardal fach ei hun i wneud un pryd, neu un rhan o bryd a doedd o neu hi ddim yn symud oddi yno. Mae’n rhaid eu bod nhw yn drefnus a thaclus iawn.

Roedd o’n ddiweddglo perffaith i bryd anhygoel.

Te Prynhawn yn yr Athenaeum
Da chi gyd yn gwybod cymaint dwi’n joio te prynhawn, ac yn bachu ar unrhyw esgus i fwyta llond bol o frechdanau bach, cacennau a the. Felly pan ddaeth un o fy ffrindiau gorau draw i aros o Sweden, roedd o’n un o’r pethau cyntaf ar ein ‘to do list’.  Mae Pia yn dipyn o bobwraig hefyd ac fe fydd y rhai ohonoch sydd wedi darllen y llyfr wedi gweld rhai o’i ryseitiau hi, felly roedd rhaid gwneud yn siŵr ein bod ni’n mynd i rywle gwerth chweil. Ac yn ôl y Tea Guild does ‘na unrhwy le gwell ar hyn o bryd na’r Athenaeum, enillydd y te prynhawn gorau yn Llundain yn 2012.

Mae’r Athenaeum yn westy pum seren ynghanol Llundain sy’n edrych dros Green park. Wrth gwrs mae’n foethus ond tydio ddim yn teimlo yn rhy ffurfiol. A dweud y gwir mae’r stafell ble maen nhw’n gweini’r te prynhawn yn glyd a chysurus, a dweud y gwir roedden nhw hyd yn oed yn rhoi blancedi i chi swatio yn eich cadeiriau os oeddech chi eisiau.

Y peth da am de prynhawn yw nad oes rhaid i chi ddewis rhyw lawer (dwi’n un ofnadwy am bendroni am oes dros fwydlen hirfaith), ond ar ôl eistedd i lawr yn ein cadeiriau cyfforddus, roedd ‘na ddau ddewis i’w wneud. Pa de i’w ddewis? – Assam gan amlaf i mi. Ac oeddem ni eisiau Champagne? – dim ond un ateb sydd i’r cwestiwn yna!

Felly glasied o champagne yr un, champagne pinc gydag ychydig o flas rhosyn arno, a the wedi’i weini mewn tebotau arian.

Yn wahanol i rai gwestai dyw’r holl fwyd ddim yn dod ar unwaith wedi’i gweini ar stand cacennau. yn hytrach fe ddaeth gweinydd draw gyda phlât yn llawn brechdanau a gofyn pa rai oeddem ni eisiau a’u gosod ar ein plât. Doedd dim angen poeni am fod yn farus roedd o’n fwy na bodlon i ni gael llond plât o frechdanau a mwy wedyn, a’r peth da am hyn oedd nad oedd rhaid i unrhyw un fwyta’r brechdanau wy! Brechdanau reit glasurol oedd y rhain, eog wedi’i fygu, ciwcymbr a chaws hufen a ham a phicl, ond roedd pob un yn flasus ac yn amlwg wedi’i dorri yn ffres gan nad oedd yna un ochr sych.

Ar ôl y brechdanau daeth y sgons a chrympets, i gyd yn gynnes o’r popty, gyda photiau o jam mefus, hufen a cheuled lemon. Wrth gwrs fe sglaffiwyd y cyfan. Ond roedd seren y sioe eto i ddod.

Gyd prin ddim lle ar ôl yn ein boliau fe gawsom ni ddewis nid o ddau neu dair cacen arall ond llond troli ohonyn nhw. Roedd yna gymaint o bethau bach blasus gwahanol o dartenni ffrwythau i jeli champagne i gacen ffrwythau roedd hi’n anodd penderfynu beth i’w gael. Yn y diwedd fe ges i darten ffrwythau, bocs siocled wedi’i lenwi gyda mousse siocled gwyn, a paflofa bach mafon. Roedd y tri pheth yn hyfryd ac roedd fy ffrindiau Pia a Kläs yn hapus gyda’u dewis nhw hefyd. fe fuaswn i wedi bod wrth fy modd yn trio mwy, ond wir i chi doedd na ddim lle ar gyfer un briwsionyn arall erbyn y diwedd.

Fe wnaeth y tri ohonom fwynhau’r profiad yn fawr, a fydden i’n newid dim. Llwyr haeddiannol o’r wobr ddywedwn i.