Dathlu’r ddaear gyda Bryn Williams

7 Chwe

Bob blwyddyn mae’r WWF (y bobl anifeiliad nid y reslars) yn gofyn i bobl ar draws y byd, i droi eu goleuadau i ffwrdd am awr er mwyn arbed trydan a hefyd i bwysleisio’r pryder ynglyn a newid hinsawdd.

Mae syniad yr  Awr Ddaear yn un syml iawn ond effeithiol, dwi’m yn meddwl ein bod ni’n sylwi cymaint o oleuadau da ni’n ei ddefnyddio tan mae popeth yn mynd yn dywyll am gyfnod. Felly am 8.30pm ar 31 Mawrth  maen nhw eisiau i bawb i droi eu goleuadau i ffwrdd am awr.

Ond mae eistedd o gwmpas yn y tywyllwch yn ddiflas, felly mae’r WWF yn annog pobl i ddefnyddio’r awr yna i gael pryd rhamantus dan olau cannwyll. Maen nhw hyd yn oed wedi perswadio nifer o gogyddion enwog i gynnig ryseitiau, gan gynnwys hoff gogydd pawb yng Nghymru ar hyn o bryd, Bryn Williams.

Dwi’n ffan mawr o fwyd Bryn Williams, ar ôl cael prydau anhygoel yn Odette’s, felly roeddwn i’n edrych ymlaen i weld ei fwydlen.

Fel pryd cyntaf mae ganddo rysáit ar gyfer cawl betys, sy’n edrych yn hyfryd. Macrell gyda broad beans a chorizo yw’r prif gwrs, rhywbeth fyddai’n sicr yn ceisio ei goginio yn y dyfodol. Ac i bwdin mae’n cynnig crymbl afal a chnau castan.

Fe fyddai’n sicr yn ceisio gwneud y ddau gwrs cyntaf yn y dyfodol ond am y tro, gan mai blog pobi ydi hwn, fe benderfynais wneud y crymbl.

Mae crymbl afal yn bwdin reit glasurol ond mae techneg Bryn o bobi’r crymbl ar wahân yn golygu eich bod chi’n cael crymbl sy’n hynod greisionllyd, sy’n cyferbynnu yn berffaith gyda’r afalau meddal. Mae’r almonau yn ychwanegu at yr ansawdd yna ac yn tostio’n hyfryd i roi blas ychwanegol i’r crymbl.

Mae’n rhaid cyfaddef nad ydw i’n or-hoff o flas nag ansawdd cnau castan, ac er eu bod nhw’n ychwanegu blas llawer mwy dwfn i’r crymbl, fe fuaswn i’n bersonol yn eu gadael allan y tro nesaf. Ond chwaeth bersonol yn unig yw hynny, ac fe fuaswn i’n annog unrhyw un i drio’r cnau yn y crymbl eu hunain.

Fe wnes i gwstard cartref i fynd gyda’r crymbl, oedd yn cyd-fynd yn berffaith, er fe fuasai hufen ia yn hyfryd hefyd. Un rhybudd am y ryaist yma, mae’n gwneud digon i deulu cyfan, felly os da chi’n bwriadu cael pryd rhamantus i ddau, hanerwch y cynhwysion.

Os da chi eisiau cenogi Awr Ddaear, gallwch gofrestru eich cefnogaeth fan hyn a gwnewch y mwyaf o’r awr yn y tywyllwch gyda phryd o fwyd hyfryd dan olau cannwyll (yn anffodus fydd Bryn Williams ddim yn dod draw i’w goginio i chi!).

Cynhwysion

12 afal, wedi eu plicio
1 pod fanila
125g siwgr caster
200g o gnau castan wedi’i goginio
1 llwy de o sbeis cymysg
25g menyn

Ar gyfer y crymbl

250g blawd plaen
200g siwgr caster
200g menyn, yn syth o’r oergell
150g o almonau wedi’i sleisio

Dull


1. Cynheswch y popty i 160C/140C fan/marc nwy 3.

2. Torrwch 3 o’r afalau mewn i sgwariau bach a’u gosod mewn sosban gyda’r pod fanila a’r siwgr. Gorchuddiwch gyda jyst digon o ddŵr a’u coginio nes eu bod nhw’n feddal. Dylai hyn gymryd rhyw 5 munud, ond cadwch olwg arnyn nhw. Yna stwnsiwch yr afalau gyda fforc a’u gosod i un ochr.

3. Torrwch weddill yr afalau a’r cnau castan mewn i ddarnau maint cegaid, a thaenwch y sbeis cymysg ar eu pen.

4. Cynheswch y menyn mewn padell ffrio a ffriwch yr afalau a chnau castan am ychydig o funudau.

5. Ychwanegwch at yr afalau wedi’i stwnsio yn y sosban. Trowch y gwres yn ôl ymlaen a choginiwch am 10 munud arall, neu nes bod yr afalau a’r cnau castan wedi coginio ac yn feddal.

6. Er mwyn gwneud y crymbl cymysgwch y blawd a’r siwgr mewn bowlen fawr. Ychwanegwch y menyn mewn darnau man a’i rwbio rhwng eich bysedd nes bod y gymysgedd yn edrych fel briwsion bras. Ychwanegwch yr almonau a’u cymysgu

7. Rhowch y crymbl ar hambwrdd pobi ai goginio yn y popty am ryw 10 munud, tan fod y gymysgedd yn euraidd frown. Fe fydd hyn yn sicrhau crymbl creisionllyd.

8. Rhowch y gymysgedd afal mewn bowlenni neu ramekins unigol (gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n iawn i’w rhoi yn y popty). gorchuddiwch gyda’r crymbl a’u pobi yn y popty am 10 munud arall.

9. Gweinwch yn syth gyda digon o gwstard, hufen neu hufen ia.

 

Tagiau: , , , , , , ,

Cacen gaws sinsir a riwbob

5 Chwe

Fe welais i riwbob yn yr archfarchnad yn ddiweddar ac fe wnaeth i mi feddwl nad ydw i erioed wedi coginio unrhywbeth efo riwbob heblaw am grymbl. Felly fe ysgogodd hynny i mi fynd ati i chwilio am bwdin neu gacen fyddai ychydig bach yn fwy mentrus.

Mae riwbob a sinsir yn gyfuniad gwych, felly pan welais i rysait ar gyfer cacen gaws sinsir a riwbob, roedd rhaid yn rhaid i mi ei drio. Rysait ar gyfer cacen gaws wedi’i bobi yw hwn, rhywbeth nad oeddwn wedi’i wneud o’r blaen. Mae’n golygu ychydig bach mwy o waith ond mae’n rhaid dweud fy mod i’n ei hoffi’n well na chacen gaws cyffredin, gan ei fod yn llawer mwy ysgafn.

Roedd genni un broblem fawr pan ddaeth hi’n amser i mi goginio’r gacen gaws, doeddwn i methu ffeindio riwbob yn unrhyw le! Felly yn lle rhostio fy riwbob fy hun, bu raid i mi ddefnyddio riwbob tun. Nawr dwi’n gwybod mai cyfnewidiad gwael oedd hynny, ond roeddwn i wedi rhoi fy mryd ar wneud y gacen, felly dyna oedd yr unig opsiwn. Yr unig broblem efo hyn oedd bod y riwbob tun bach yn wlyb ac yn golygu bod y bisged ar y gwaelod yn mynd ychydig bach yn sogi. Ond roedd y riwbob yn gyferbyniad hyfryd i felyster y gacen ei hun. Fe fydd yn rhaid i mi drio’r rysait eto, unwaith dwi’n cael gafael ar riwbob ffres, i weld os fydd o’n gwneud gwahaniaeth.

Dwi wrth fy modd efo blas sinsir felly yn ogystal â defnyddio bisgedi sinsir fel gwaleod i’r gacen fe wnes i hefyd ychwanegu darnau o sinsir mewn syryp i’r gacen ei hun. Ond os nag ydych mor hoff â hynny o sinsir byddai modd ei adael allan o’r gacen ei hun, a chanolbwyntio ar y riwbob yn unig.

 

Cynhwysion

600g riwbob
75g siwgr caster

1 paced 300g o fisgedi sinsir
100g menyn heb halen wedi’i doddi
300g caws meddal llawn brasder
65g siwgr caster
Croen 1 lemon wedi’i gratio yn fân
3 wy mawr wedi’i gwahanu
150ml hufen wedi’i suro
2 ddarn o sinsir mewn syryp wedi’i torri yn fân

 

Dull

1. Torrwch y riwbob yn ddarnau tua 5cm o hyd a’u gosod mewn dysgl gall fynd yn y popty. Gwasgarwch y siwgr am eu pen a’u rhostio am 15 munud ar dymheredd o 200C / 180C fan. Neu os nag ydych yn gallu cael gafael ar riwbob ffres fel fi, defnyddiwch riwbob tun, neu riwbob wedi’i rewi.

2. Malwch y bisgedi, unai trwy eu rhoi mewn bag plastig a’u taro gyda phin rolio, neu rhowch nhw mewn prosesydd bwyd. Cymysgwch gyda’r menyn wedi toddi a’u gwasgu ar waelod tun crwm gydag ochrau sy’n dod yn rhydd. Gadewch i oeri yn yr oergell tra da chi’n gwneud gweddill y gacen gaws.

3. Curwch y caws meddal gyda chwisg electrig nes ei fod yn feddal, yna ychwanegwch y siwgr caster a chroen y lemon. Cymysgwch yn dda.

4. Ychwanegwch y 3 melynwy a’r hufen wedi’i suro a churo eto nes ei fod yn llyfn. Ychwanegwh y sinisr wedi’i dorri a chymysgu.

5, Mewn bowlen arall chwisgiwch y 3 gwyn wy nes ei fod yn stiff. Rhowch lond llwy o’r gwyn wy yn y gymysgedd gaws a’i gymysgu yn dda. Yna ychwanegwch weddill y gwyn wy a’i blygu yn ofalus, gan ddefnyddio llwy fetel.

6. Gwasgarwch y riwbob ar ben y bisgedi, yna tywalltwch y gymysgedd gacen gaws am ei ben.

7. Gosodwch ar hambwrdd pobi a’i goginio ar dymheredd o 180C/160C fan am 15 munud, neu nes ei fod wedi codi. Yna gostyngwch y tymheredd i 160C / 140C fan a’i bobi am 30-35 munud arall, nes ei fod yn teimlo’n eithaf solet ond dal ychydig yn wobli yn y canol.

8. Tynnwch allan o’r popty a rhedwch gyllell o gwmpas ochr y tun i ryddhau’r ochrau ychydig. Gadewch i oeri yn y tun. Peidiwch â phoeni os yw’r gacen gaws yn cracio ychydig, mae hyn yn eithaf naturiol. Dwi wedi clywed bod modd osgoi hyn trwy adael y gacen i oeri yn raddol yn y popty, ond roedd gennai bethau arall i’w coginio ar ôl hon, felly allan a hi a wfft ag unrhyw grac!

Tagiau: , , , ,

Diwrnod Santes Dwynwen Hapus!

25 Ion

Diwrnod Santes Dwynwen Hapus i chi gyd!

Gobeithio bod pawb yn gwneud rhywbeth i ddathlu, neu’n defnyddiwch o fel esgus iwneud rhywbeth neis eich hunain! . Yn anffodus dwi’n gwneud dim gan bod y cariad yn Llundain a minnau yng Nghaerdydd, felly fyddai ddim yn cael mynd i Odette’s am swper i ddathlu eleni – roeddwn i’n hogan lwcus iawn y llynedd ac fe gawsom ni bryd o fwyd anhygoel yno.

Dwi erioed wedi bod yn ffan o Ddydd San Ffolant, mae o’n llawer rhy fasnachol a mae rhywun yn teimlo’r pwysau i wneud rhywbeth arbennig, ond rhywsut mae Dydd Santes Dwynwen yn teimlo’n wahanol. Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n dathlu ein nawddsant cariadon ein hunain, mae stori Dwynwen yn hyfryd, ac wrth gwrs mae’n gwneud llawer mwy o synnwyr i gael dynes fel nawddsant y cariadon (sori hogia!) Felly mwynhewch heddiw ac os da chi’n chwilio am rywbeth i’w goginio i’r person arbennig yna yn eich bywyd, dwi wedi gwneud cacen red velevt ar eich cyfer.

Mae’n gacen berffaith gan ei bod y sbwng siocled yn lliw coch tywyll, a dwi’n addo na fydd unrhyw un yn gallu gwrthod sleisen o’r deisen hon!

O America daw’r gacen yn wreiddiol, ac mae wedi dod yn boblogaidd iawn fel cupcake yn y blynyddoedd diwethaf – a dweud y gwir rysait ar gyfer cupcakes yn llyfr yr hummingbird baker yw hwn. Dwi wedi addasu’r rysait rhywfaint gan fy mod i eisiau gwneud un gacen fawr, ac mewn tun calon wrth gwrs gan ei bod hi’n ddiwrnod Santes Dwynwen!

Cynhwysion

120g menyn heb halen ar dymheredd ystafell

300g siwgr caster

2 wy

40go bowdr coco

1 llwy de o fanila

240ml o laeth enwyn

300g blawd plaen

1 llwy de o bicarbonate of soda

3 llwy de o finegr gwyn

Ar gyfer yr eisin

600g siwgr o eisin

100g menyn heb halen ar dymheredd ystafell

300g caws meddal megis Philadelphia

Dull

1. Cynheswch y popty i 170°C / 150°C ffan. Irwch a leiniwch dun tua 20″ modfedd.

2. Gan ddefnyddio cymysgwr trydan, cymysgwch y menyn am 3 munud. Mae 3 munud yn lot hirach nag ydych chi’n ei feddwl felly amserwch o!

3. Nawr ychwanegwch y siwgr ychydig ar y tro, gan barhau i gymysgu. Yna cymysgwch am 4/5 munud arall. Dyma mae’r ryseitiau yn ei olygu pan maen nhw’n dweud ‘cream the butter and sugar until light and fluffy’!

4. Yna ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan gymysgu yn llwyr rhwng pob un.

5. Mewn bowlen arall, cymysgwch y powdr coco, y fanila a tua llond llwy de o liw coch (past coch wnes i ei ddefnyddio, gewch chi byth liw cryf efo’r rhai rhad na da chi’n ei gael yn yr archfarchnad) ac ychydig bach o ddŵr nes eich bod chi’n cael past trwchus a thywyll.

6. Ychwanegwch at y menyn, a’i gymysgu yn dda.

7. Nawr ychwanegwch hanner y llaeth enwyn, ei gymysgu yn dda cyn ychwanegu hanner y blawd. Gwnewch yr un peth gyda gweddill y llaeth enwyn a’r blawd.

Os nad ydych chi’n gallu cael gafael ar laeth enwyn, mae’n bosib gwneud rhywbeth tebyg eich hunain gan ychwanegu sudd lemon at laeth cyffredin. Dyna wnes i y tro yma gan ddefnyddio sudd un lemwn ar gyfer 240ml o laeth)

8. Ychwanegwch y bicarbonate of soda a’r finegr a’i gymysgu unwaith eto.

9. Tywalltwch i mewn i’ch tun a phobwch am awr, nes bod sgiwer yn dod allan o’r canol yn lân.

10. Gadewch y gacen i oeri yn y tun am ychydig, cyn ei drosglwyddo i restl i oeri yn llwyr.

11. Ar ôl iddo oeri yn llwyr, torrwch y gacen yn ei hanner yn barod ar gyfer yr eisin.

12. Er mwyn gwneud yr eisin curwch y siwgr eisin a’r menyn tan ei fod wedi cymysgu yn dda, yna ychwanegwch y caws meddal oer i gyd, a’i guro am ryw 4-5 munud. Peidiwch â’i guro dim mwy na hynny neu fe fydd yn mynd yn rhy denau.

13. Rhowch ychydig o’r eisin rhwng dwy haen y gacen a gorchuddiwch y top a’r ochrau. Esmwythwch cymaint â phosib, wedyngadewch y gacen fel mae hi neu os oes gennych chi blentyn bach yn eich helpu chi (fel oedd gennyf i) gorchuddiwch y top gyda gormodedd o sprinkles pinc!

Tagiau: , , , , , ,

Rum Baba

17 Ion

Tan yr wythnos hon doeddwn i erioed wedi clywed am rum baba o’r blaen. Gofynnodd fy ffrind i mi wneud rhai iddo, ond wrth gwrs doedd genai ddim clem beth oedd un, heb sôn am sut i’w gwneud nhw. Felly dyma ddechrau twrio trwy fy llyfrau coginio am rysait.

Fe lwyddais i ganfod tri rysait ar eu cyfer ymysg fy llyfrau, ond roedd y tri yn edrych yn hollol wahanol. Felly fe benderfynais i ddilyn rysait Dan Lepard yn bennaf, ond gan gymryd ychydig o syniadau o’r ryseitiau eraill.

Rhyw fath o fara melys yw rum baba, sydd, ar ôl ei goginio, yn cael ei socian mewn syryp melys o rym, fanila a lemon. Pwdin a oedd, yn ôl y son, yn ffasiynol yn y 70au??? ac sydd yn dod yn wreiddiol o wlad Pwyl????

Ar un pwynt doeddwn i’m yn ffyddiog y byddai’r rysait yn gweithio. Bu raid mi gymysgu’r toes a llaw gan nad yw’r ktchenaid gyda fi yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Doedd hynny ddim yn ddelfrydol gan ei fod yn gymysgedd gludiog iawn. Dwi eisiau eu trio eto ond gyda’r peiriant, dwi’n siwr y bydd o’n llawer haws ac yn creu lot llai o lanast. Y broblem arall ges i oedd bod rhaid gadael i’r toes godi, fel bara. Ond gan ei bod hi mor oer ar hyn o bryd, fe gymerodd ddwywaith mor hir a’r disgwyl.

Gan nad oeddwn wedi bwyta na hyd yn oed gweld rum baba or blaen, doeddwn i ddim yn siwr sut yr oedden nhw fod i droi allan. Ond yn y diwedd fe gefais i fy siomi ar yr ochr orau, roedden nhw’n hyfryd. Mae yna flas tebyg iawn i brioche neu panattone ar y toes, ond mae’n nhw’n reit sych ar ben eu hunain. Dyna pam mae’r syryp rum yn hanfodol ac mae’n ychwanegu blas a cic i’r pwdin. Fe fyddai’n sicr yn eu gwneud nhw eto (ond dim ond os oes genai’r kitchenaid!)

Cynhwysion.

Dull

20120119-225723.jpg

20120119-225753.jpg

20120119-225845.jpg

20120119-225813.jpg

20120119-225913.jpg

20120120-120554.jpg

Tagiau: , , , ,

Roulade siocled

15 Ion

20120113-191332.jpg

Dwi’n gwybod na fues i’n blogio rhyw lawer dros y nadolig, ond dyw hynny ddim yn golygu na fues i’n coginio. A dweud y gwir fi oedd yn gyfrifol am wneud cinio dolig i’r teulu eleni, a hynny am y tro cyntaf. Wrth gwrs roedd rhaid gwneud pwdin arbennig, ond does yna’m llawer o bobl yn ein teulu ni sy’n licio pwdin dolig. Yn sicr dwi ddim! Mae’n llawer rhy gyfoethog a thrwm i fwyta ar ôl pryd mor fawr. Felly fe benderfynais wneud roulade siocled ar gyfer y dydd, llawer ysgafnach na phwdin nadolig, a pwy sydd ddim yn licio siocled?

Nawr dwi’n gwybod pawb di hen ddiflasu efo’r nadolig erbyn hyn, ond roeddwn i’n meddwl bod o’n werth rhannu’r rysait yma efo chi, gan fod roulade yn bwdin perffaith ar gyfer unrhyw achlysur.

A gan ei bod hi’n flwyddyn newydd, a rhai ohonom (gan gynnwys fi!) yn ceisio bwyta’n iach, mae modd gwneud y roulade yma yn weddol iachus. Hynny yw os ydych chi’n cyfnewid yr hufen dwbl am iogwrt neu creme fraiche braster isel. Hefyd does dim blawd ynddo, sy’n ei wneud yn ysgafn awn, ac yn gluten free. Felly beth sydd yna i beidio ei licio?

Mae yna filoedd o ryseitiau roualde i’w cael ond rysait gan Merry Berry yw hwn.

 

 

Cynhwysion

175g siocled tywyll, o leiaf 70% cocoa solids

6 wy, wedi eu gwahanu

175g siwgr caster

2 llwy fwrdd o bowdr cocoa

300ml hufen dwbl

Ychydig o ffrywthau fel mefus neu fafon

Dull

1. Cynheswch y popty I 180C/160 fan ac irwch dun swiss roll a’i leinio gyda papur gwrth saim.

2. Torrwch y siocled yn ddarnau man, a’i doddi mewn bowlen sydd wedi ei osod dros sosban o ddŵr sy’n mudferwi. (gwnewch yn siwr nad yw’r fowlen yn cyffwrdd y dŵr o gwbl)

20120113-191658.jpg

3. Rhowch y 6 gwyn wy mewn bowlen a’i chwisgo tan ei fod yn stiff, ond gofalwch nad ydych chi’n ei or-wisgio. Dyle’ chi fod yn gallu dal y fowlen uwch eich pen heb iddo gwympo allan!

20120113-192007.jpg

4. Rhowch y 6 melynwy mewn bowlen arall gyda’r siwgr a’i chwisgo am 2-3 munud nes ei fod yn edrych fel hufen trwchus.

5. Ar ôl i’r siocled oeri rhywfaint, ychwanegwch at y melynwy a’r siwgr, a’i blygu yn ofalus, nes ei fod wedi cymysgu yn llwyr.

6. Yna gan ddefnyddio llwy fetel mawr ychwanegwch ddau lond llwyaid o’r gwyn wy at y gymysgedd siocled. Mae hyn yn llacio’r gymysgedd ac yn ei gwneud hi’n haws i gymysgu gweddill y gwyn wy heb golli’r holl aer.

20120113-192323.jpg

7. Ychwanegwch weddill y gwyn wy a’i blygu yn ofalus. Felly cymysgu yn ofalus mewn ffigwr wyth, yn hytrach na’i guro yn galed.

8. Hidlwch y powdr coco dros y cyfan a’i blygu yn ysgafn.

20120113-192504.jpg

9. Tywalltwch y gymysgedd i mewn i’r tun, gan ei wthio yn ofalus i’r corneli.

10. Pobwch am 20-25 munud nes bod y gymysgedd wedi codi, a bod y top yn teimlo’n eithaf cadarn. Gadewch iddo oeri yn y tun (fe fydd y roulade yn disgyn rhywfaint wrth iddo oeri, ac efallai y bydd y top yn cracio rhywfaint).

11. Chwisgiwch yr hufen nes ei fod yn weddol stiff a pharatowch eich ffrwythau.

12. Gosodwch ddarn o bapur gwrthsaim ar eich bwrdd a thaenu ychydig o siwgr eisin ar ei ben. Gosodwch y roulade ar ei ben, fel bod y papur leinio yn eich wynebu. Yna, yn ofalus, tynnwch y papur i ffwrdd.

20120113-192749.jpg

13. Taenwch yr hufen ar ben y roulade, gan adael gofod o 2cm yr holl ffordd o gwmpas yr ochr. Rhowch eich ffrwythau ar ben yr hufen.

14. Nawr mae’n amser rolio! Gydag un o’r ochrau byrraf yn eich wynebu chi, torrwch linell gyda chyllell finiog ryw 2cm o’r pen, gan sicrhau mai dim ond hanner ffordd trwy’r roulade yr ydych chi’n torri. Bydd hyn yn eich helpu chi i ddechrau rholio. Yna roliwch y darn yma drosodd yn ofalus, yna defnyddiwch y papur i’ch helpu chi i rolio gweddill y roulade yn dynn, trwy ei dynnu oddi wrthoch chi tra da chi’n rholio.

Peidiwch â phoeni os yw eich roulade yn cracio (fe wnaeth fy un i) mae’n eithaf cyffredin ac yn ychwanegu at edrychiad terfynol y pwdin.

Gweinwch gydag ychydig o siwgr eisin ar ei ben.

Tagiau: , , ,

Blwyddyn Newydd Dda!

11 Ion

Helo a blwyddyn newydd dda i chi gyd.

Wel pwy feddylia ei bod hi bron yn flwyddyn ers i mi ddechrau’r blog yma. Pan grëais i’r blog, doeddwn i ddim yn disgwyl y busawn i’n blogio rhyw lawer. Ond dwi wedi cael cymaint o fwynhad, yr unig beth sy’n fy stopio rhag blogio mwy yw’r diffyg oriau yn y dydd. Mae wedi bod yn grêt cael esgus i drio ryseitiau newydd, ac i brynu hyd yn oed mwy o lyfrau coginio. Mae hefyd wedi bod yn bleser cael trafod cacennau a phobi gyda phobl eraill sy’n rhannu’r un diddordeb a minnau.

Dwi’n lwcus iawn bod y blog hefyd wedi arwain at nifer o cyfleoedd gwych, rhywbeth doeddwn i wir ddim yn ei ddisgwyl wrth ysgrifennu’r blog cyntaf yna fis Chwefror diwethaf. Roeddwn i ar raglen Blas, Radio Cymru eto heddiw, y tro yma yn trafod cacennau iach (ish!) ar gyfer unrhyw un sydd ar ddeiet yn y flwyddyn newydd. Mae’n raglen wych a dwi’n mwynhau cael cyfrannu.

Nawr mae’n rhaid i fi ymddiheuro bod y blog wedi bod yn dawel dros yr wythnosau diwethaf, yn anffodus mae gwyliau a gloddesta wedi tarfu ychydig ar yr amser blogio. Ond un o fy addunedau flwyddyn newydd yw i gario ymlaen i flogio cymaint â phosib. Bydd hynny, yn amlwg, yn golygu lot o bobi ym mis Ionawr, sydd yn anffodus yn achosi problem i un o fy addunedau eraill, o fwyta yn fwy iach. O wel, dwi wedi dweud na fyddai’n yfed ym mis Ionawr chwaith, ond mae’n rhaid i fi gael rhyw bleser yn does!

O ran fy addunedau coginio, dwi’n gobeithio palu trwy’r holl lyfrau coginio yna sydd gennyf, a pharhau i drio ryseitiau newydd. Ond dwi hefyd yn gobeithio cael ychydig mwy o amser i bobi bara, rhywbeth dwi’n awyddus iawn i’w feistrioli. Mae gennyf gacen briodas arall i’w wneud eleni hefyd, y tro yma yn yr Alpau yn Ffrainc, a da chi’n sicr o glywed sut y byddai’n dygymod a hynny!

Felly dwi’n gobeithio eich bod chi’n mwynhau darllen y blog cymaint â dwi’n mwynhau ei sgwennu. Ac os oes gennych chi awgrymiadau am bethau i goginio, neu ryseitiau yr hoffech chi weld ar y blog, gadewch i mi wybod.

Bwyta yn Efrog Newydd

31 Rhag

Wel Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd. Ymddiheuriadau am y diffyg blogio dros yr ŵyl ond dwi wedi bod yn brysur yn bwyta, yfed, diogi a dal fyny efo’r teulu (beth arall sy’ na i’w wneud dros y gwyliau?). Ond y penwythnos cyn y Nadolig fe fues i ar drip bach i Efrog Newydd gyda’r cariad.

Roedd y ddau ohonom wedi bod o’r blaen, felly doedd yna ddim pwysau i weld y golygfeydd. Felly’r bwriad oedd gwneud bach o siopa dolig (ok lot o siopa!) a chrwydro o gwmpas y ddinas yn bwyta ac yfed – beth well?

Felly dyma rai o’r danteithion y buem ni’n ei fwyta ar ein hymweliad i Efrog Newydd.

Dyma’r pryd cynaf i mi ei gael, ac am bryd da i ddechrau. Pulled pork sandwich mewn bynsen brioche efo coleslaw a thomen o chips wrth gwrs.

Roedd y bwyd yn Efrog Newydd yn atyniad mawr i mi, felly cyn mynd fe wnes i fwcio taith fwyd o gwmpas Greenwich Village gyda Foods of New York Tours. Roeddwn i’n gobeithio y byddai’n rhoi blas i ni o’r bwyd gorau sydd gan y ddinas i’w gynnig. Ac mae’n rhaid dweud dyma oedd un o uchafbwyntiau’r gwyliau i mi. Roedd o’n para am 3 awr ac fe aethom i naw o wahanol lefydd i flasu eu bwydydd. Ar ben y bwyd blasus roeddem ni hefyd yn clywed am gefndir y bwytai a’r siopau, a hanes yr ardal yn gyffredinol. Profiad gwerth chweil os ydych chi’n ymweld ag Efrog Newydd ac yn licio eich bwyd.

This slideshow requires JavaScript.

Y lle cyntaf i ni fynd iddo oedd Joe’s pizza, i gael New York pizza clasurol, tenau a crispy, perffaith am 11 y bore!

Wedi hynny fe flasom ni olew yn O&Co, rhywbeth o’r enw choripain (chorizo ar fara) ym mwyty Little Havana, y clasur Americanaidd Mac and cheese yn yr House Garden a risotto ball yn Ficcos.

Wedyn roedd hi’n amser i eistedd lawr a chael diod bach yn Centro Vinoteca, bwyty Eidalaidd hyfryd. A gan ein bod ni ar ein gwyliau roedd rhaid cael coctel, felly fe gawsom ni bellini yr un. I gyd fynd â’r diodydd fe gawsom ni piccolini, 4 canapés bach. Sef truffled deviled egg, datysen wedi’i lapio mewn cig moch a’i stwffio gyda gorgonzola, courgette fritter ac artichoke a chaws.

Ar ôl dro bach o gwmpas yr ardal roedd hi’n amser am bwdin, sef chocolate chip cookies o Milk & Cookies. Roedden nhw’n dal yn gynnes o’r popty ac yn hynod o flasus.

Ar ôl hynny fe aethom i Murray’s Cheese i flasu ychydig o gawsiau gwahanol, cyn gorffen gyda cannoli yn Rocco’s. Erbyn hynny roeddwn i bron a byrstio, ond wedi cael amser gwych.

Y bore wedyn, ar ôl gormod o goctels y noson cynt, roedd angen brecwast awr arnom. Felly fe wnaethom ni ganfod diner gwych ar Union Square. Ble gefais i Huevos Rancheros anhygoel a Johny wy, chorizo spinach a thatws, gyda sudd oren mawr ac wrth gwrs y ‘bottomless cup of coffee’!

 

Ar ein noson olaf fe aethom am bryd yn y Standard Grill yn y Meatpacking district, ble gefais i’r lamb shank mwyaf dwi erioed wedi ei weld a Johny porc chop anferthol. Mawr ond blasus!

Mae’r bwyd stryd yn grêt yn New York hefyd, yn enwedig yn y marchnadoedd Nadolig sydd ymhobman yr adeg yma o’r Nadolig. Mae’n rhaid cael hot dog a pretzel os ydych chi’n ymweld â’r ddinas.

Ac un pryd bach (oes na ffasiwn beth a bach yn America?) yn y maes awyr cyn rolio ymlaen ar yr awyren!

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn