Archif | Chwefror, 2011

Cacennau priodas

27 Chw

Fe gefais fy ysbrydoli i ddechrau’r blog yma ar ôl treulio diwrnod yn edrych ar flogiau eraill am syniadau ar gyfer cacennau priodas. Dwi’n gwneud dwy ar gyfer ffrindiau eleni, felly pam ddim dechrau blog fy hun yn cofnodi be dwi’n ei wneud, yn ogystal â’r holl gacennau eraill dwi’n eu pobi. Dyw’r priodasau ddim tan yn hwyrach yn y flwyddyn felly dwi’m yn cael rhannu unrhyw wybodaeth efo chi eto, ond dros y blynyddoedd dwi wedi gwneud nifer o gacennau priodas eraill.

Anrhegion ar gyfer ffrindiau yw rhain yn bennaf, achos does ‘na ddim cweit gymaint o bwysau a phan di’n cael eich talu i wneud rhywbeth!

Dyma’r gacen gyntaf i fi ei wneud. dwy gacen ffrwythau syml ar ben ei gilydd.

Wedyn fe ddechreuais wneud cup cakes, gan  helpu i wneud y cacennau ar gyfer priodas fy chwaer.

 

Roedd hwn yn LOT o waith caled, 120 o cup cakes os dwi’n cofio, rhai fanila a siocled ac yna cacen lemwn ar y top. (sori am y lluniau gwael mond lluniau oddi ar fy ffon sydd genai.)

 

Glitter neon ddefnyddiais i addurno’r rhain.

 

Fydd rhaid i chi aros tan fis Mehefin i weld y cyntaf o’r cacenni dwi’n eu gwneud eleni.

Byns gwell na fy mrawd?

26 Chw

Does ‘na ddim byd fel ychydig bach o ‘sibling rivalry’ i ysgogi rhywun i wneud rhywbeth. Nawr dwi wedi bod yn bwriadu gwneud rhyw fath o fara melys ers peth amser ond heb ddod rownd iddo fo … Wel dim tan i fi weld ymdrech fy mrawd yn ddiweddar. Nawr yn ein teulu ni fi ydi’r arbenigwr cacennau, ond fo ydi’r arbenigwr bara. Ond ychydig wythnosau yn ôl fe wnaeth Rhodri drydar lluniau o’i cinnamon buns – wedi llosgi! Felly dyma gyfle i fi gael ‘one up’ arno fo! Plentynnaidd dwi’n gwybod!

A hwre roedden nhw’n llwyddiant! Doedden nhw ddim wedi llosgi ac roedden nhw’n flasus dros ben hefyd.

Ydi mae popeth dwi’n berchen yn y gegin yn binc!

Perffaith efo paned. Jyst peidiwch â dweud wrth neb fy mod i wedi bod yn eu bwyta i frecwast bob dydd!

Cynhwysion


500 ml llaeth

150g menyn heb halen

800g blawd plaen cryf (blawd bara)

½ llwy de o halen

7g o furum sych fast action

100g o siwgr caster euraidd

Ar gyfer y menyn  cinnamon

75g menyn

2 llwy fwrdd o cinnamon

75g  o siwgr caster euraidd

Dull

1. Cynheswch y llaeth a’r menyn mewn sosban, nes bod y menyn yn toddi.

2. Hidlwch y blawd mewn i fowlen gymysgu fawr gyda’r halen, burum, a siwgr.

3. Ychwanegwch y llaeth a’r menyn at y blawd a’i gymysgu gyda llwy bren i ddechrau, yna defnyddiwch eich dwylo i orffen cymysgu nes ei fod yn ffurfio pêl.

4. Rhowch ychydig o flawd ar wyneb y bwrdd , yna tylinwch y toes tan am ddeng munud. Fe fydd y gymysgedd yn eithaf stici i ddechrau ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymestyn a thynnu’r toes nes ei fod yn llyfn ac elastig. Mae angen gwneud hyn am ddeng munud cyfan, felly byddwch yn barod i ddefnyddio ychydig bach o fôn braich! Gorchuddiwch gyda cling film a’i roi o’r neilltu am ychydig.

5. Yn y cyfamser mae angen gwneud y menyn i’w roi yn y canol. Felly toddwch 25 g o’r menyn, a’i gymysgu efo’r 50g arall, y siwgr a’r cinnamon.

6. Rhowch ychydig o flawd ar ddarn mawr o bapur greasproof  a roliwch y toes mewn i betryal reit fawr (tua 30cm x 40cm).

7. Taenwch y menyn cinnamon dros y toes i gyd, gan wneud yn siŵr eich bod chi’n mynd reit i’r ochr. Yna codwch y papur ar yr ochr hiraf a dechrau rholio’r toes i fyny fel swiss roll.

8. Unwaith mae gennych chi rôl hir torrwch mewn i gylchoedd o tua 2cm o faint, a’u rhoi mewn muffin tray neu ar baking tray wedi ei iro efo menyn.

9. Brwsiwch y toes efo wy a rhowch ychydig bach o siwgr ychwanegol ar ben bob un. Yna gorchuddiwch gyda cling film gydag ychydig o olew arno a gadewch y toes i brofi mewn rhywle cynnes am 20 munud.

10. Pobwch ar dymheredd o 220°C neu 200°C fan am 8 munud, neu tan fod y bara wedi codi ac yn edrych yn dechrau brownio.


Falla fy mod i wedi gwneud yn well na Rhodri’r tro yma, ond mae o’n dal i fod yn giamstar ar wneud bara. Felly dwi’n gobeithio yn fuan y bydd o’n rhannu ei ddoethineb gyda ni oll ac ysgrifennu post gwadd ar wneud bara.

Rysait Macarons

23 Chw

Reit mae na dipyn ohonoch chi wedi gofyn am y rysait ar gyfer y macarons wnes i ddoe, felly dyma fo:

 

Cynhwysion

110g siwgr eisin
60g ground almonds
2 wyn wy (tua 60g), wedi ei heneiddio am 2 ddiwrnod
40g siwgr caster

 

Dull

1. Cyn dechrau da chi angen heneiddio eich wyau am 24-48 awr. Hynny yw gwahanu’r gwyn wy a’u gadael mewn twb gyda chaead allan o’r oergell.

2. Rhowch wizz i’r siwgr eisin a’r alomnds mewn food prcoessor, er mwyn ei falu yn fwy mân nag ydyw yn barod.

3. Mewn bowlen gymysgu fawr, wisgiwch y gwyn wy gyda wisg electrig, tan mae’n dechrau twchu yna ychwanegwch y siwgr caster bob yn dipyn, gan barhau i wisgio tan mae gennych chi meringue sy’n sefyll mewn pigau eithaf meddal – da chi ddim eisiau fo’n rhy stiff. Ar y pwynt yma ychwanegwch unrhyw flas neu liw da chi eisiau.

4. Hidlwch yr almonds a siwgr eisin ar ben y meringue. Yna gan ddefnyddio spatula silicon plygwch y gymysgedd at ei gilydd. Hynny crafwch y spatula o gwmpas y fowlen wedyn ewch a fo nol a blaen drwy’r gymysgedd ychydig o weithiau. Ailadroddwch tan fod popeth wedi cymysgu a’r meringue yn llifo fel lafa. Ond byddwch yn ofalus i beidio â gor-gymysgu, neu fe fyddwch chi’n colli’r holl aer da chi wedi gweithio mor galed i gael fewn i’r wyau na!

5. Paratowch ddwy baking sheet gyda phapur greasproof (tip bach da ydi rhoi blob o’r gymysgedd ar bob cornel er mwyn sicrhau bod y papur yn sticio i’r baking sheet.)

6. Gan ddefnyddio bag peipio gyda phen crwn eithaf mawr (dwi’n tueddu i ddefnyddio rhai disposable, ddim yn dda i’r amgylchedd ond lot llai o lanast!) peipiwch blobs bach crwn tua maint ceiniog dwy bunt. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gadael digon o le rhwng pob un, achos fe fydden  nhw’n gwasgaru rhywfaint.

7. Nawr mae hyn yn mynd i swnio bach yn frawychus, ond codwch y baking sheet a’i daro yn reit galed yn erbyn y bwrdd. Mae angen gwneud hyn er mwyn cael gwared ag unrhyw swigod mawr – dylai popeth aros yn ei le, yn enwedig os da chi wedi gludo’r papur i’r baking sheet.

8. Mae angen eu gadael nawr am ryw 30 munud i awr fel eu bod nhw’n sychu allan, a dydyn nhw ddim yn teimlo yn stici wrth eu cyffwrdd. Mae hwn yn gam pwysig oherwydd dyna  sy’n sicrhau eu bod nhw’n codi yn iawn.

9. Yn y cyfamser cynheswch y popty i 150C neu 130C os oes gennych chi bopty ffan a choginiwch am 12-18 munud. Mae’n dibynnu ar eu maint, ond roedd rhyw 15 munud yn iawn i fi. Da chi ddim isio eu coginio gormod, ond da chi dal isio nhw i fod yn eithaf gooey yn y canol.

10. Gadewch nhw i oeri yn llwyr cyn ceisio eu tynnu oddi ar y papur. Ond unwaith maen nhw wedi oeri fe ddylen nhw ddod i ffwrdd yn weddol hawdd, mae defnyddio spatula metal oddi tanyn nhw yn helpu. Dwi hefyd wedi gweld pobol yn argymell gwasgaru ychydig o ddŵr berwedig ar y papur fel eu bod nhw’n stemio i ffwrdd ond, doeddwn i’m yn gweld yr angen.

11. Da chi nawr yn barod i’w llenwi efo eisin menyn gydag unrhyw flas da chi eisiau, neu ganache siocled. Fe wnes i bach o gymysgedd o’r ddau, eisin menyn efo siocled gwyn wedi’i doddi ynddo. Sori ond does gennai ddim rysait gan bo fi wedi’i wneud i fyny yn y fan a’r lle.

12. Mae macarons yn tueddu i ddod mewn lliwiau reit llachar felly dwi’n ffeindio mai’r math gorau o liw ydi’r paste, gan eu bod nhw’n rhoi lliw llawer cryfach na’r rhai na da chi’n eu cael yn yr archfarchnad, a gan mai dim ond ychydig bach da chi ei angen dydio ddim yn teneuo eich cymysgedd. Y ffordd oraf o ddefnyddio’r rhain yw ychydig ar ben cocktail stick a’i gymysgu – mae ychydig bach yn mynd yn bell iawn cofiwch!

13. Peipiwch y gymysgedd ar ochr fflat un o’r macarons a’i wasgu gydag un arall. Mae nhw’n cadw mewn tin am ryw wythnos, ond dwi’m yn gallu dychmygu neb yn eu gadael nhw cyn hired â hynny!

Macarons

22 Chw

Roedd rhaid i fi ddechrau’r blog efo cacen reit arbennig, felly heddiw fe wnes i goginio rhywbeth dwi di bod eisiau gwneud ers oes – macarons.

Na nid y macaroons coconut na o’n plentyndod ni, ond y meringues bach lliwgar Ffrengig na, wedi’u llenwi gyda phob math o flasau rhyfeddol.

Mae rhain wedi dod yn reit ffasiynol yn ddiweddar, ond am ryw reswm dydyn nhw dal ddim ar gael ymhobman. Nes i drio nhw i ddechrau yn Selfridges ar ôl clywed cymaint amdanyn nhw mewn cylchgronau. Ges i dri blas gwahanol, salted caramel, pistachio a siocled ac ers hynny dwi di bod yn hooked. Ers hynny dwi di bod yn sleifio i Laudree yn Piccadilly unrhyw bryd dwi’n pasio i brynu un o’r danteithion bach yma. Dydyn nhw ddim yn rhad, ond maen nhw mor flasus a mor gyfoethog mae un bach yn mynd yn bell iawn.

Ond tan rwan doeddwn i’m di meiddio gwneud nhw adref gan bo fi di clywed eu bod nhw’n anodd iawn i’w gwneud (rheswm arall falla pam nad ydyn nhw ar gael ymhobman?) Ond pa esgus gwell na dechrau blog newydd i fentro?

Felly dyma nhw cyn eu coginio

A dyma nhw fy macarons cyntaf, efo eisin siocled gwyn yn y canol.

Dwi’n hynod hapus efo sut y gwnaethon nhw droi allan. Dydyn nhw ddim yn edrych fel rhai Laudree neu Pierre Herme, doedd dim disgwyl iddyn nhw, ond mae nhw’n hynod flasus!