Mae diwrnod y gyllideb yn un prysur iawn yn y gwaith, felly nos Fawrth fe benderfynais i goginio rhywbeth fyddai’n cadw ni gyd i fynd drwy’r diwrnod hir. A be well na chocolate brownies i roi sugar hit i bawb. Ond gan fod y cariad yn mynnu fy mod i’n gwneud rhai iddo fo hefyd doedd un batch ddim yn mynd i fod yn ddigon. Ond pam gwneud dau o’r un peth pan allwch chi wneud dwy gacen wahanol. Felly fe wnes i Brownies a Blondies – sef brownies efo siocled gwyn! Yn bersonol y rhai siocled gwyn ydi fy hoff rai i, ond maen nhw’n beryg, dwi’n gallu bwyta llawer gormod ar unwaith! Mae’r rhai siocled tywyll yn gyfoethog iawn ac yn reit drwm a gooey, felly mae’n anodd iawn bwyta cymaint, ond maen nhw’n dal yn hynod flasus!
O lyfr yr hummingbird bakery daw rysáit y blondies a dyma fo:
Cynhwysion
150g siocled gwyn
125g menyn heb halen
150g siwgr caster
2 wy
1½ llwy de o vanilla extract
200g blawd plaen
pinsied o halen
80g cnau pecan weid’u torri yn ddarnau
Dull
1. Cynheswch y popty 170°C neu 150°C ffan.
2. Toddwch y siocled a’r menyn mewn bowlen dros sosban o ddŵr berwedig. Peidiwch â defnyddio bowlen blastig fel y gwnaeth ffrind i mi unwaith a gwnewch yn siŵr nad ydw gwaelod y fowlen yn cyfwrdd a’r dŵr.
3. Unwaith mae’r siocled wedi toddi, tynnwch i ffwrdd o’r gwres ac ychwanegwch y siwgr a’i gymysgu yn dda.
4. Ychwanegwch yr wyau a’r vanilla a chymysgwch yn reit sydyn rhag i’r wyau ddechrau sgramblo!
5. Hidlwch y blawd a’r halen a phlygwch i mewn i’r gymysgedd. Yna ychwanegwch y cnau.
6. Rhowch bapur greasproof ar waelod tun tua 23 x 23 x 5cm a thywalltwch y gymysgedd fewn i’r tun a’i bobi am 35-40 munud.
7. Gadewch i oeri yn y tun, cyn ceisio eu torri.
Nawr am y brownies. Dwi’m yn siŵr o ble ddaeth y rysáit yma, rhywbeth dwi wedi’i weld ar we rhywben siŵr o fod. Ond fel y dywedais i mae’n gwneud brownies gooey iawn a hynod gyfoethog, perffaith fel pwdin efo hufen ia a dweud y gwir. Gan mai’r siocled yw seren y sioe fan hyn, plîs peidiwch â defnyddio rhyw siocled rhad, a pheidiwch byth a defnyddio’r stwff yna maen nhw’n ei alw yn siocled coginio (wir be ydio?). Mae angen i’r siocled fod yn 70% cocoa solids a dwi’n tueddu i ddefnyddio green and blacks, a lwcus i fi roedden nhw ar 3 for 2 yn Sainsburys wythnos diwethaf!
Cynhwysion
300g siwgr caster euraidd
250g menyn
250g siocled (70% cocoa solids)
3 wy mawr ac 1 melynwy ychwanegol
60g blawd plaen
60g powdwr cocoa, eto, y gorau gallwch chi ei ffeindio.
½ llwy de o bowdwr codiDull
1. Cynheswch y popty i 180°C neu 160°C ffan.
2. Rhowch y siwgr a’r menyn mewn bowlen a’i gymysgu gyda chwisg electrig tan ei fod yn ysgafn ac yn feddal.
3. Torrwch 200g o’r siocled mewn i ddarnau a’u gosod mewn bowlen dros sosban o ddŵr berwedig a’i doddi. tynnwch oddi ar y gwres unwaith y mae wedi toddi.
4. Torrwch y wyau mewn i fowlen a’u cymysgu gyda fforc, yna ychwanegwch bob yn dipyn at y siwgr a’r menyn, gan sicrhau eich bod chi’n ei gymysgu yn llwyr bob tro.
5. Yna ychwanegwch y siocled wedi toddi a’i blygu yn ofalus gyda llwy fetel neu spatula.
6. Hidlwch y blawd a’r powdwr cocoa a’i blygu i mewn i’r gymysgedd, cyn ychwanegu gweddill y siocled sydd edi cael ei dorri yn ddarnau man.
7. Tywalltwch y gymysgedd i mewn i’r tun – defnyddiwch yr un tun a’r blondies gan gofio rhoi darn o bapur greasproof ar y gwaelod.
8. Coginiwch am 30 munud, ond cadwch olwg arno ar ddiwedd yr amser coginio, oherwydd mae’n bosib y bydd angen ychydig bach mwy. Bydd y brownies wedi codi rhywfaint ond fe ddylai’r canol edrych ychydig yn fwy meddal na’r ochrau. Byddwch yn ofalus i beidio â’u coginio gormod, yn wahanol i gacennau era
ill os rhowch chi skewer yn y canol da chi dal eisiau gweld rhywfaint o’r gymysgedd yn glynnu iddo.
9. Eto efo rhain mae’n rhaid eu gadael i oeri yn y tun, ond byddwch yn ofalus wrth eu torri, mae rhain yn tueddu i fod yn squidgy a crumbly! (be uffar di’r gair Cymraeg am squidgy a crumbly?)