… Cei, ond dim ond os wyt ti’n bwyta cymaint nes dy fod ti’n teimlo’n sâl!
Dwi’m yn un o’r bobl ma sydd mond yn bwyta crempog ar ddydd Mawrth Ynyd, ond mae o’n rhoi esgus i rywun fwyta llond plât fel swper, fel gwnes i heno!
Dwi’n ffan mawr o grempogau Americanaidd i frecwast ar benwythnos, fel arfer efo ffrwythau a maple syrup. Ond ar ddiwrnod crempog mae’n rhaid sticio efo’r clasur – crempogau mawr tenau efo dim byd mwy ffansi na menyn, siwgr a lemwn. Dwi’m hyd yn oed yn poeni os yw’r lemwn yn un go iawn neu beidio, gwneith lemwn o botel y tro!
Gadael Ymateb