Dwi di bod am ddau ‘afternoon tea’ yn ddiweddar, roedd un yn ofnadwy ac un yn anhygoel – dwi bron a dweud y gorau dwi wedi’i gael hyd yn hyn.
Afternoon tea ydi fy hoff bryd i, hynny yw os ydio’n cyfri fel pryd. Fe fuasai’n well gennai fynd allan am de a chacen a brechdanau bach nag am swper neu ginio crand.
Hyd yn hyn y te gorau i fi gael, o bell ffordd, oedd yn y Lanesborough – dewis anhygoel o de oedd yn cael ei weini mewn tebot arian go iawn gan sommelier te, brechdanau a chacennau hyfryd a gwasanaeth penigamp. Ac mae’r gwesty ei hun yn hyfryd hefyd, felly tan rŵan doeddwn i ddim wedi canfod afternoon tea arall oedd yn gallu ei guro.
Ond wedyn fe ddois i ar draws adolygiad o’r Hendricks High Tea yn Hush. Bwyty a bar cocktail oddi ar New Bond Street ydi Hush felly roedd y profiad ychydig yn wahanol i fynd am de mewn gwesty mawr crand, ond fe gefais fy siomi ar yr ochr orau.
Yn lle gweini champagne efo’r te mae Hush yn gweini cocktails gin Hendricks. Nawr os nag ydych chi wedi trio gin Hendricks, ble da chi di bod, mae o’n hyfryd, gin efo hint o giwcymbr, be well!
Roeddem ni’n eistedd mewn stafell fwyta fach, reit breifat, ar y llawr cyntaf ac roedd y te yn cael ei weini mewn llestri Hendricks arbennig. Dwi wrth fy modd efo nhw, a fyswn i’n caru cael set fy hun adref.
Roedd y bwyd yn hyfryd, roedd yna nifer o frechdanau (salmon, wy, ciwcymbr a chyw iâr ac afocado ar fara poilâne) a sgons cynnes efo jam mefus, rhosyn a gwsberis a blodau ysgaw. A’r ‘piece de resistance’ oedd y detholiad o macarons – 6 blas gwahanol o salted caramel i pistachio – llawer gwell na’r cacennau bach da chi fel arfer yn ei gael a’r maint perffaith ar ol yr holl fwyd arall.
Ond y peth gorau am y te oedd y cocktails. Roedd yna ddewis hir a gwahanol iawn, ac yn y diwedd fe es i am y Royal Lady a fy nghariad johny am y Hush Wolfsberry. Ges i’r cocktail anghywir i ddechrau, ac er nad oeddwn i wedi sylwi ond fe ddaeth y gweinydd a’r un cywir draw yn fuan iawn, felly ges i ddau gocktail am bris un!
Roedd y Royal Lady wedi ei wneud efo Hendricks, Grand Marnier, ciwcymbr wedi ei garameleiddio a cinnamon ‘caviar’. Roedd y cocktail yn hynod gryf ond lyfli ac roedd y cinnamon caviar yn ddiddorol, ond do’n i’m yn rhy siŵr o’r texture – fatha bwyta penbyliaid!
Roedd yr Hush Woolfsberry yr un mor potent ac wedi ei wneud efo Hendricks, petalau rhosod, mwyar Goji a liqueur Goji.
Ar ôl cael dau cocktail roeddwn i’n reit hapus yn gadael, ond fyddai’n sicr yn ôl yn fuan, ac am £24.75 yr un am y te a’r cocktails, mae’n fargen i gymharu â rhai o westai Llundain – fyddai’n talu £50 am de yn Claridges fis Mehefin!
A ble oedd y te ofnadwy? … Gwesty St Brides. Gwasanaeth ofnadwy, brechdanau sych, te o fagiau te a chacennau di-ddim. Hynod siomedig ac am bris tebyg i’r te yn Hush. Dwi’n gwybod ble fydd yn cael fy arian i eto!