Da chi byth rhy hen i ddysgu felly gyda phriodas arall ar y gorwel, fe benderfynais ei bod hi’n hen bryd i mi fynd ar ryw fath o gwrs addurno cacennau, yn hytrach na dim ond wingio hi fel dwi wedi’i wneud hyd yn hyn.
Nawr dwi’n lwcus iawn i gael lle anhygoel o’r enw The Make Lounge nid nepell i ffwrdd o ble dwi’n byw, yn Islington. Ar ôl canfod y lle, roedd hi bron yn amhosib penderfynu pa gwrs i’w wneud gyntaf, gan eu bod nhw’n gwneud popeth o addurno cacennau i wnïo clustogau. Wel bron yn amhosib, yn amlwg roedd rhaid fi ddechrau efo’r cwrs addurno cupcakes. Mae addurn da yn gallu newid cupcake o rywbeth neis fysa unrhyw un yn gallu ei wneud, i rywbeth proffesiynol iawn. A dwi wedi dysgu heddiw nad ydi’r cam yna yn un anodd o gwbl, da chi jysd angen bach o ymarfer a’r teclynnau iawn.
Dynes o’r enw Louise Hill oedd yn rhedeg y cwrs, ac roeddwn i’n ymwybodol o’i gwaith hi cyn heddiw, felly roedd gen i ddisgwyliadau uchel am y cwrs. Mae gan Louise gwmni cacennau ei hun Love to Cake, ac mae hi’n gwneud cacennau anhygoel sy’n edrych fel cerfluniau (dwisio yr un Louboutin!) Ac fel nes i ddysgu heddiw, gweithio o’i chegin adref mae hi, a does ganddi ddim cefndir coginio o gwbl, special effects ar gyfer rhaglenni fel Casualty yr oedd hi’n arfer ei wneud.
Roedd yna 10 ohonom yn y dosbarth ac ar ein bwrdd roedd ‘na dwr o gacennau fanila a siocled a digon o liwiau a glitters i gadw pawb yn hapus am y ddwy awr a hanner nesaf.
Felly i ddechrau fe ddysgom ni sut i eisio cacen heb fag peipio, felly steil mwy llawrydd fel da chi’n ei weld ar gacennau’r hummingbird bakery. Mae’n anodd disgrifio sut i wneud hyn oll, heb ddangos, ond y tric ydi i roi lot mwy o eising na fysech chi’n ei ddisgwyl ar y gacen!
Wedyn fe ddysgom ni sut i wneud rhosyn marsipan. Dwi wastad wedi bod eisiau dysgu sut i wneud blodau fel hyn, dwi wedi darllen cymaint eu bod nhw’n ddigon hawdd, ond heb rywun i ddangos i fi, doedd genai ddim yr hyder i drio. Wel maen nhw’n hawdd, unwaith da chi’n gwybod beth i’w wneud! Yn syml, lapio lot o betalau (sef darnau o marsipan wedi sgwashio yn fflat) o gwmpas cone o marsipan da chi, ac mae’n anhygoel sut mae o’n ffurfio rhosyn perffaith.
Yna fe gawsom wers ar sut i beipio yn broffesiynol. Dwi wedi bod yn peipio’r eisin ar fy cupcakes ers peth amser ond dim ond dysgu fy hun wnes i. Yr hyn ddysgais i heddiw oedd sut i wneud eisin fel ei fod yn edrych fel rhosyn. Felly be da chi angen ydi nozzle fel yr un isod a dechrau peipio o’r canol yn hytrach nag o’r tu allan fel dwi wastad wedi tueddu ei wneud. Hefyd peidiwch â pheipio yn rhy agos at y gacen achos wedyn fe fyddwch chi’n gwasgu’r eisin.
Ar ôl eisio ein cacennau fe ddefnyddiom ni cutters gwahanol i greu siapiau marsipan, er mwyn addurno’r cacennau. Yn amlwg roedd rhaid rhoi glitter ar bopeth hefyd!
Fe gawsom ni addurno 7 cacen i gyd, ond yn anffodus dim ond lle i 6 oedd yn y bocs gawsom ni felly roedd rhaid bwyta un cyn mynd adref! A wow roedd o’n lyfli, er fy mod i’n teimlo bach yn sâl yn barod ar ôl bwyta cymaint o buttercream! Fe gawsom ni gyd gopi o’r rysáit mae Louise yn ei ddefnyddio ar gyfer ei chacennau, felly dwi methu aros i drio fo fy hun adref, ac wrth gwrs ei rannu efo chi.
Mae gan y make lounge siop ar yr un stryd a’r gweithdai, felly roedd y temtasiwn yn ormod ar ôl cael fy ysbrydoli cymaint. Y broblem yw, fy mod i eisoes wedi prynu llond bocs o geriach addurno o’r we yn gynharach yn yr wythnos!! Ond roedd o’n brofiad gwych ac yn lot fawr o hwyl, dwi methu aros i fynd nol i wneud cwrs arall rŵan.
Ddim yn siwr or lliwiau ond fel arall..fab..gai ddod tro nesaf?x
Be sy’n bod efo’r lliwiau?! Wrth gwrs gei di ddod efo fi, cer ar y wefan mae na gyrsiau ffab yna!
Mae’n edrych i fod yn gwrs llawn hwyl super hynny. Efallai y byddwch yn dysgu ar ryw adeg.
Well done Pia!