Cacen briodas: Cam 1

16 Ebr

I ddechrau, ymddiheuriadau am beidio â blogio ers oes, dwi’n gweithio yng Nghaerdydd dros gyfnod yr etholiad ac felly ddim yn cael cyfle i goginio. Ond dwi nôl yn Llundain am y penwythnos ac yn bwriadu gwneud lot o goginio heddiw, yn bennaf achos bod pawb yn y gwaith yng Nghaerdydd yn cwyno nad ydwyf wedi dod a chacen fewn i’r gwaith eto!

Ond cyn hynny dyma flog bach sydyn am y gacen briodas nes i ddechrau  ryw bythefnos yn ôl.

Fel dwi wedi sôn lawer gwaith dwi’n gwneud cacennau ar gyfer dwy briodas eleni, gyda’r cyntaf ym mis Mehefin. Felly gyda dim ond dau fis i fynd, mae hi’n amser gwneud y cacennau ffrwythau.

Rysáit Delia dwi’n ei ddefnyddio o’r llyfr Delia Smith’s Complete Cookery Collection. Hen lyfr Nain ydi hon, a dyma’r rysáit y gwnaeth hi ei ddefnyddio ar gyfer cacen briodas fy mam a fy modryb, yn ogystal â chacennau Nadolig. Ychydig flynyddoedd yn ôl fe roddodd Nain y llyfr yma i mi, yn ogystal â llond bag o duniau sgwâr a crwn o bob maint, er mwyn i fi gael gwneud cacennau Nadolig i’r teulu.

Mae’r rysáit yn reit hir felly ymddiheuriadau am beidio ei bostio fan hyn, ond mae’n rhaid bod y rysáit yma mewn un o lyfrau mwy diweddar Delia, ond cerwch i gegin eich mam neu’ch nain a da chi’n siŵr o ffeindio copi o’r llyfr gwreiddiol.

Un rhybudd os ydych chi’n mynd i wneud cacen fel hon, mae angen diwrnod cyfan i’w gwneud. Mae’r broses yn reit syml, ond mae o’n cymryd lot o amser i baratoi ac wedyn mae angen tua 4-5 awr i’w goginio!

Nawr bod y rhain wedi’i coginio, fe fydd angen eu bwydo efo brandi am y ddau fis nesaf, ac fe fyddai’n eu haddurno, ryw wythnos cyn y briodas mae’n siŵr.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: