
Ymddiheuriadau i ddechrau am beidio a blogio ers spel, mae gwaith wedi bod yn anhygoel o brysur a prin dwi wedi bod adref. Felly dwi heb gael llawer o gyfle i goginio a phobi yn ddiweddar chwaith.
Ond y penwythnos diwethaf fe wnaeth fy nghariad a finnau ddianc i’r wlad am y penwythnos. Fe wnes i fwcio’r gwesty trwy wefan Mr & Mrs Smith pan oedden nhw’n cynnig dwy noson am bris un. Roedd y lluniau a’r adolygiadau o Eckington Manor yn edrych yn addawol iawn, a ges i ddim fy siomi ar ôl cyrraedd.
Roedd y gwesty ei hun yn hyfryd – tŷ fferm hanesyddol wedi’i ei adnewyddu yn chwaethus iawn, gyda chymysgedd eclectig iawn o gelfi hen a newydd, a’r chandelier gorau dwi rioed wedi’i weld!


Ond y peth gorau am y lle oedd bod yna ysgol goginio reit ar draws y buarth. Nawr roedd y wefan yn dweud bod y cwrs coginio Eidalaidd yn llawn pan nes i fwcio. Ond ar ôl cyrraedd fe ofynais eto, ac yn lwcus i fi roedden nhw’n fodlon gwasgu un arall ar y cwrs.
Cwrs hanner diwrnod oedd hwn rhwng 10 o’r gloch a 2, oedd yn berffaith mewn gwirionedd gan mai holl fwriad y penwythnos oedd treulio bach o amser gyda fy nghariad!
Dyma’r cwrs coginio cyntaf i fi ei wneud, ond mae’n rhaid dweud bod y cyfleusterau yn Eckington Manor o’r safon uchaf. Mae ganddyn nhw gogydd sy’n gweithio llawn amser yn yr ysgol ond roedd y cwrs yma cael ei ddysgu gan Felice Tocchini chef Eidalaidd lleol.

Maen nhw’n newid y fwydlen ar gyfer y gwersi yn ddibynnol ar beth sy’n dymhorol ar y pryd. Felly fe reoddem ni’n ddysgu sut i wneud foccacia, risotto asparagus, rhyw fath o gaserol cyw iâr Eidalaidd a panacotta.
Roedd Felice yn dda iawn ar esbonio beth oedd angen ei wneud ac yn rhoi digon o tips a chefnogaeth pan oedd hi’n amser i ni goginio ein hunain. Doedd yna ddim byd hynod o anodd yn yr hyn yr oeddem ni’n ei wneud, ond roedd o’n lot o hwyl a nes i bigo fyny lot o tips ar y ffordd e.e rhoi melynwy a sudd lemon yn saws y caserol ar y diwedd, er mwyn ei wneud yn fwy cyfoethog – iym!

Ac yn ogystal â dysgu sut i goginio’r prydau, fe gafom ni gyd wersi ar sut i ddefnyddio cyllyll yn iawn a thorri llysiau yn fân. A gan fod pawb wedi gofyn yn glên fe gawsom wers ychwanegol ar sut i wneud pasta, er nad oedd hynny i fod yn rhan o’r cwrs.

Ar ôl yr holl waith caled, roedd hi’n bryd eistedd lawr gyda glasied o win i flasu ein campweithiau. A hyd yn oed os ydw i’n dweud fy hun, roedd y bwyd yn hyfryd! Dwi’n edrych mlaen rwan i drio’r ryseitiau adref fy hun, felly os da chi’n dod am swper yn fy nhŷ i rwan, da chi’n gwybod be fyddwch chi’n ei gael!


Fe wnes i fwynhau’r profiad yn fawr iawn, ac fe fuaswn i’n argymell Eckington manor i unrhyw un, hyd yn oed os nag ydych chi’n mynd i’r ysgol goginio. Y broblem nawr yw fy mod i eisiau gwneud mwy o gyrsiau. Dwi wrth fy modd yn dysgu pethau newydd a dwi eisoes wedi cytuno i fynd ar gwrs pobi bara 3 diwrnod gyda fy mrawd yn hwyrach yn y flwyddyn!
Tagiau: eidalaidd, foccacia, panaccotta, pasta, risotto