Custard Creams Cartref

9 Gor

Gymaint a dwi’n mwynhau bisgedi crand fel rhyw viennese whirl neu triple chocolate cookie, weithiau does ‘na ddim byd gwell na phaced o fisgedi rhad efo paned. Bourbons, garibaldi, fig rolls neu custard creams dwi’n licio nhw’i gyd (wel heblaw am y pink wafers afiach yna!).

Mae’n siwr mae’r rheswm dwi’n eu licio nhw cymaint yw eu bod nhw’n fy atgoffa i o fy mhlentyndod.  Dyma yr oeddem ni’n eu cael yn nhŷ Nain ar ôl ysgol bob dydd a dwi’n cofio cwffio am y bisgedi gorau yn y bocsys mawr yna o fisgedi yr oeddem ni’n eu cael bob Nadolig.

Dwi’n nabod lot o bobl sydd ddim yn licio fig roll, neu’n casau garibaldi ond mae pawb yn licio custard creams (croeso i chi gywiro fi ar hyn!). felly pan weles i rysait ar gyfer gwneud custard creams adref ar flog Ed Kimber (y boi nath ennill the Great British Bake Off) odd rhaid i fi drio gwneud nhw fy hun.

Doedden nhw byth yn mynd i edrych yn union fel custard creams o’r siop, na blasu yn union yr un peth (duw a ŵyr beth sy’n mynd fewn i fisgedi siop), ond doedden nhw ddim yn rhy annhebyg. A beth yw’r ots pan maen nhw’n blasu mor hyfryd.

Felly dyma i chi’r rysait.

Cynhwysion

Bisged

225g blawd plaen

50g powdr cwstard

30g siwgr eisin

175g menyn heb halen, oer.

½ tsp o vanilla extract

Llenwad 

50g menyn heb halen

200g siwgr eisin

2 tbsp powdr cwstard

Dull

1. Rhwbiwch y menyn i mewn i’r blawd, siwgr eisin, powdr cwstard a vanilla extract. (neu rhowch bopeth mewn food processor a’i gymysgu nes ei fod yn ffurfio pêl).

2. Gwasgwch bopeth at ei gilydd a’i lapio mewn cling film a rhowch o yn yr oergell am o leiaf 30 munud.

3. Ar ôl 30 munud, roliwch y toes allan i tua 3-4mm, gan sicrhau bod gennych ddigon o flawd ar eich bwrdd. (Roeddwn i’n ffeindio bod o’n sticio ychydig felly byddwch yn ofalus.)

4. Torrwch gylchoedd bach allan a’u pricio nhw gyda fforc. Yna gosodwch nhw ar baking sheet wedi’i leinio gyda phapur greasproof a’u gadael i oeri am tua 15 munud.

5. Tra eu bod nhw’n oeri cynheswch y popty i  180C/160C Fan.

6. Pobwch y bisgedi am 10 munud, neu nes eu bod nhw’n dechrau cael rhywfaint o liw o gwmpas yr ochrau. Gadewch nhw  i oeri ar rack.

7. Ar gyfer y llenwad curwch y menyn gyda chwisg electrig am ryw 5 munud, gan ychwanegu’r powdr cwstard ar siwgr eisin yn raddol (mae’r powdr yn mynd i bob man fel arall!).

8. Rhowch yr eisin mewn bag peipio a gwasgu cylch bach ar hanner y bisgedi, cyn rhoi un arall ar eu pen.

About these ads

2 Ymateb i “Custard Creams Cartref”

  1. Llanast 10/07/2011 at 21:22 #

    Di trio gneud rhain heddiw, melys braidd ond yn ddigon blasus. Mi oedd y bisged yn rili ‘crymbli’ oedd un chdi?

    • Paned a Chacen 10/07/2011 at 21:47 #

      Odd fy misgedi i yn eitha crumbly, mwy fel shortbread na biaged custard creams arferol. Ddim un ffeindio nhw rhy felys chwaith, ond falla bod hynny yn dweud mwy am fy nant melys nag unrhywbeth arall!

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn

%d bloggers like this: