Dwi wedi bod yn cael diwrnod o ddiogi heddiw ar ôl gwneud y gacen briodas yna ddoe, a doeddwn i ddim yn bwriadu gwneud unrhyw bobi. Ond pan ofynodd y cariad os oedd yna unrhyw fisgedi i gael gyda’i baned (wrth gwrs doedd yna ddim) fe benderfynais y buasai’n haws, ac yn neisiach, gwneud rhywbeth yn hytrach na mynd i’r siop.
Roedd genai fenyn, blawd, siwgwr a wyau yn y tŷ, ond dim llawer arall. Roedd yr hogyn isio rhywbeth yn reit handi hefyd, felly ar ol pori trwy lyfrau coginio fe benderfynais y buasai shortbread yn berffaith.
Felly fe wnes i rwbio 100g o fenyn meddal gyda 150g o flawd a 50g o siwgr caster a’i wasgu at ei gilydd mewn i does. Rhoi’r toes mewn tun a’i bricio gyda fforc. Yna ei bobi am 35 munud ar 150C / 130C ffan.
Bisgedi munud olaf perffaith
Llun da. Edrych yn lush. Di gneud ffyn bara twisty efo filling pesto / mojo rojo noson o’r blaen. Hit yn y bbq!