Archif | Medi, 2011

Meistrioli macarons efo Edd Kimber

29 Medi

Yr wythnos dwiwethaf fe gefais i’r pleser o fynychu dosbarth macarons gyda Edd Kimber, ennillydd y Great British Bake Off y llynedd. Fel mae drallenwyr selog y blog yma yn ei wybod, dwi wedi ceisio gwneud macarons unwaith o’r blaen a doedden nhw ddim yn rhy ddrwg (hyd yn oed os ydwi’n dweud fy hun!) Ond am ryw reswm doeddwn i ddim wedi eu gwneud nhw eto. Prinder amser oedd y rheswm pennaf, ond dwi’n credu yng nghefn fy meddwl roedd genai dal bryderon am eu gwneud nhw eto, gan feddw efallai mai ffliwc oedd y tro cyntaf yna.

Felly pan weles i bod Edd Kimber yn cynnal dosbarthiadau nos yn Llundain, fe neidiais ar y cyfle i gael tips gan rywun sydd yn gallu gwneud canoedd ohonyn nhw, a chael pob un i edrych yn berffaith (welsoch chi y twr o macarons wnaeth o ar y rhaglen y llynedd?).

Wel ar ol y cwrs yma does genai ddim pryderon o gwbwl, fydd na ddim stopio fi rwan, fyddai’n pobi macarons drwy’r amser.

Y dull Ffrengig o goginio macarons yr oeddwn i wedi’i ddilyn o’r blaen, ond fe ddangosodd Edd y dull Eidalaidd i ni. Mae’r dull yma yn golygu ychydig bach mwy o waith, gan bod angen berwi siwgr a dwr at dymheredd penodol iawn (dwi di bod yn John Lewis yn barod yn prynnu thermometr siwgr!) Ond does dim rhaid i chi fod cweit mor ofalus wrth gymysgu’r meringue. Er syndod i mi roedd o’n ein hannog ni i guro’r gymysgedd yn galed! Rhywbeth oedd yn mynd yn erbyn pob gyngor arall yr oeddwn i wedi’i ddarllen.

Roedd o’n werthfawr gweld rhywun yn eu gwneud nhw’n iawn yn hytrach na dilyn cyfarwyddiadau mewn llyfr. Pan da chi’n gwneud macarons mae yna bwynt penodol iawn pan mae’r gymysgedd yn barod – gormod o gymysgu a fydd eich macarons chi ddim yn codi, dim digon ac fe fydden nhw’n rhy galed. Rhywbeth sy’n anodd ei ddisgrifio ar bapur.

A dyma sut ddylai’r gymysgedd edrych

Un peth arall ddysgais i oedd bod lleithder yn gallu effeithio ar lwyddiant eich macarons. Os yw hi’n ddiwrnod poeth a chlos, fe fydd hi’n cymryd llawer hirach i’ch macarons sychu, rhywbeth mae’n rhaid ei wneud cyn y gallwch eu coginio. Felly yn ôl Edd yr amser gorau i wneud macarons yw ben bore ac yn y gaeaf. Roeddem ni’n lwcus i fod mewn stafell gyda system cyflyru aer, felly roedd ein macarons ni’n barod i’w coginio o fewn 15 munud, oes yw hi’n llaith, fe allai gymryd hyd at ddwy awr – felly mynadd piau hi!

Wrth aros i’r macarons goginio, fe gawsom ni glased o bubbly a nibbles, a chyfle i holi Edd am ei brofiadau. Roedd o’n hynod o gyfeillgar, ac yn ogystal â rhannu tips coginio, fe rannodd lot o straeon am ei amser yn cystadlu ar y Great British Bake Off.

Pan ddaeth hi’n amser tynnu’r macarons allan o’r popty, roeddwn i ychydig bach yn bryderus na fyddai fy rhai i cystal a gweddill y dosbarth, ond doedd dim rhaid i mi boeni roedd macarons pawb yn edrych yn berffaith.

Ar ôl eu pobi, roedd hi’n amser eu llenwi, ac roedd gennym ni ddewis o siocled, jam mefus a lemon curd. Mae’n bosib eu llenwi efo unrhyw beth da chi eisiau, mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd. Er pan fyddai’n pobi rhain adref, dwi’n meddwl mai rhyw fath o garamel hallt fydd ar frig y rhestr.

Mae pawb sydd wedi trio’r macarons wedi dweud eu bod nhw wrth eu bodd gyda nhw, ac roeddwn i’n bles iawn efo sut yr oedden nhw’n blasu a sut yr oedden nhw’n edrych. A dweud y gwir fe ddywedodd fy nghariad nad oedd o’n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng fy rhai i a’r rhai yr oedd Edd wedi ei roi i ni fel anrheg. Canmoliaeth mawr yn wir! Fy un i sydd ar y chwith ac un Edd sydd ar y dde yn y llun isod.

Anrheg bach gan Ed

Fe brynais lyfr Edd Kimber, The Boy Who Bakes, cyn mynychu’r cwrs, ac os ydych chi’n hoffi pobi dwi’n argymell eich bod chi’n ei brynu hefyd. Mae yna gymaint o ryseitiau gwahanol a newydd yna, dwi methu aros i’w profi nhw. Ac os ydych chi awydd mynd ar y cwrs eich hunain, mae’n nhw’n cael eu cynnal yn fisol yng Nghanol Llundain – ac fe wnaeth Edd son y bydd yna gyrsiau gwahanol yn agosach at y nadolig – cadwch lygad ar ei wefan os oes gennych chi ddiddordeb!

Blog Gwadd: Pwdin Llenwi Eirin Duon (Clafoutis)

22 Medi

Mae fy mrawd Rhodri yn dipyn o gogydd ei hun, ac yn wahanol i fi mae o’n gallu gwneud bara gwych. Mae o wedi addo ysgrifennu blog gwadd ers peth amser, ond er syndod i fi nid blog ar fara ges i, ond blog ar clafoutis. Dwi erioed wedi gwneud na bwyta clafoutis, felly dwi’n edrych ymlaen at drio hwn fy hun, mae n edrych yn hyfryd!

Da di’r adeg yma o’r flwyddyn; ffrwythau a llysiau yn cael eu cynhaeafu ym mhob man a bob math o lysiau a ffrwythau ffresh. Ma ‘leni di bod yn flwyddyn lewyrchus iawn ar gyfer coed ffrwythau ac mae’r cnwd falau a gellyg yn yr ardd wedi bod yn anhygoel o feddwl cyn dloted oedden nhw llynedd.

Ond un broblem gyda chynhaeafu ydi bod na ormodedd, neu glut, o gynnyrch. Ma gwynebu trin 10 kilo o ffa dringo ar gyfer rhewi yn ddigon i wneud i rywun estyn am y botal jin. Tri opsiwn sydd na: cymryd gwyliau ac ista lawr i fyta’r lot cyn bod nhw’n troi; gneud jam neu jytnis nes bod eich cegin, dillad a gwallt yn un llanast sdici melys; neu rannu bwyd gyda phobol eraill.

Chwarae teg i Hywel sydd hefyd wedi bod yn garddio, am gynnig eirin duon, neu damsons, i ni leni yn ogystal â’r tatws. Gesh i un set fis yn ôl a gwneud jam efo nhw, ond roedd yr ail set yn edrych yn llawer tywyllach a mwy parod. Gan bod y cwpwrdd yn barod yn llawn jam, penderfynais i drio addasiad o rysait oedd wedi codi chwant arna i yn y llyfr coginio New Bistro gan Fran Warde. Ma’r llyfr yn un difyr gyda llawer o glasuron Ffrengig ynddo, gydag arddull goginio syml sydd yn canobwyntio ar gynnyrch da. Mae’r holl ryseitiau wedi eu dewis gan fistros gwahanol ar draws Ffrainc gan roi hanes y bistro gyda’r ryseitiau sydd yn aml yn arbenigeddau lleol.

Clafoutis ffrwythau mirabelle yw’r rysait, ond dyw mirabelles, sef eirin bach melyn gyda blas mwyn ysgafn, ddim ar gael ym Mhrydain yn hawdd. Felly driais i roi tro arni gyda eirin duon. Gyda llaw, mae ‘clafoutis’ yn air Ocsitaneg, o ardal Limousin, sy’n golygu “i lenwi”.

Llenwi bol amdani felly! Neu “sdaco bola’n dynn” fel ma ffrind yn hoffi dweud.

Dyma’r rysait…

Cynhwysion

800g eirin duon (neu unrhyw ffrwyth meddal tebyg: ceirios, eirin, greengage ayyb)

50g blawd plaen(2 owns)

85g Siwgr (3owns) – ond faswn i’n rhoi mwy ar gyfer eirin duon tro nesa am fod y blas braidd yn rhy tart i fi – ond esgus i’w fyta efo llwyth o hufen ia fanila!)

Pinsiad o halen

650ml llaeth gafr (ond nes i ddefnyddio llaeth arferol)

4 wy

2 felynwy

menyn i iro

Dull

Ma hwn mor hawdd ei fod bron yn wirion.

  1. Cneswch y popty i 190C.
  2. Ffeindiwch ddysgl fydd yn ffitio’r eirin nes eu bod nhw’n gorwedd yn drwch o tua un neu ddau mewn dyfnder a’i iro gyda chydig fenyn (neu anghofiwch yn llwyr am hyn fel nesh i…).
  3. Rhowch y blawd, halen a siwgr mewn powlen, ei gymysgu a gwneud pant bach yn y canol ar gyfer cymysgu’r cytew.
  4. Curwch yr wyau mewn jwg ar wahan, a churo’r llaeth ato fesul tipyn.
  5. Curwch y gymysgedd yma’n araf mewn i’r blawd a siwgr, nes ei fod yn gytew llyfn. Mi fydd yn llawer gwlypach na chytew crempog.
  6. Golchwch yr eirin gan dynnu unrhyw goesynnau neu frychau oddi arnyn nhw. Gallwch dynnu’r cerrig os gallwch chi fod yn arsed, ond yn ysbryd hawdd y pwdin dwi di’i gadal nhw mewn, a ma’r rysait gan y bistro Ffrengig yn deud bod y cerrig yn ychwanegu at y blas. A phwy dwi i ddadla fo hynny!
  7. Sdiciwch nhw yn y ddysgl, a tholltwch y cytew drostyn nhw. Roedd gen i ormod o gytew, ond dolltish i o nes bod pennau bach piws rhai o’r eirin yn dangos drwyddo.
  8. Mewn i’r popty â fo am 30 munud.
  9. Trowch y popty lawr i 150C a pharhau i goginio am 20 munud.
  10. Dylai fod y top yn euraid gyda’r sudd yn ffrwtian yn hapus drwy’r tyllau. Rhowch gyllell mewn yn y canol i weld os yw’r cytew wedi setio. Os taw dim ond sudd yr eirin da chi’n gael ar y gyllell wrth dynnu allan mae o’n barod. Fel arall rhowch rhyw ddeg munud bach arall iddyn nhw.

Rysait hawdd ellid ei addasu ar gyfer pob math o ffrwythau dwi’n siwr. Ma gellyg yn opsiwn hefyd am rywbeth ysgafnach ei flas.

Cacen briodas Dhara a Steff

16 Medi

Ychydig wythnosau yn ôl roedd un o fy ffrindiau coleg yn priodi, ac fe ges i’r pleser o wneud y gacen briodas. Dyma’r ail gacen briodas i fi ei wneud eleni, ond roedd hon ychydig yn wahanol i’r cyntaf. I ddechrau doedd dim cupcakes, sy’n golygu ychydig llai o waith i fi, ac yn ail roedd y briodas yn Llundain, felly roeddwn i’n gallu paratoi’r gacen yn fy nghegin fy hun a’i chludo yn reit hawdd i’r briodas.

Doedd Dhara na Steff yn gallu cytuno ar flas y gacen, felly fe gytunais i wneud dau dier gwahanol, gyda chacen ffrwythau draddodiadol ar y gwaelod a sbwng lemwn ar y top.

Fe wnes i baratoi’r gacen ffrwythau ychydig o fisoedd o flaen llaw, felly gyda dau ddiwrnod cyn y briodas dim ond y gacen lemwn oedd angen ei gwneud. Fe ddefnyddiais rysait sbwng syml ond gan ychwanegu ychydig o zest lemwn i’r gymysgedd ac ar iddo goginio, fe wnes i ei drochi mewn sudd lemwn a siwgr oedd wedi cael ei gynhesu (fel petai chi’n gwneud lemon drizzle). Yna er mwyn gwneud yn siwr ei fod o’n blasu yn ddigon o lemwn fe roddais buttercream efo ychydig o lemon curd wedi ei gymysgu fewn iddo yng nghanol y gacen.

Roedd y briodas yn un indiaidd, felly yn lle defnyddio rhuban plaen i addurno’r gacen fe roddodd Dhara hen saree i fi, ac fe wnes i dorri darnau o’r saree a’i bwytho at ei gilydd i wneud rhuban. Roeddwn i wedi gwneud rhosod siwgr ar gyfer top y gacen, ond roedd nai Dhara wedi gwneud addurn bach allan o lego hefyd, oedd yn llawer gwell yn fy marn i!

A gan ei bod hi’n briodas Indiaidd fe ges i wisgo’r saree mwyaf hyfryd.

Gwyliau Haf

2 Medi

Ymddiheuriadau am beidio a blogio ers oes, ond dwi wedi bod yn galifantio cryn dipyn yr haf yma, a dwi  prin wedi bod adref i goginio swper heb son am bobi unrhywbeth. Ond dwi wedi bod yn bwyta mwy na fy nigon o gacennau, yn enwedig tra ar fy ngwyliau yn Ffrainc. Heblaw am y gwin (yn amlwg!) yr un peth dwi wastad yn edrych mlaen iddo yn Ffrainc yw’r  pastries. Mae’r Ffrancwyr yn gwybod sut mae gwneud tarten dda, ac mae’r safon, hyd yn oed yn archfarchnadoedd, yn aml yn llawer gwell na’r hyn sydd i’w ganfod yn y wlad hon. Cacennau a cupcakes yw’r ffasiwn yma ond tartenni ffrwythau o bob math sydd i’w gweld ymhob patisserie yn Ffrainc. A gyda patisserie bron ymhob pentref, roeddwn i’n gwledda ar y tartenni ffrwythau bychan, fel y gwelwch isod!

 

A gan fy mod yng ngwlad y macaron, roedd rhaid i mi gael llond bag, a wow roedden nhw’n hyfryd! Mynd yn berffaith efo gwydraid o champagne!

 

 

Roeddwn i’n joio cael macarons bach gyda coffi ar ol pryd hefyd

 

 

Ac roedd rhaid cael crepe yn doedd! Un efo siocled i fi ac yn efo mynydd o hufen chantilly i’r cariad.

 

Ac edrychwch ar y siocled peth yma ges i yn Bruges, bowlen o laeth poeth gyda cwpan siolced llawn botymau siolced i’w gymysgu mewn iddo. Hyfyrd!