Er bod bara brith yn o fy ffefrynnau, dwi heb wneud torth ers blynyddoedd. Dwi’n tueddu i wneud ryseitiau newydd o’r holl lyfrau dwi’n eu prynu ac yn anghofio am yr hen ffefrynnau. Ond pan ges i gais am gacen gan griw o’r gwaith (sy’n cynnwys Saeson, Albanwyr, Cymry a rhywun o Awstralia) y peth cyntaf ddaeth i fy meddwl oedd bara brith. Doedd nfer ohonyn nhw erioed wedi trio bara brith o’r blaen felly roedd ‘na bwysau arnaf i, i sicrhau bod ein cacen genedlaethol yn plesio.
Doeddwn i methu ffeindio’r rysait adref, sy’n dangos pa mor hir yn ôl wnes i fara brith diwethaf! Ond hen rysait Nain oedd hi felly dim ond un galwad ffôn oedd ei angen ac roedd genai gopi eto.
Dwi’n cofio Nain yn nodi ei ryseitiau mewn llyfr bach glas, gyda’r tudalennau yn cwympo allan ohono o’r holl ddefnydd. Ond roeddwn i wedi anghofio yn llwyr amdano tan i fi ffonio Nain yr wythnos diwethaf i holi am y rysait. Dyw Nain ddim yn pobi bellach felly’r tro nesaf dwi’n mynd adref i’r gogledd mae hi wedi dweud y gai fynd a’r llyfr efo fi. Dwi’n edrych ymlaen at weld pa fath o ryseitiau sydd ynddo ac efallai rhannu un neu ddau yma!
Ond cyn hynny dyma rysait Nain ar gyfer bara brith, sy’n cael ei wneud trwy socian y ffrwythau mewn te. Cacen efo te ynddi – perffaith!
Cynhwysion
8oz ffrwythau cymysg
6 fl oz te oer
8oz blawd codi
pinsed o halen
4oz siwgr brown
1 wy wedi’i guro
Dull
1. Gwnewch de cryf a’i adael i oeri (dwi’n gaadel iddo stiwio efo’rbagiau te dal ynddo)
2. Mwydwch y ffrwythau yn y te dros nos
3. Y diwrnod wedyn, cymysgwch yr wy i mewn i’r ffrwythau
4. Ychwanegwch y siwgr
5. Gogor y blawd a’r halen a’i gymysgu i gyd.
6. Irwch dun bara 2lbs a ‘i bobi am awr ar 150°C
Bwytewch efo haenen dew o fenyn!
Roedd fy Nanna fi wedi cael yr un fath o llyfr. Pob un o’i hoff reseit oedd ar tydalen sy’n bron yn cwmpo mas. Atgoffa hyfryd. Diolch.
Bydda i’n crasu Bara Brith ar Ddydd Dewi bob blwyddyn ac mae gen i rysait tebyg i hwn a ffeindiais i ar y we.
Rysait da iawn, diolch yn fawr. Newydd gael sleisen a panad wrth eistedd yn yr haul yn Brisbane ac yn cael atgofion braf 🙂
Diolch. Cenfigenus dy fod yn cael sleisen yn yr haul! O’n i’n byw un Brisbane am ychydig, lle braf.
ma delia’n gwneud un da hefyd! Irish Tea Bread ma hi’n ‘i alw fe ond Bara Brith yw e.