Kitchenaid … o’r diwedd!

22 Hyd

Blog bach sydyn i rannu pa mor ecseited ydw i fy mod i, o’r diwedd, yn berchen ar kitchenaid. Dwi di bod eisiau un o’r peiriannau cymysgu yma ers blynyddoedd. Ond tydyn nhw ddim yn rhad, felly mae’n eithaf anodd cyfiawnhau prynu un, pan mae yna bethau pwysicach i wario arian arno, fel biliau a bwyd!

Pan briododd fy chwaer ychydig o flynyddoedd yn ôl, fe wnaeth fy mrawd a minnau, brynu kitchenaid iddi hi. A dwi wastad wedi dweud mai’r peth cyntaf ar fy rhestr priodas i fuasai kitchenaid. Ond pwy a ŵyr pa mor hir fydd raid i fi aros cyn i’r cariad i gytuno i fy mhriodi! A gan fy mod i’n pobi mwy nag erioed rwan, roeddwn i’n gwybod y buaswn i’n gwneud defnydd mawr ohono.

Er hynny, maen nhw’n £400 yn newydd, a doeddwn i ddim yn gallu cyfiawnhau gwario cymaint â hynny o arian ar gymysgwr!


Felly fe ddechreuais i chwilio am un ail law ar ebay. Maen nhw’n para am oes, felly roeddwn i’n gwybod y byddai un ail law yn werth ei gael, ond am y rheswm yna hefyd , maen nhw’n dal eu pris yn reit dda.

Fe gymerodd o dipyn o amser i fi ffeindio bargen go iawn. Ond wythnos diwethaf fe enillais ocsiwn o’r diwedd, a heddiw fe wnes i bigo’r kitchenaid i fyny. Dwi mor hapus!

Felly gesiwch be dwi wedi bod yn gwneud drwy’r dydd?

Dwi wedi gwneud defnydd da ohono yn barod ac wedi gwneud dwy gacen a dwy dorth o fara.

3 Ymateb to “Kitchenaid … o’r diwedd!”

  1. sgentilyfrimi 23/10/2011 at 10:18 #

    Hoffi’r blog a’r ‘Kitchenaid’!

  2. Rhodri 23/10/2011 at 22:56 #

    Ti deffinet yn cymryd y bisgit am yr aelod o’r teulu mwy obsesd efo pobi.

    Edrych yn neis: pryd ga’i afal ar un dwad?…Ydwi newydd gyfadde yn gyhoeddus mod i’n chweynychu cymysgydd cacennau?!).

    • Paned a Chacen 24/10/2011 at 12:24 #

      Mae o wir yn anhygoel. Arbed lot o amser a wedi ei ddefnyddio i dylino toes bara, a weles i ddim gwahaniaeth i’r wnes i wythnos siwethaf efo llaw!

Gadael sylw