
Mae gennyf gyfaddefiad i’w wneud. Dwi wedi bod yn prynu mwy o lyfrau coginio.
Wir i chi, mae o fel rhyw fath o addiction. Dwi’n ddigon hapus yn darllen trwyddyn nhw fel nofelau, mae gennyf hyd yn oed bentwr wrth fy ngwely ar hyn o bryd! Ond y prif reswm dwi’n eu prynu yw er mwyn dysgu pethau newydd a thrio pethau gwahanol.
Y ddau diweddaraf dwi wedi’i prynu yw llyfr newydd Hugh Fearnley Whittinsgtall, Veg Everyday a llyfr Dan Lepard, Short & Sweet – The Best of Home Baking. Hefyd ar fy mhenblwydd fe gefais lyfr ar wneud bara gan fy mrawd, llyfr Richard Bertinet, Crust.

Dim ond llyfr Dan Lepard dwi wedi’i ddefnyddio hyd yn hyn, mae o’n llyfr gwych gyda phenodau gwahanol ar gacennau, bisgedi, pastry, pwdinau a bara. A’r peth dwi’n licio fwyaf am y llyfr yw bod yna gyflwyniad hir a thudalennau o tips a thechnegau ar ddechrau pob pennod – felly llawer mwy na dim ond rysetiau a lluniau neis.
Nawr mae pawb yn gwybod mai cacennau a phethau melys sy’n mynd a fy mryd i ac mae’r llyfr yn llawn ohonyn nhw. Ond am ryw reswm y peth cyntaf yr oeddwn i eisiau ei wneud allan o’r llyfr yma oedd bara. Heblaw am foccacia dwi wedi bod yn eithaf petrusgar o wneud bara, ond roedd cyflwyniad Dan Lepard yn ddigon cynhwysfawr i fy ysgogi i drio.

Y rysait bara cyntaf yn y llyfr yw bara gwyn hawdd. A da chi’n gwybod be, mae o!

Dyma’r Rysait
Cynhwysion
400g blawd cryf gwyn
1 llwy de o furum sych (y math da chi’n ei gael mewn pecynnau unigol)
1 llwy de o halen mân
300ml o ddwr cynnes
olew ar gyfer tylino
Dull
1. Cymysgwch y blawd, burum, halen a dŵr mewn bowlen.
2. Gorchuddiwch efo cadach neu liain sychu llestri, a’i adael am ddeng munud
3. Yna tylinwch y gymysgedd am ryw funud, gan blygu ac ymestyn y toes cyn ei roi yn ôl yn y fowlen a’i adael am ddeng munud arall. Mae’n bosib gwneud hyn gyda chymysgwr trydan gyda bachyn tylino, neu gyda llaw. Os ydych yn ei wneud â llaw rhowch olew nid blawd ar eich bwrdd. Fe fydd y gymysgedd yn reit wlyb i ddechrau, ond wrth i chi ddyfalbarhau fe fydd yn gwella.
4. Mae angen gwneud y cam yma ddwywaith eto, gan adael i’r toes orffwys am ddeng munud bob tro. (Dyma ble mae Dan Lepard yn wahanol i nifer o bobwyr eraill, yn lle tylino am ddeng munud)
5. Siapiwch y toes mewn i belen gron, a’i osod ar hambwrdd pobi sydd wedi’i daenu â blawd.
6. Gorchuddiwch gyda lliain sychu llestri unwaith eto, a’i adael am ryw 45 munud, neu nes bod y toes wedi cynyddu o 50%.

7. Torrwch slaes yn nhop y toes (bydd angen cyllell finiog i wneud hyn!) a’i bobi ar 220C/200C fan am 35-40 munud, nes ei fod yn euraidd frown.


Ers dechrau darllen am sut mae gwneud bara dwi wedi sylwi bod yna yna gymaint o ryseitiau gwahanol a thechnegau gwahanol o drin y toes, mae o’n ddigon i ddrysu unrhyw un. Mae’r ffordd mae Dan Lepard a Richard Bertinet yn gwneud a thrin eu bara yn hollol wahanol. Felly am y tro dwi am geisio perffeithio rhai o ryseitiau Dan Lepard, gawn ni weld sut fyddai’n dod ymlaen.
Tagiau: bara, dan lepard, pobi, torth