Wel Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd. Ymddiheuriadau am y diffyg blogio dros yr ŵyl ond dwi wedi bod yn brysur yn bwyta, yfed, diogi a dal fyny efo’r teulu (beth arall sy’ na i’w wneud dros y gwyliau?). Ond y penwythnos cyn y Nadolig fe fues i ar drip bach i Efrog Newydd gyda’r cariad.
Roedd y ddau ohonom wedi bod o’r blaen, felly doedd yna ddim pwysau i weld y golygfeydd. Felly’r bwriad oedd gwneud bach o siopa dolig (ok lot o siopa!) a chrwydro o gwmpas y ddinas yn bwyta ac yfed – beth well?
Felly dyma rai o’r danteithion y buem ni’n ei fwyta ar ein hymweliad i Efrog Newydd.
Dyma’r pryd cynaf i mi ei gael, ac am bryd da i ddechrau. Pulled pork sandwich mewn bynsen brioche efo coleslaw a thomen o chips wrth gwrs.
Roedd y bwyd yn Efrog Newydd yn atyniad mawr i mi, felly cyn mynd fe wnes i fwcio taith fwyd o gwmpas Greenwich Village gyda Foods of New York Tours. Roeddwn i’n gobeithio y byddai’n rhoi blas i ni o’r bwyd gorau sydd gan y ddinas i’w gynnig. Ac mae’n rhaid dweud dyma oedd un o uchafbwyntiau’r gwyliau i mi. Roedd o’n para am 3 awr ac fe aethom i naw o wahanol lefydd i flasu eu bwydydd. Ar ben y bwyd blasus roeddem ni hefyd yn clywed am gefndir y bwytai a’r siopau, a hanes yr ardal yn gyffredinol. Profiad gwerth chweil os ydych chi’n ymweld ag Efrog Newydd ac yn licio eich bwyd.
Y lle cyntaf i ni fynd iddo oedd Joe’s pizza, i gael New York pizza clasurol, tenau a crispy, perffaith am 11 y bore!
Wedi hynny fe flasom ni olew yn O&Co, rhywbeth o’r enw choripain (chorizo ar fara) ym mwyty Little Havana, y clasur Americanaidd Mac and cheese yn yr House Garden a risotto ball yn Ficcos.
Wedyn roedd hi’n amser i eistedd lawr a chael diod bach yn Centro Vinoteca, bwyty Eidalaidd hyfryd. A gan ein bod ni ar ein gwyliau roedd rhaid cael coctel, felly fe gawsom ni bellini yr un. I gyd fynd â’r diodydd fe gawsom ni piccolini, 4 canapés bach. Sef truffled deviled egg, datysen wedi’i lapio mewn cig moch a’i stwffio gyda gorgonzola, courgette fritter ac artichoke a chaws.
Ar ôl dro bach o gwmpas yr ardal roedd hi’n amser am bwdin, sef chocolate chip cookies o Milk & Cookies. Roedden nhw’n dal yn gynnes o’r popty ac yn hynod o flasus.
Ar ôl hynny fe aethom i Murray’s Cheese i flasu ychydig o gawsiau gwahanol, cyn gorffen gyda cannoli yn Rocco’s. Erbyn hynny roeddwn i bron a byrstio, ond wedi cael amser gwych.
Y bore wedyn, ar ôl gormod o goctels y noson cynt, roedd angen brecwast awr arnom. Felly fe wnaethom ni ganfod diner gwych ar Union Square. Ble gefais i Huevos Rancheros anhygoel a Johny wy, chorizo spinach a thatws, gyda sudd oren mawr ac wrth gwrs y ‘bottomless cup of coffee’!
Ar ein noson olaf fe aethom am bryd yn y Standard Grill yn y Meatpacking district, ble gefais i’r lamb shank mwyaf dwi erioed wedi ei weld a Johny porc chop anferthol. Mawr ond blasus!
Mae’r bwyd stryd yn grêt yn New York hefyd, yn enwedig yn y marchnadoedd Nadolig sydd ymhobman yr adeg yma o’r Nadolig. Mae’n rhaid cael hot dog a pretzel os ydych chi’n ymweld â’r ddinas.
Ac un pryd bach (oes na ffasiwn beth a bach yn America?) yn y maes awyr cyn rolio ymlaen ar yr awyren!