Archif | Ionawr, 2012

Diwrnod Santes Dwynwen Hapus!

25 Ion

Diwrnod Santes Dwynwen Hapus i chi gyd!

Gobeithio bod pawb yn gwneud rhywbeth i ddathlu, neu’n defnyddiwch o fel esgus iwneud rhywbeth neis eich hunain! . Yn anffodus dwi’n gwneud dim gan bod y cariad yn Llundain a minnau yng Nghaerdydd, felly fyddai ddim yn cael mynd i Odette’s am swper i ddathlu eleni – roeddwn i’n hogan lwcus iawn y llynedd ac fe gawsom ni bryd o fwyd anhygoel yno.

Dwi erioed wedi bod yn ffan o Ddydd San Ffolant, mae o’n llawer rhy fasnachol a mae rhywun yn teimlo’r pwysau i wneud rhywbeth arbennig, ond rhywsut mae Dydd Santes Dwynwen yn teimlo’n wahanol. Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n dathlu ein nawddsant cariadon ein hunain, mae stori Dwynwen yn hyfryd, ac wrth gwrs mae’n gwneud llawer mwy o synnwyr i gael dynes fel nawddsant y cariadon (sori hogia!) Felly mwynhewch heddiw ac os da chi’n chwilio am rywbeth i’w goginio i’r person arbennig yna yn eich bywyd, dwi wedi gwneud cacen red velevt ar eich cyfer.

Mae’n gacen berffaith gan ei bod y sbwng siocled yn lliw coch tywyll, a dwi’n addo na fydd unrhyw un yn gallu gwrthod sleisen o’r deisen hon!

O America daw’r gacen yn wreiddiol, ac mae wedi dod yn boblogaidd iawn fel cupcake yn y blynyddoedd diwethaf – a dweud y gwir rysait ar gyfer cupcakes yn llyfr yr hummingbird baker yw hwn. Dwi wedi addasu’r rysait rhywfaint gan fy mod i eisiau gwneud un gacen fawr, ac mewn tun calon wrth gwrs gan ei bod hi’n ddiwrnod Santes Dwynwen!

Cynhwysion

120g menyn heb halen ar dymheredd ystafell

300g siwgr caster

2 wy

40go bowdr coco

1 llwy de o fanila

240ml o laeth enwyn

300g blawd plaen

1 llwy de o bicarbonate of soda

3 llwy de o finegr gwyn

Ar gyfer yr eisin

600g siwgr o eisin

100g menyn heb halen ar dymheredd ystafell

300g caws meddal megis Philadelphia

Dull

1. Cynheswch y popty i 170°C / 150°C ffan. Irwch a leiniwch dun tua 20″ modfedd.

2. Gan ddefnyddio cymysgwr trydan, cymysgwch y menyn am 3 munud. Mae 3 munud yn lot hirach nag ydych chi’n ei feddwl felly amserwch o!

3. Nawr ychwanegwch y siwgr ychydig ar y tro, gan barhau i gymysgu. Yna cymysgwch am 4/5 munud arall. Dyma mae’r ryseitiau yn ei olygu pan maen nhw’n dweud ‘cream the butter and sugar until light and fluffy’!

4. Yna ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan gymysgu yn llwyr rhwng pob un.

5. Mewn bowlen arall, cymysgwch y powdr coco, y fanila a tua llond llwy de o liw coch (past coch wnes i ei ddefnyddio, gewch chi byth liw cryf efo’r rhai rhad na da chi’n ei gael yn yr archfarchnad) ac ychydig bach o ddŵr nes eich bod chi’n cael past trwchus a thywyll.

6. Ychwanegwch at y menyn, a’i gymysgu yn dda.

7. Nawr ychwanegwch hanner y llaeth enwyn, ei gymysgu yn dda cyn ychwanegu hanner y blawd. Gwnewch yr un peth gyda gweddill y llaeth enwyn a’r blawd.

Os nad ydych chi’n gallu cael gafael ar laeth enwyn, mae’n bosib gwneud rhywbeth tebyg eich hunain gan ychwanegu sudd lemon at laeth cyffredin. Dyna wnes i y tro yma gan ddefnyddio sudd un lemwn ar gyfer 240ml o laeth)

8. Ychwanegwch y bicarbonate of soda a’r finegr a’i gymysgu unwaith eto.

9. Tywalltwch i mewn i’ch tun a phobwch am awr, nes bod sgiwer yn dod allan o’r canol yn lân.

10. Gadewch y gacen i oeri yn y tun am ychydig, cyn ei drosglwyddo i restl i oeri yn llwyr.

11. Ar ôl iddo oeri yn llwyr, torrwch y gacen yn ei hanner yn barod ar gyfer yr eisin.

12. Er mwyn gwneud yr eisin curwch y siwgr eisin a’r menyn tan ei fod wedi cymysgu yn dda, yna ychwanegwch y caws meddal oer i gyd, a’i guro am ryw 4-5 munud. Peidiwch â’i guro dim mwy na hynny neu fe fydd yn mynd yn rhy denau.

13. Rhowch ychydig o’r eisin rhwng dwy haen y gacen a gorchuddiwch y top a’r ochrau. Esmwythwch cymaint â phosib, wedyngadewch y gacen fel mae hi neu os oes gennych chi blentyn bach yn eich helpu chi (fel oedd gennyf i) gorchuddiwch y top gyda gormodedd o sprinkles pinc!

Rum Baba

17 Ion

Tan yr wythnos hon doeddwn i erioed wedi clywed am rum baba o’r blaen. Gofynnodd fy ffrind i mi wneud rhai iddo, ond wrth gwrs doedd gennyf ddim clem beth oedd un, heb sôn am sut i’w gwneud nhw. Felly dyma ddechrau twrio trwy fy llyfrau coginio am rysait.

Fe lwyddais i ganfod tri rysait ar eu cyfer ymysg fy llyfrau, ond roedd y tri yn edrych yn hollol wahanol. Felly fe benderfynais i ddilyn rysait Dan Lepard yn bennaf, ond gan gymryd ychydig o syniadau o’r ryseitiau eraill

Rhyw fath o fara melys yw rum baba, sy’n dod yn yn wrieddiol o wlad Pwyl. Sydd, ar ôl ei goginio, yn cael ei socian mewn syryp melys o rym, fanila a lemon. Yn ôl y son (ok yn ôl wikipedia) mae’n ‘signature dish’ ym mwytai Alain Ducasse, un o chefs gorau’r byd. Felly os dio’n ddigon da iddo fo,  mae’n ddigon da i fi fyd!

Ar un pwynt doeddwn i’m yn ffyddiog y byddai’r rysait yn gweithio. Bu raid mi gymysgu’r toes a llaw gan nad yw’r kitchenaid gyda fi yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Doedd hynny ddim yn ddelfrydol gan ei fod yn gymysgedd gludiog iawn. Dwi eisiau eu trio eto ond gyda’r peiriant, dwi’n siwr y bydd o’n llawer haws ac yn creu lot llai o lanast. Y broblem arall gefais i oedd bod rhaid gadael i’r toes godi, fel bara. Ond gan ei bod hi mor oer ar hyn o bryd, fe gymerodd ddwywaith mor hir â’r disgwyl.

Gan nad oeddwn wedi bwyta na hyd yn oed gweld rum baba o’r blaen, doeddwn i ddim yn siwr sut yr oedden nhw fod i droi allan. Ond yn y diwedd fe gefais i fy siomi ar yr ochr orau, roedden nhw’n hyfryd. Mae yna flas tebyg iawn i frioche neu panattone ar y toes, ond maen nhw’n reit sych ar ben eu hunain. Dyna pam mae’r syryp rum yn hanfodol ac mae’n ychwanegu blas diddorol a chic i’r pwdin. Fe fyddai’n sicr yn eu gwneud nhw eto (ond dim ond os oes gennai’r kitchenaid!)

Cynhwysion

100ml llaeth cynnes
1½ llwy de o furum
150g blawd gwyn cryf
1 wy mawr a 1 melynwy
1½ llwy de o siwgr caster
½ llwy de o halen
50g menyn heb halen (ar dymheredd ystafell)
50g o resins

Ar gyfer y syryp
500g siwgr caster
500ml dwr
stribedi o groen lemwn
rym tywyll

Dull

1. Cynheswch fowlen gydag ychydig o ddŵr berw, a’i sychu yn llwyr. Yna ychwanegwch hanner y llaeth cynnes, burum a dwy lwy fwrdd o’r blawd. Cymysgwch a gadewch i sefyll am 15 munud, nes eich bod yn gweld swigod.

2. Tra’ch bod chi’n gwneud hyn sociwch y rhesins mewn ychydig o’r rym tywyll.

3. Yna ychwanegwch weddill y llaeth,  blawd, wy, melynwy, siwgr a halen a’i gymysgu gyda pheiriant cymysgu am 2 funud. Os nad oes gennych chi beiriant cymysgu, fe fydd raid i chi ei dylino efo’ch dwylo. Gan fod y gymysgedd yn un reit wlyb, mae angen slapio’r toes o gwmpas y fowlen yn hytrach na thylino mewn modd cyffredin. Byddwch yn barod am lanast os da chi’n gwneud hyn!

4. Nesaf mae angen ychwanegu’r menyn a’i guro (neu dylino) eto am ddau funud arall, cyn cyhwanegu’r rhesin ar ôl eu tynnu o’r rym.

5. Gorchuddiwch a’i adael mewn lle cynnes am 45 munud neu tan mae wedi dyblu mewn maint. Fe gymerodd llawer hirach na 45 munud i fi, felly mae’n werth dyfalbarhau os nag yw wedi codi rhyw lawer ar ôl 45 munud.

6. Ar ôl i’r gymysgedd godi Irwch dun myffin dwfn gyda menyn a’u hanner llenwi gyda’r cytew (dylai’r rysait wneud rhyw 5-6). Gadewch i godi unwaith eto, nes bod y cytew yn llenwi’r tun.

7. Cynheswch y popty i 200C / 180C fan a’u pobi am 25 munud.

8. Ar ôl eu coginio mae’n bosib eu gweinio yn syth neu eu cadw am ychydig o ddiwrnodau (mewn bocs gyda chaead) cyn eu socian yn y syryp.

9. Pan da chi’n barod i’w gweinio, cynheswch y siwgr, dwr, croen lemwn, fanila a sloch go dda o rym (at eich blas chi, ond mae modd ei dynnu allan os yw plant am ei fwyta).

10. Yna rhowch y babas yn y syryp a’u gadael i socian am ychydig o funudau, gan sicrhau eich bod chi’n eu troi drosodd.

11. Yna gweinwch gydag ychydig o’r syryp ar eu pen ac ychydig o hufen chwisg (neu hufen ia os da chi ddim yn licio hufen fel fi!)

Roulade siocled

15 Ion

20120113-191332.jpg

Dwi’n gwybod na fues i’n blogio rhyw lawer dros y nadolig, ond dyw hynny ddim yn golygu na fues i’n coginio. A dweud y gwir fi oedd yn gyfrifol am wneud cinio dolig i’r teulu eleni, a hynny am y tro cyntaf. Wrth gwrs roedd rhaid gwneud pwdin arbennig, ond does yna’m llawer o bobl yn ein teulu ni sy’n licio pwdin dolig. Yn sicr dwi ddim! Mae’n llawer rhy gyfoethog a thrwm i fwyta ar ôl pryd mor fawr. Felly fe benderfynais wneud roulade siocled ar gyfer y dydd, llawer ysgafnach na phwdin nadolig, a pwy sydd ddim yn licio siocled?

Nawr dwi’n gwybod pawb di hen ddiflasu efo’r nadolig erbyn hyn, ond roeddwn i’n meddwl bod o’n werth rhannu’r rysait yma efo chi, gan fod roulade yn bwdin perffaith ar gyfer unrhyw achlysur.

A gan ei bod hi’n flwyddyn newydd, a rhai ohonom (gan gynnwys fi!) yn ceisio bwyta’n iach, mae modd gwneud y roulade yma yn weddol iachus. Hynny yw os ydych chi’n cyfnewid yr hufen dwbl am iogwrt neu creme fraiche braster isel. Hefyd does dim blawd ynddo, sy’n ei wneud yn ysgafn awn, ac yn gluten free. Felly beth sydd yna i beidio ei licio?

Mae yna filoedd o ryseitiau roualde i’w cael ond rysait gan Merry Berry yw hwn.

 

 

Cynhwysion

175g siocled tywyll, o leiaf 70% cocoa solids

6 wy, wedi eu gwahanu

175g siwgr caster

2 llwy fwrdd o bowdr cocoa

300ml hufen dwbl

Ychydig o ffrywthau fel mefus neu fafon

Dull

1. Cynheswch y popty I 180C/160 fan ac irwch dun swiss roll a’i leinio gyda papur gwrth saim.

2. Torrwch y siocled yn ddarnau man, a’i doddi mewn bowlen sydd wedi ei osod dros sosban o ddŵr sy’n mudferwi. (gwnewch yn siwr nad yw’r fowlen yn cyffwrdd y dŵr o gwbl)

20120113-191658.jpg

3. Rhowch y 6 gwyn wy mewn bowlen a’i chwisgo tan ei fod yn stiff, ond gofalwch nad ydych chi’n ei or-wisgio. Dyle’ chi fod yn gallu dal y fowlen uwch eich pen heb iddo gwympo allan!

20120113-192007.jpg

4. Rhowch y 6 melynwy mewn bowlen arall gyda’r siwgr a’i chwisgo am 2-3 munud nes ei fod yn edrych fel hufen trwchus.

5. Ar ôl i’r siocled oeri rhywfaint, ychwanegwch at y melynwy a’r siwgr, a’i blygu yn ofalus, nes ei fod wedi cymysgu yn llwyr.

6. Yna gan ddefnyddio llwy fetel mawr ychwanegwch ddau lond llwyaid o’r gwyn wy at y gymysgedd siocled. Mae hyn yn llacio’r gymysgedd ac yn ei gwneud hi’n haws i gymysgu gweddill y gwyn wy heb golli’r holl aer.

20120113-192323.jpg

7. Ychwanegwch weddill y gwyn wy a’i blygu yn ofalus. Felly cymysgu yn ofalus mewn ffigwr wyth, yn hytrach na’i guro yn galed.

8. Hidlwch y powdr coco dros y cyfan a’i blygu yn ysgafn.

20120113-192504.jpg

9. Tywalltwch y gymysgedd i mewn i’r tun, gan ei wthio yn ofalus i’r corneli.

10. Pobwch am 20-25 munud nes bod y gymysgedd wedi codi, a bod y top yn teimlo’n eithaf cadarn. Gadewch iddo oeri yn y tun (fe fydd y roulade yn disgyn rhywfaint wrth iddo oeri, ac efallai y bydd y top yn cracio rhywfaint).

11. Chwisgiwch yr hufen nes ei fod yn weddol stiff a pharatowch eich ffrwythau.

12. Gosodwch ddarn o bapur gwrthsaim ar eich bwrdd a thaenu ychydig o siwgr eisin ar ei ben. Gosodwch y roulade ar ei ben, fel bod y papur leinio yn eich wynebu. Yna, yn ofalus, tynnwch y papur i ffwrdd.

20120113-192749.jpg

13. Taenwch yr hufen ar ben y roulade, gan adael gofod o 2cm yr holl ffordd o gwmpas yr ochr. Rhowch eich ffrwythau ar ben yr hufen.

14. Nawr mae’n amser rolio! Gydag un o’r ochrau byrraf yn eich wynebu chi, torrwch linell gyda chyllell finiog ryw 2cm o’r pen, gan sicrhau mai dim ond hanner ffordd trwy’r roulade yr ydych chi’n torri. Bydd hyn yn eich helpu chi i ddechrau rholio. Yna roliwch y darn yma drosodd yn ofalus, yna defnyddiwch y papur i’ch helpu chi i rolio gweddill y roulade yn dynn, trwy ei dynnu oddi wrthoch chi tra da chi’n rholio.

Peidiwch â phoeni os yw eich roulade yn cracio (fe wnaeth fy un i) mae’n eithaf cyffredin ac yn ychwanegu at edrychiad terfynol y pwdin.

Gweinwch gydag ychydig o siwgr eisin ar ei ben.

Blwyddyn Newydd Dda!

11 Ion

Helo a blwyddyn newydd dda i chi gyd.

Wel pwy feddylia ei bod hi bron yn flwyddyn ers i mi ddechrau’r blog yma. Pan grëais i’r blog, doeddwn i ddim yn disgwyl y busawn i’n blogio rhyw lawer. Ond dwi wedi cael cymaint o fwynhad, yr unig beth sy’n fy stopio rhag blogio mwy yw’r diffyg oriau yn y dydd. Mae wedi bod yn grêt cael esgus i drio ryseitiau newydd, ac i brynu hyd yn oed mwy o lyfrau coginio. Mae hefyd wedi bod yn bleser cael trafod cacennau a phobi gyda phobl eraill sy’n rhannu’r un diddordeb a minnau.

Dwi’n lwcus iawn bod y blog hefyd wedi arwain at nifer o cyfleoedd gwych, rhywbeth doeddwn i wir ddim yn ei ddisgwyl wrth ysgrifennu’r blog cyntaf yna fis Chwefror diwethaf. Roeddwn i ar raglen Blas, Radio Cymru eto heddiw, y tro yma yn trafod cacennau iach (ish!) ar gyfer unrhyw un sydd ar ddeiet yn y flwyddyn newydd. Mae’n raglen wych a dwi’n mwynhau cael cyfrannu.

Nawr mae’n rhaid i fi ymddiheuro bod y blog wedi bod yn dawel dros yr wythnosau diwethaf, yn anffodus mae gwyliau a gloddesta wedi tarfu ychydig ar yr amser blogio. Ond un o fy addunedau flwyddyn newydd yw i gario ymlaen i flogio cymaint â phosib. Bydd hynny, yn amlwg, yn golygu lot o bobi ym mis Ionawr, sydd yn anffodus yn achosi problem i un o fy addunedau eraill, o fwyta yn fwy iach. O wel, dwi wedi dweud na fyddai’n yfed ym mis Ionawr chwaith, ond mae’n rhaid i fi gael rhyw bleser yn does!

O ran fy addunedau coginio, dwi’n gobeithio palu trwy’r holl lyfrau coginio yna sydd gennyf, a pharhau i drio ryseitiau newydd. Ond dwi hefyd yn gobeithio cael ychydig mwy o amser i bobi bara, rhywbeth dwi’n awyddus iawn i’w feistrioli. Mae gennyf gacen briodas arall i’w wneud eleni hefyd, y tro yma yn yr Alpau yn Ffrainc, a da chi’n sicr o glywed sut y byddai’n dygymod a hynny!

Felly dwi’n gobeithio eich bod chi’n mwynhau darllen y blog cymaint â dwi’n mwynhau ei sgwennu. Ac os oes gennych chi awgrymiadau am bethau i goginio, neu ryseitiau yr hoffech chi weld ar y blog, gadewch i mi wybod.