Blwyddyn Newydd Dda!

11 Ion

Helo a blwyddyn newydd dda i chi gyd.

Wel pwy feddylia ei bod hi bron yn flwyddyn ers i mi ddechrau’r blog yma. Pan grëais i’r blog, doeddwn i ddim yn disgwyl y busawn i’n blogio rhyw lawer. Ond dwi wedi cael cymaint o fwynhad, yr unig beth sy’n fy stopio rhag blogio mwy yw’r diffyg oriau yn y dydd. Mae wedi bod yn grêt cael esgus i drio ryseitiau newydd, ac i brynu hyd yn oed mwy o lyfrau coginio. Mae hefyd wedi bod yn bleser cael trafod cacennau a phobi gyda phobl eraill sy’n rhannu’r un diddordeb a minnau.

Dwi’n lwcus iawn bod y blog hefyd wedi arwain at nifer o cyfleoedd gwych, rhywbeth doeddwn i wir ddim yn ei ddisgwyl wrth ysgrifennu’r blog cyntaf yna fis Chwefror diwethaf. Roeddwn i ar raglen Blas, Radio Cymru eto heddiw, y tro yma yn trafod cacennau iach (ish!) ar gyfer unrhyw un sydd ar ddeiet yn y flwyddyn newydd. Mae’n raglen wych a dwi’n mwynhau cael cyfrannu.

Nawr mae’n rhaid i fi ymddiheuro bod y blog wedi bod yn dawel dros yr wythnosau diwethaf, yn anffodus mae gwyliau a gloddesta wedi tarfu ychydig ar yr amser blogio. Ond un o fy addunedau flwyddyn newydd yw i gario ymlaen i flogio cymaint â phosib. Bydd hynny, yn amlwg, yn golygu lot o bobi ym mis Ionawr, sydd yn anffodus yn achosi problem i un o fy addunedau eraill, o fwyta yn fwy iach. O wel, dwi wedi dweud na fyddai’n yfed ym mis Ionawr chwaith, ond mae’n rhaid i fi gael rhyw bleser yn does!

O ran fy addunedau coginio, dwi’n gobeithio palu trwy’r holl lyfrau coginio yna sydd gennyf, a pharhau i drio ryseitiau newydd. Ond dwi hefyd yn gobeithio cael ychydig mwy o amser i bobi bara, rhywbeth dwi’n awyddus iawn i’w feistrioli. Mae gennyf gacen briodas arall i’w wneud eleni hefyd, y tro yma yn yr Alpau yn Ffrainc, a da chi’n sicr o glywed sut y byddai’n dygymod a hynny!

Felly dwi’n gobeithio eich bod chi’n mwynhau darllen y blog cymaint â dwi’n mwynhau ei sgwennu. Ac os oes gennych chi awgrymiadau am bethau i goginio, neu ryseitiau yr hoffech chi weld ar y blog, gadewch i mi wybod.

4 Ymateb to “Blwyddyn Newydd Dda!”

  1. nebonebo 12/01/2012 at 19:58 #

    pa fath o ffon sgen ti? defnyddia app wordpress ar dy iphone neu android. Mae’n gwneud gymaint o wahaniaeth weithau.

    • Paned a Chacen 13/01/2012 at 12:23 #

      Dwi’n defnyddio’r app wordpress yn reit aml. Gret ar gyfe ymatebion byr, neu sgwennu drafft, ond ddim yn ddefnyddiol os wyt ti’n defnyddio lot o luniau fel dwi’n tueddu i’w wneud. Llawer anoddach i gael y post i edrych yn dda, efo popeh yn y lle iawn!

  2. Rhys 13/01/2012 at 13:51 #

    Wedi mywynhau dy gofnodion hyd yma yn fawr. Edrych ymlaeni ddarllen mwy. Gret hefyd yw clywed am y cyfleodd annisgwyl sy wedi deillio o’r blog.

    Os ti’n cymryd requests, dw i eisiau un o’r rhain.

    • Paned a Chacen 13/01/2012 at 15:05 #

      Iesgob mae hwna yn glamp o gacen!

      Diolch am y sylwadau neis, edrych ymlaen at flwyddyn arall o flogio a phwy a wyr beth arall!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: