Archif | Chwefror, 2012

Kaiserschmarrn – ymerawdwr y crempogau!

21 Chw

Dwi wrth fy modd gyda chrempogau ond heblaw am ryw fore Sadwrn prin, anaml iawn dwi’n eu gwneud nhw. Ond bob dydd Mawrth Ynyd, dwi’n bwyta tomen enfawr ac addo fy mod i’n mynd i’w gwneud nhw’n fwy aml. Ond gesiwch be, dwi ddim!

A dim fi yw’r unig un, mae’r siopau yn llawn cynhwysion crempog (nai ddim dechrau pregethu am y crempogau na da chi’n eu cael mewn paced … Beth sydd yn haws na chymysgu llaeth blawd ac wyau?) yn yr wythnosau cyn dydd Mawrth Ynyd wedyn mae pawb yn anghofio am eu bodolaeth.

Ond pam? Mae yna gymaint y gallwch ei wneud â’r crempog syml, da chi mond angen mynd i creperie yn Ffrainc, neu i gael brecwast yn America i weld hynny. Ond, heb os nag oni bai, fy hoff bryd crempogaidd i yw Kaiserschamarrn. Dwn i’m faint ohonoch sydd wedi clywed am Kaiserschmarrn o’r blaen, heb son am ei fwyta, ond pwdin o Awstria ydio, ac mae o’r peth gorau y gallwch ei wneud gyda blawd, wyau a llaeth!

Ryw ddeng mlynedd yn ôl fe gefais i’r pleser o fyw yn Awstria, yn gweithio mewn gwesty dros y cyfnod sgïo, ac roeddwn i wrth fy modd gyda’r bwyd yno. Nawr dyw selsig a sauerkraut ddim y pethau mwyaf iach yn y byd, ond yn ystod y gaeaf does yna ddim byd gwell. Ond allan o’r holl fwyd kaiserschmarrn oedd fy ffefryn. Roeddwn i’n cael platied i ginio ar y mynydd o leiaf unwaith yr wythnos (peth gwych am Awstria, mae’n dderbyniol i gael pwdin fel cinio yno!).

Felly beth sydd mor arbennig am Kaiserchmarrn? Wel mae’r enw yn golygu llanast yr ymerawdwr, enw da! Ac mae o’n grempog melys, sy’n cael ei wneud trwy chwipio’r gwynnwy ar wahân, a’i blygu i mewn i’r cytew, fel eich bod chi’n creu rhyw fath o grempog souffle. Mae rhai llefydd yn ei goginio yn blaen , ond mae’n boblogaidd iawn gyda chyrens ynddo hefyd, a dyna’r un dwi’n ei hoffi.

Hanner ffordd trwy’r coginio mae’r crempog yn cael ei falu yn ddarnau. Yna mae’n cael ei weini gydag ychydig o siwgr eisin ar ei ben a phowlen o gompot ffrwythau. Mae’r compot ffrwythau fel arfer yn newid o un bwyty i’r llall, eirin sy’n draddodiadol ond dwi wedi cael compot afal neu fefus hefyd a hyd yn oed bowlen o eirin gwlanog tun! Heno fe ddefnyddiais i beth oedd gennyf yn y ty, sef mefus a llys duon bach (blueberry).

Dyma chi’r rysáit, a dwi’n addo does dim angen bod ar ben mynydd yn yr eira i fwynhau hwn, ond bysa fo’n neis!

Cynhwysion

5 wy
150g blawd plaen
250ml llaeth
2 llwy fwrdd siwgr
1 llwy de echdyniad fanila
Pinsied o halen
Rhesinau
Menyn i goginio

Dull

1. Cymysgwch y melynwy, blawd, siwgr, fanila, halen a llaeth nes bod gennych gytew tenau.

2. Chwisgiwch y gwynnwy nes ei fod yn stiff, a’i blygu yn ofalus i mewn i’r cytew gyda llwy fetel.

3. Toddwch y menyn mewn padell ffrio ac ychwanegwch y cytew. Gwasgarwch ychydig o resins am ei ben a’i ffrio ar dymheredd isel.

4. Trowch y crempog drosodd a’i adael i goginio am ryw funud, yna torrwch mewn i ddarnau bach gyda fforc, a’i ffrio nes ei fod wedi coginio yn llwyr.

5. Gweinwch gydag ychydig o siwgr eisin am ei ben a chompot ffrwythau ar yr ochr.

 

 

 

 

 

 

 

 

Baked Alaska

11 Chw

Ddydd llun fe fyddai’n feirniad ar raglen Cog1nio, rhaglen debyg i junior masterchef. Fe fyddai’n gwneud masterclass efo’r plant ac wedyn yn beirniadu eu hymdrechion nhw.

Yr hyn fydd yn rhaid i’r plant ei goginio bydd baked Alaska. Bach o blast from the past ond rhywbeth fydd, gobeithio, yn herio’r plant.

Mae rhoi hufen ia mewn popty yn swnio yn hollol hurt, ond mae’r meringue yn gweithio fel ynysydd da. A gan mai dim ond am ychydig o funudau da chi’n rhoi’r pwdin yn y popty (jysd digon i setio’r meringue) dyw’r gwres ddim yn cyrraedd yr hufen ia.

Mae’n bosib gwneud un pwdin mawr ond fe wnes i rai bach unigol. Er doeddwn i dal methu gorffen un cyfan gan ei fod mor gyfoethog. Roedd o’n flasu iawn, mae’r meringue meddal un cyferbynnu yn hyfryd efo’r hufen ia oer, a’r sbwng ar y gwaelod yn rhoi ansawdd gwahanol. Ond wir maen nhw mor felys roeddwn i’n bownsio oddi ar y waliau! Felly os da chi isio sugar hit, triwch un o’r rhain.

 

Cynhwysion

Cacen sbwng (gwnewch un eich hun, neu prynwch un o’r siop)
Jam
Hufen ia (pa bynnag flas da chi eisiau)
3 gwyn wy
125g siwgr caster

 

Dull

1. Cynheswch y popty i 220C / 200C ffan.

 

2. Torrwch sleisen o’r gacen a thorri cylch allan (neu os da chi’n ddiog fel fi torrwch sgwâr, dio’n gwneud dim gwahaniaeth). Gosodwch y gacen ar hambwrdd pobi sydd wedi’i leinio gyda phapur gwrthsaim.

3. Taenwch ychydig o jam ar y gacen a gosod pelen o hufen ia am ei ben. Rhowch yn y rhewgell i’w gadw yn oer tan da chi wedi gwneud eich meringue.

4. Er mwyn gwneud y meringue gwahanwch y wyau a gosod y gwyn wy mewn bowlen fawr lân. Nawr mae’n bwysig bod y fowlen yn hollol lân heb unrhyw saim arni neu bydd y wyau ddim yn chwisgio yn iawn.

5. Chwisgwch y gwyn wy ar gyflymder isel i ddechrau, gan gynyddu’r cyflymder yn raddol. Unwaith da chi’n gallu gwneud copaon meddal gyda’r gwyn wy, gallwch ychwanegu’r siwgr. Gwnewch hyn un llwy fwrdd ar y tro, gam barhau i chwisgio nes bod eich wyau yn drwchus ac yn sgleiniog.

6. Nawr tynnwch eich sbwng a hufen ia o’r rhewgell a gorchuddiwch gyda’r meringue. Gwnewch yn siŵr nad oes yna unrhyw dyllau o gwbl, yn enwedig o gwmpas gwaelod y gwaelod.

7. Coginiwch yn y popty am ryw 4 munud, neu nes bod y meringue wedi dechrau brownio ar y tu allan. Gweinwch a bwytewch yn syth.

Hufen ia fanila ddefnyddiais i, ond defnyddiwch pa bynnag flas da chi’n licio. Hefyd os da chi’n licio siocled beth am roi cacen siocled neu brownie siocled ar y gwaelod a defnyddio hufen ia siocled. Hyfryd!

 

 

 

 

 

 

Dathlu’r ddaear gyda Bryn Williams

7 Chw

Bob blwyddyn mae’r WWF (y bobl anifeiliad nid y reslars) yn gofyn i bobl ar draws y byd, i droi eu goleuadau i ffwrdd am awr er mwyn arbed trydan a hefyd i bwysleisio’r pryder ynglyn a newid hinsawdd.

Mae syniad yr  Awr Ddaear yn un syml iawn ond effeithiol, dwi’m yn meddwl ein bod ni’n sylwi cymaint o oleuadau da ni’n ei ddefnyddio tan mae popeth yn mynd yn dywyll am gyfnod. Felly am 8.30pm ar 31 Mawrth  maen nhw eisiau i bawb i droi eu goleuadau i ffwrdd am awr.

Ond mae eistedd o gwmpas yn y tywyllwch yn ddiflas, felly mae’r WWF yn annog pobl i ddefnyddio’r awr yna i gael pryd rhamantus dan olau cannwyll. Maen nhw hyd yn oed wedi perswadio nifer o gogyddion enwog i gynnig ryseitiau, gan gynnwys hoff gogydd pawb yng Nghymru ar hyn o bryd, Bryn Williams.

Dwi’n ffan mawr o fwyd Bryn Williams, ar ôl cael prydau anhygoel yn Odette’s, felly roeddwn i’n edrych ymlaen i weld ei fwydlen.

Fel pryd cyntaf mae ganddo rysáit ar gyfer cawl betys, sy’n edrych yn hyfryd. Macrell gyda broad beans a chorizo yw’r prif gwrs, rhywbeth fyddai’n sicr yn ceisio ei goginio yn y dyfodol. Ac i bwdin mae’n cynnig crymbl afal a chnau castan.

Fe fyddai’n sicr yn ceisio gwneud y ddau gwrs cyntaf yn y dyfodol ond am y tro, gan mai blog pobi ydi hwn, fe benderfynais wneud y crymbl.

Mae crymbl afal yn bwdin reit glasurol ond mae techneg Bryn o bobi’r crymbl ar wahân yn golygu eich bod chi’n cael crymbl sy’n hynod greisionllyd, sy’n cyferbynnu yn berffaith gyda’r afalau meddal. Mae’r almonau yn ychwanegu at yr ansawdd yna ac yn tostio’n hyfryd i roi blas ychwanegol i’r crymbl.

Mae’n rhaid cyfaddef nad ydw i’n or-hoff o flas nag ansawdd cnau castan, ac er eu bod nhw’n ychwanegu blas llawer mwy dwfn i’r crymbl, fe fuaswn i’n bersonol yn eu gadael allan y tro nesaf. Ond chwaeth bersonol yn unig yw hynny, ac fe fuaswn i’n annog unrhyw un i drio’r cnau yn y crymbl eu hunain.

Fe wnes i gwstard cartref i fynd gyda’r crymbl, oedd yn cyd-fynd yn berffaith, er fe fuasai hufen ia yn hyfryd hefyd. Un rhybudd am y ryaist yma, mae’n gwneud digon i deulu cyfan, felly os da chi’n bwriadu cael pryd rhamantus i ddau, hanerwch y cynhwysion.

Os da chi eisiau cenogi Awr Ddaear, gallwch gofrestru eich cefnogaeth fan hyn a gwnewch y mwyaf o’r awr yn y tywyllwch gyda phryd o fwyd hyfryd dan olau cannwyll (yn anffodus fydd Bryn Williams ddim yn dod draw i’w goginio i chi!).

Cynhwysion

12 afal, wedi eu plicio
1 pod fanila
125g siwgr caster
200g o gnau castan wedi’i goginio
1 llwy de o sbeis cymysg
25g menyn

Ar gyfer y crymbl

250g blawd plaen
200g siwgr caster
200g menyn, yn syth o’r oergell
150g o almonau wedi’i sleisio

Dull


1. Cynheswch y popty i 160C/140C fan/marc nwy 3.

2. Torrwch 3 o’r afalau mewn i sgwariau bach a’u gosod mewn sosban gyda’r pod fanila a’r siwgr. Gorchuddiwch gyda jyst digon o ddŵr a’u coginio nes eu bod nhw’n feddal. Dylai hyn gymryd rhyw 5 munud, ond cadwch olwg arnyn nhw. Yna stwnsiwch yr afalau gyda fforc a’u gosod i un ochr.

3. Torrwch weddill yr afalau a’r cnau castan mewn i ddarnau maint cegaid, a thaenwch y sbeis cymysg ar eu pen.

4. Cynheswch y menyn mewn padell ffrio a ffriwch yr afalau a chnau castan am ychydig o funudau.

5. Ychwanegwch at yr afalau wedi’i stwnsio yn y sosban. Trowch y gwres yn ôl ymlaen a choginiwch am 10 munud arall, neu nes bod yr afalau a’r cnau castan wedi coginio ac yn feddal.

6. Er mwyn gwneud y crymbl cymysgwch y blawd a’r siwgr mewn bowlen fawr. Ychwanegwch y menyn mewn darnau man a’i rwbio rhwng eich bysedd nes bod y gymysgedd yn edrych fel briwsion bras. Ychwanegwch yr almonau a’u cymysgu

7. Rhowch y crymbl ar hambwrdd pobi ai goginio yn y popty am ryw 10 munud, tan fod y gymysgedd yn euraidd frown. Fe fydd hyn yn sicrhau crymbl creisionllyd.

8. Rhowch y gymysgedd afal mewn bowlenni neu ramekins unigol (gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n iawn i’w rhoi yn y popty). gorchuddiwch gyda’r crymbl a’u pobi yn y popty am 10 munud arall.

9. Gweinwch yn syth gyda digon o gwstard, hufen neu hufen ia.

 

Cacen gaws sinsir a riwbob

5 Chw

Fe welais i riwbob yn yr archfarchnad yn ddiweddar ac fe wnaeth i mi feddwl nad ydw i erioed wedi coginio unrhywbeth efo riwbob heblaw am grymbl. Felly fe ysgogodd hynny i mi fynd ati i chwilio am bwdin neu gacen fyddai ychydig bach yn fwy mentrus.

Mae riwbob a sinsir yn gyfuniad gwych, felly pan welais i rysait ar gyfer cacen gaws sinsir a riwbob, roedd rhaid yn rhaid i mi ei drio. Rysait ar gyfer cacen gaws wedi’i bobi yw hwn, rhywbeth nad oeddwn wedi’i wneud o’r blaen. Mae’n golygu ychydig bach mwy o waith ond mae’n rhaid dweud fy mod i’n ei hoffi’n well na chacen gaws cyffredin, gan ei fod yn llawer mwy ysgafn.

Roedd genni un broblem fawr pan ddaeth hi’n amser i mi goginio’r gacen gaws, doeddwn i methu ffeindio riwbob yn unrhyw le! Felly yn lle rhostio fy riwbob fy hun, bu raid i mi ddefnyddio riwbob tun. Nawr dwi’n gwybod mai cyfnewidiad gwael oedd hynny, ond roeddwn i wedi rhoi fy mryd ar wneud y gacen, felly dyna oedd yr unig opsiwn. Yr unig broblem efo hyn oedd bod y riwbob tun bach yn wlyb ac yn golygu bod y bisged ar y gwaelod yn mynd ychydig bach yn sogi. Ond roedd y riwbob yn gyferbyniad hyfryd i felyster y gacen ei hun. Fe fydd yn rhaid i mi drio’r rysait eto, unwaith dwi’n cael gafael ar riwbob ffres, i weld os fydd o’n gwneud gwahaniaeth.

Dwi wrth fy modd efo blas sinsir felly yn ogystal â defnyddio bisgedi sinsir fel gwaleod i’r gacen fe wnes i hefyd ychwanegu darnau o sinsir mewn syryp i’r gacen ei hun. Ond os nag ydych mor hoff â hynny o sinsir byddai modd ei adael allan o’r gacen ei hun, a chanolbwyntio ar y riwbob yn unig.

 

Cynhwysion

600g riwbob
75g siwgr caster

1 paced 300g o fisgedi sinsir
100g menyn heb halen wedi’i doddi
300g caws meddal llawn brasder
65g siwgr caster
Croen 1 lemon wedi’i gratio yn fân
3 wy mawr wedi’i gwahanu
150ml hufen wedi’i suro
2 ddarn o sinsir mewn syryp wedi’i torri yn fân

 

Dull

1. Torrwch y riwbob yn ddarnau tua 5cm o hyd a’u gosod mewn dysgl gall fynd yn y popty. Gwasgarwch y siwgr am eu pen a’u rhostio am 15 munud ar dymheredd o 200C / 180C fan. Neu os nag ydych yn gallu cael gafael ar riwbob ffres fel fi, defnyddiwch riwbob tun, neu riwbob wedi’i rewi.

2. Malwch y bisgedi, unai trwy eu rhoi mewn bag plastig a’u taro gyda phin rolio, neu rhowch nhw mewn prosesydd bwyd. Cymysgwch gyda’r menyn wedi toddi a’u gwasgu ar waelod tun crwm gydag ochrau sy’n dod yn rhydd. Gadewch i oeri yn yr oergell tra da chi’n gwneud gweddill y gacen gaws.

3. Curwch y caws meddal gyda chwisg electrig nes ei fod yn feddal, yna ychwanegwch y siwgr caster a chroen y lemon. Cymysgwch yn dda.

4. Ychwanegwch y 3 melynwy a’r hufen wedi’i suro a churo eto nes ei fod yn llyfn. Ychwanegwh y sinisr wedi’i dorri a chymysgu.

5, Mewn bowlen arall chwisgiwch y 3 gwyn wy nes ei fod yn stiff. Rhowch lond llwy o’r gwyn wy yn y gymysgedd gaws a’i gymysgu yn dda. Yna ychwanegwch weddill y gwyn wy a’i blygu yn ofalus, gan ddefnyddio llwy fetel.

6. Gwasgarwch y riwbob ar ben y bisgedi, yna tywalltwch y gymysgedd gacen gaws am ei ben.

7. Gosodwch ar hambwrdd pobi a’i goginio ar dymheredd o 180C/160C fan am 15 munud, neu nes ei fod wedi codi. Yna gostyngwch y tymheredd i 160C / 140C fan a’i bobi am 30-35 munud arall, nes ei fod yn teimlo’n eithaf solet ond dal ychydig yn wobli yn y canol.

8. Tynnwch allan o’r popty a rhedwch gyllell o gwmpas ochr y tun i ryddhau’r ochrau ychydig. Gadewch i oeri yn y tun. Peidiwch â phoeni os yw’r gacen gaws yn cracio ychydig, mae hyn yn eithaf naturiol. Dwi wedi clywed bod modd osgoi hyn trwy adael y gacen i oeri yn raddol yn y popty, ond roedd gennai bethau arall i’w coginio ar ôl hon, felly allan a hi a wfft ag unrhyw grac!