Dwi’n caru cacs bach

11 Maw

Welshcakes, pice ar y maen, cacennau cri … neu fel mae fy nheulu i’n eu galw nhw … cacs bach. Beth bynnag da chi’n eu galw nhw, does dim curo ein cacen genedlaethol. Mae’n teulu ni wrth eu boddau efo nhw, ac yn eu gwneud nhw byth a beunydd. Fy hoff beth i fel plentyn oedd bwyta’r toes heb ei goginio, er bod dad yn dweud y buasai’n sticio at fy nghalon! A dwi’n sicr nad oes neb yn gallu eu gwneud nhw’n well na dad. Ond dwi’n trio fy ngorau!

Dwi’n chwyrn fy marn ynglŷn â sut yn union y dylai cacs bach fod. Maen nhw i fod yn syml ac yn blaen, felly plîs peidiwch â rhoi sbeis ynddyn nhw. A pheidiwch â hyd yn oed sôn am y rhai da chi’n gallu eu prynu gyda jam yn y canol, hollol hurt!

Mae lot o ryseitiau ar gyfer cacs yn defnyddio menyn yn unig, ond mae rysáit dad yn defnyddio hanner menyn a hanner lard. Nawr dyw lard ddim yn ffasiynol iawn y dyddiau yma ond mae’n gwneud gwahaniaeth mawr i flas ac ansawdd y cacennau felly maen werth ei drio.

Dylid coginio’r rhain ar radell haearn ond os nad oes gennych chi un mae’n bosib eu gwneud nhw mewn padell ffrio reit drwm hefyd.

Cynhwysion

1lb blawd codi

4 oz menyn

4 oz lard

5oz siwgr

4oz syltanas

1 wy

sblash o laeth

 

Dull

1. torrwch y menyn a’r lard mewn i ddarnau bach a’i rwbio i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel briwsion.

 

2. Ychwanegwch y siwgr, syltanas a’r wy, a’i gymysgu nes eich bod yn ffurfio pelen o does. Ychwanegwch sblash o laeth os oes angen.

3. Roliwch y toes allan nes ei fod yn rhyw ¼ modfedd o drwch a thorrwch allan gylchoedd, neu galonnau fel gwnes i y tro hwn. (doeddwn i methu ffeindio’r torrwr crwn!)

 

 

4. Cynheswch y radell a’i rwbio gydag ychydig o fenyn. Yna gosodwch eich toes ar y radell a’u coginio am ryw 2-3 munud ar bob ochr.

5. Tynnwch oddi ar y radell a’u hysgeintio gydag ychydig o siwgr.

6. Triwch beidio eu bwyta i gyda ar unwaith, er dwi’n gaddo bydd hynny yn anodd iawn. (2-4 ar y tro yw’r tueddiad yn ein teulu ni!)

3 Ymateb to “Dwi’n caru cacs bach”

  1. Robert Bruce 11/03/2012 at 12:33 #

    Dim sbeis? Sai’n deall o gwbl!😉

Trackbacks/Pingbacks

  1. Peis bach cyw iâr a chennin | Paned a Chacen - 01/03/2015

    […] defnyddio hwn fel esgus i bobi cacs bach (cacennau cri / pice ar y maen). Dwi wedi postio’r rysáit o’r blaen ac mae o yn y llyfr cyntaf hefyd, ond mae gen i rysáit addas arall dwi di bod yn […]

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: