
Fe wnaeth rhywun bwyntio allan y diwrnod o’r blaen, nad yw’r blog yma yn cadw’n ddigon at y teitl. Hynny yw, mae yna lot o gacennau yma ond dim llawer o baneidiau. Wel dyma ymdrech i wneud fyny am hynny.
Nawr dwi’n hoffi coffi, fel arfer espresso neu americano cryf, ond te sy’n cadw fi fynd drwy’r dydd. A dwi’n yfed lot o de, tua 10 paned y dydd ar ddiwrnod arferol!

A dwi’n benodol iawn am sut dwi’n licio fy nhe hefyd, dwi wrth fy modd yn cael paned mewn cwpan a soser tseina, ond does yna ddim i guro mwg anferthol o de cryf gyda dim ond ychydig bach iawn o laeth. Os oes yna ffrindiau draw, neu os dwi’n gwybod fy mod i’n mynd i’n mynd i fod eisiau mwy nag un paned dwi’n gwneud tebot, ond y rhan fwyaf o’r amser dwi’n arbed ar y golchi ac yn gwneud te tramp.

Ond mae gen i gasgliad bach o debotau gwahanol. Yr un pinc Bodum dwi’n ei ddefnyddio fwyaf gan fod ganddo hidlydd ynddo sy’n golygu eich bod chi’n gallu defnyddio te rhydd heb gael y dail yn eich cwpan. Mwy ar gyfer sioe mae’r ddau arall ond dwi’n hoff iawn ohonyn nhw. Un gin Hendricks yw’r un mawr yn y canol, mae’n rhan o set te a brynais ar ôl profi te prynhawn gin Hendricks ym, mwyty Hush yn Llundain. Mae’r brandio Hendricks yn golygu i fod yn wahanol iawn ond dwi’n hoff iawn o siâp y tebot hefyd, mae’n ddigon mawr i ddal lot o de! Anrheg Nadolig gan fy nhad oedd yr un chrome a hufen, dwi’n caru’r steil art deco ond mae’n gwneud y job yn gret hefyd, gan fod y metel ar y tu allan wedi’i inswleiddio fel ei fod yn cadw’r te yn gynnes heb i chi ddefnyddio tea cosy.
Mae’n bwysig iawn i mi bod tebotau yn gwneud y job yn ogystal ag yn edrych yn ddel. Synnwyr cyffredin fyse chi’n ei feddwl, ond mae’n gwylltio fi cymaint o debotau sy’n arllwys te i bob man wrth ei dywallt. Waeth i chi gael tebot siocled ddim!

Fel da chi’n ei weld, mae gena’i gasgliad reit eang o de yn fy nghwpwrdd. Dwi’n licio te cryf ar gyfer fy nhe bob dydd, Barry’s Tea o Iwerddon da ni’n ei yfed ar hyn o bryd, ond dwi hefydd yn licio Te Clipper sy’n de masnach deg hyfryd. Dwi hefyd yn licio cael te ychydig bach yn fwy crand yn y tŷ, ac ar y foment mae gen i de Fortnum a Mason ond dwi hefyd yn ffan mawr o de Tea Pigs, pan dwi’n gallu cael gafael ar focs (er tydyn nhw ddim yn rhad).

Te dwi’n ei gadw yn y pot coffi!

Nawr ar y pwynt pwysig. Sut i wneud paned dda? Wel i ddechrau mae angen dwr berwedig, a dyna’r rheswm pam mae te o lefydd coffi yn aml yn afiach (Starbucks yw’r gwaethaf) gan nad ydy dwr yn ddigon poeth. Ond dwi hefyd wedi ffeindio’r erthygl wych yma oddi ar wefan y BBC sy’n nodi 11 rheol George Orwell i wneud y baned berffaith, a dwi’n cytuno efo pob un ohonyn nhw (er fy mod i’n ffan o’r hen fag te hefyd).
Yn ôl yr erthygl fe ddywedodd George Orwell hyn ynglŷn â the:
“one of the “mainstays of civilization” – is ruined by sweetening and that anyone flouting his diktat on shunning the sugar bowl could not be called “a true tealover”.
Dwi hefyd yn cytuno yn llwyr y dylid ychwanegu’r llaeth ar ôl y te, ond mae’r gwyddonwyr yn dweud y gwrthwyneb. Ond mae’n hawdd iawn ychwanegu gormod o laeth os ydio’n mynd i mewn yn gyntaf, a does ‘na ddim byd gwaeth yn fy marn i na the efo lot o laeth.

Ond pwy ydw i, i ddweud wrthych chi sut i yfed eich te. Ond mae un peth yn wir, mae paned wastad yn mynd yn dda gyda chacen Neu fisged!) Mwynhewch.
Tagiau: paned, te