Nawr mae’n rhaid i fi ddechrau drwy ymddiheuro fy mod i wedi bod ychydig yn dawel ar y blog yma yn ddiweddar. Ond mae yna reswm (mae’r cliw yn y teitl!) Ie dwi’n sgwennu llyfr ryseitiau Paned a Chacen. Dwi mor ecseitied!
Dwi methu coelio’r peth a dweud y gwir, ond roedd y criw hyfryd yn y Lolfa yn licio’r blog cymaint fel eu bod nhw eisiau ei drosglwyddo i ffurf llyfr. Wrth gwrs fydd y llyfr ddim yn cymryd lle’r blog, ond dwi’n gobeithio y bydd o’n estyniad ohono, fydd yn cynnig nifer o ryseitiau newydd, yn ogystal â rhai o’r ffefrynnau o’r blog yn barod.
Fel y blog mae’n mynd i fod yn llawn o’r ryseitiau dwi’n hoffi eu bwyta a’u coginio fy hun, sef cacennau, bisgedi a phwdinau. Mae yna gymysgedd o ryseitiau ynddo, rhai’n syml iawn, ac eraill yn cynnig ychydig bach mwy o her. Felly dwi’n gobeithio y bydd o’n cynnig rhywbeth i bawb.
Felly fel y gallwch ddychmygu dwi wedi bod yn pobi yn ddi-baid yn ddiweddar, dwi hyd yn oed wedi cymryd wythnos i ffwrdd o’r gwaith i ganolbwyntio ar y llyfr yr wythnos hon, felly mae’r tŷ yn llawn cacennau! Mae’n od peidio gallu rhannu’r ryseitiau efo chi ar y blog, ond dwi wedi bod yn trydar lot o luniau!
Y gobaith yw y bydd y llyfr ar gael erbyn y Nadolig, felly dwi’n siŵr y byddwch chi gyd yn gofyn i Sion Corn am gopi! Ond oes gan unrhyw un syniadau am be fyddech chi’n licio ei weld yn y llyfr, gadewch i fi wybod rwan.
Dwi mor hapus fy mod i’n gallu rhannu’r newyddion efo pawb o’r diwedd, a dwi wir yn gobeithio y byddwch chi’n ei licio.
Newyddion da!!
Edrych ymlaen i brynu copi. Pa spin-offs wedyn – cyfres deledu, neu gwell fyth ‘Ysgol Goginio Elliw’, a chacaennau ‘branded’ fatha prydau parod Bryn Williams yn Morrisons?
Pwy a wyr!
Da iawn wir, edrych mlaen i weld y llyfr a trio ambell rysait! Pob lwc! x
Diolch
Llongyfarchiadau! Newyddion gwych, pob hwyl i ti ar y sgwennu. Edrych mlaen i brynu’r gyfrol, neu i’w derbyn yn fy hosan! x
Diolch. Dipyn o waith o fy mlaen ond yn joio’r her. Edrych mlaen i weld dy lyfr di hefyd pan ddaw allan.
Llongyfarchiadau Elliw ! Gwych!
Diolch!
Duw Da iawn wir. Nai prynu’r llyfr yn sicr.
Diolch yn fawr.
Wel-dyna sortio presanta nadolig i’r hogia! Methu aros i weld y llyfr ac wedi mwynhau darllen dy flog -y resetia A’R storis ynghlwm. Llongyfarchiadau Elliw! Plis gai ddod i’r lansiad yn Nolgellau-dwi’n gaddo prynnu 3 copi o leia!!
Diolch Elen.
Mae dy enw ar y rhestr yn barod a bydd gwahoddiad yn y post yn fuan.