Wel helo, mae hi di bod yn sbel ers i mi bostio diwethaf ac mae’n ddrwg gen i am hynny. Mae’r llyfr yma wedi hawlio pob munud sbâr sydd gen i. Ond dwi’n tynnu i’r terfyn o’r diwedd, mae gen i wythnos i ffwrdd o’r gwaith a dwi’n bwriadu ei orffen yn yr amser hynny. Felly tra bod pawb arall yn mwynhau’r gŵyl banc, fe fydda i wedi cloi fy hun i’r cyfrifiadur. Dwi’n siŵr mai fi di’r unig un sy’n gobeithio y cawn ni’r glaw gŵyl banc traddodiadol, fel nad oes gen i demtasiwn i adael y tŷ.
Ond dwi’n cael noson dawel heno, felly roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n hen bryd i fi flogio rhywbeth.
Wrth ysgrifennu’r llyfr yma dwi wedi bod yn chwilio am syniadau ymhobman. Dwi wedi gofyn i ffrindiau ac aelodau’r teulu am eu hoff ryseitiau, ond dwi hefyd wedi bod yn pori trwy lyfrau fy Nain. Mae gan Nain lyfr nodiadau o ryseitiau, un bach glas, a thudalennau wedi’u staenio gydag olion ei choginio. Dwi’n cofio ei gweld hi’n ei ddefnyddio fo pan oeddwn i’n iau, ond tan i mi ddechrau ysgrifennu’r llyfr yma doeddwn i ddim wedi edrych arno’n iawn. Dwi rŵan wedi’i fabwysiadu (ok dwi wedi ei ddwyn o!) gan nad yw hi’n ei ddefnyddio mwyach. Mae’r gacen ferwi yn un o’r ryseitiau o’r llyfr yma. Mae hi’n gacen ffrwythau hyfryd, sydd yn hawdd iawn ac yn sydyn i’w gwneud.
Cynhwysion
315ml llaeth
60g menyn
115g siwgr brown golau
230g ffrwythau sych cymysg
1 llwy de o sbeis cymysg
½ llwy de o sinsir sych
230g blawd codi
1 llwy de o soda pobi
Pinsied o halen
Dull
1. Cynheswch y popty i 190C / 170C ffan ac irwch a leiniwch dun torth.
2. Rhowch y llaeth, menyn, siwgr, ffrwythau cymysg a’r ddau sbeis mewn sosban a chodi berw. Gadewch i’r gymysgedd fudferwi am 5 munud.
3. Yna hidlwch y blawd, soda pobi a’r halen ato a’i gymysgu yn llwyr.
4. Trosglwyddwch i’ch tun bara a phobwch am 50 munud.
5. Tynnwch allan o’r tun a’i adael ar restl fetel i oeri.
6. Bwytewch gyda haenen dew o fenyn.