Sori am hyn, ond gyda llai na 10 wythnos tan y Nadolig, mae’n amser dechrau paratoi!
Yr wythnos hon fe ddechreuais i wneud rhestr o beth i gael i bawb fel anrhegion Nadolig, gyda’r gobaith o orffen fy siopa cyn diwedd Tachwedd. Yn anffodus dwi’m yn meddwl y gallai gael get-awe efo rhoi llyfr i bawb!
Ond dwi’n gwybod nad ydi pawb mor od a fi, gyda llawer ohonoch dwi’n siŵr yn gwrthod cydnabod bodolaeth yr ŵyl tan ddechrau fis Rhagfyr. Ond os da chi am wneud cacen Nadolig, mae’n ddrwg gen i, mae’n rhaid i chi ddechrau yn fuan. Fel dwi wedi’i ddweud ganwaith o’r blaen mae cacen Nadolig ar ei gorau wedi rhyw ddau fis ar ôl ei choginio. Ond wrth gwrs tydio ddim yn ddiwedd y byd, os nad ydych chi’n cael amser i’w wneud tan yn hwyrach.
Felly os da chi am wneud un hefyd, mae ‘na rysáit yma ar y blog. Mae na bennod cyfan o bobi Nadolgaidd yn y llyfr hefyd, digon i’ch cadw chi’n brysur hyd at y diwrnod mawr.
Mae angen mesur y ffrwythau heddiw, a’u gadael i fwydo dros nos yn y brandi. Yna fory fe fydd angen rhyw 4-5 awr i’w coginio. Esgus gwych i eistedd yn y tŷ yn gwneud dim!
Gadewch i mi wybod os da chi wrthi hefyd neu os ydych wedi gwneud eich cacen chi yn barod.
Fyddai yn mynd ati y penwythnos cynta ar ol hanner tymor! Dwi’n gwybod mae’n hwyr ond mae’n rhoi rhywbeth i fi edrych mlaen iddi wedi cychwyn tymor hir arall!
@dafm88
Pryd mae hanner tymor? Dwi’n lwcus bod i gen i benwythnos yn rhydd rwan, achos fel arall dwi’m yn gwybod pryd fyswn i’n cael amser!
Cacennau Dolig yn edrych yn hyfryd…..wrthi’n pori drwy’r llyfr (hyfryd iawn iawn – mor neis gweld llyfr fel hyn yn Gymraeg!) ac yn synnu nad wyt ti wedi mynd ati i wneud briwgig dy hunan. Fel un sy wedi bod wrthi’n gwneud ers blynyddoedd – gallaf argymell ei fod yn werth gwneud…..ac fe wnei di fyth eto brynu jar o’r stwff. Mae’r gwahaniaeth rhwng briwgig cartre ac un siop yn anhygoel. Mae gen i rysait am y briwgig ac am gacen Dolig munud ola (sy’n defnyddio jar o friwgig cartre) os wyt ti isie.
Diffyg amser yw fy mhroblem i. Dwi’n cael digon o drafferth gwneud popeth arall sydd angen ei wneud cyn y Nadolig ac felly mae’r un peth dwi’n gaddo ei wneud y flwyddyn nesaf. Ond wedyn does na byth ddigon o amser mae’n debyg!
Byddai’n gret cael rysait, wedyn bydd rhaid i fi wneud ymdrech i’w wneud.
Dyw e ddim yn cymryd lot o amser i neud llond bowlen o friwgig – wir yr – bach fel neud cawl neu gacs bach- dim ond mater o gael gafael ar yr holl gynhwysion a’u rhoi gyda’i gilydd yna yn y ffwrn yn isel iawn am ryw deirawr ac wedyn ei roi mewn jariau.