
Bydd unrhyw un sy’n darllen y llyfr yn gwybod cymaint o ysbrydoliaeth mae fy Nain wedi bod i mi. Felly cyn gynted ag y cefais i gopïau o’r llyfr roedd rhaid i mi yrru copi iddi. Roedd ei barn hi yn holl bwysig i fi.
Wel diolch byth mae’n plesio! Ges i alwad ganddi’r diwrnod o’r blaen yn dweud ei bod hi wrth ei bodd gyda’r llyfr, a’i bod hi wedi ei ddarllen o glawr i glawr. Roedd hi hyd yn oed yn awyddus i bobi rhywbeth eto, er ei bod hi yn 91 erbyn hyn. Ond roedd ganddi un cwyn, pam bod y cynhwysion mewn grams nid ownsys? Mae’n rhyfedd sut Mae pethau wedi newid dros y blynyddoedd gan mai pwysau ac ownsys yr oeddwn i yn ei ddefnyddio fel plentyn a dyna dwi dal yn ei ddefnyddio adra, gan nad oes gan dad glorian grams. Ond dwi’n siŵr bod ‘na lawer o bobl ifanc y dyddiau hyn sydd heb unrhyw syniad o beth yw owns neu hyd yn oed fluid ounce.

Ond dwi’n falch iawn bod y llyfr wedi plesio Nain, Mae o hefyd wedi plesio un o sêr iau’r llyfr, fy nith Marged. Dyw hi methu coelio ei bod hi mewn llyfr. A pan ofynnais beth oedd ei hoff rysáit hi, Wel cacs bach Mamgu wrth gwrs! Dyw hi, fel pob aelod arall o’n teulu ni, ddim yn gallu cael digon o’r cacs bach mae dad yn ei wneud erbyn hyn.
Mae hefyd wedi bod yn hyfryd cael ymateb gan bobl eraill – da di twitter i gael ymateb uniongrchol. Mae wastad yn gret clywed bod y ryseitiau yn gweithio i bobl eraill, ac mae tipyn o bobl wedi gyrru lluniau o’r cacennau maen nhw wedi’i wneud o’r llyfr. Mae’n debyg bod y gacen Guinness wedi bod yn boblogaidd yn ogystal a’r hyni byns.


Mae Hayley Evans wedi bod yn cadw Dylan Rowlands o Dylanwad Da yn hapus gyda hyni byns a chelsea buns.

A dyma fy nghefnder Owain yn trio gwneud hyni byns, dwi ddim yn siwr sut bethau oedda nhw yn y diwedd, ges i ddim llun!

A dyma Chelsea buns fy ffrind Myrddin, yn amlwg wedi eu sglaffio hyd yn oed cyn tynnu llun.
+
Y cacennau bach fanila wnaeth Catrin Newman ar gyfer penblwydd cyntaf ei nith.

A dyma Guto Dafydd yn mwynhau cacen Guinness Branwen Huws.
Dwi’n licio’r llun yma hefyd. Dyma fy llyfr yn siop Palas Print yng Nghaernarfon, wedi plesio’n arw efo’r cwmni da dwi’n ei gadw ar y silff yna.

Mae mor neis gweld eraill yn mwynhau’r ryseitiau felly plîs cariwch ymlaen i drydar eich lluniau.
Tagiau: llyfr, nain, paned a chacen