Mae’r llyfr wedi bod yn y siopau ers rhyw bythefnos rŵan, ond heno fe fyddwn ni’n cynnal y lansiad swyddogol yng Nghaerdydd. Mae’r Lolfa wedi trefnu parti bach yn Pettigrew Tea Rooms – stafell de hyfryd wrth y castell. Allai ddim meddwl am le mwy perffaith a dweud y gwir! Fe fydd yna de, cacen a lot o hwyl, ac fe fydd Betsan Powys yn fy holi am y llyfr, fe fydd yn od iawn bod ar ochr arall yr holi am unwaith!
Fe fydd yna lansiad hefyd yn Nolgellau’r wythnos nesaf – yn Dylanwad Da wrth gwrs. Fy hoff fwyty yn y dre, ac un o’r llefydd cyntaf i mi weithio tra yn yr ysgol. Swydd wnaeth gymaint i fwydo fy niddordeb mewn bwyd a choginio.
Dwi methu aros i gael cyfle i ddathlu efo teulu a ffrindiau, ac er mwyn rhannu’r hwyl, mae gen i gystadleuaeth i chi ddilynwyr selog y blog.
Mae gen i ddau gopi o’r llyfr, wedi’i arwyddo i’w rhoi fel gwobrau. Yr unig beth dwi eisiau i chi ei wneud yw dilyn y blog (os nad ydych yn gwneud yn barod) a gadael sylw o dan y blog yma yn dweud beth yw eich hoff gacen neu bwdin a pham.
Fe fyddai’n dewis y ddau enillydd allan o het, felly fydd na ddim pwyntiau ychwanegol am ddewis un o fy nghacennau i!
Pob lwc!
Cacen sbwnj yw fy hoff gacen i. Cymint alli di wneud hefo sbwnj yn does? Sbwnj victoria, siocled, lemwn, coffi, banana, oren – mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd. Sbwnj lemon yw fy ffefryn gyda syrup lemwn wedi socio fewn iddo, lyfli.
Dim byd gwell na chacen sbwnj fresh. Alli di wneud lot o bethau gwahanol gyda cymysgedd sbwnj. Sbwnj victoria, lemon, coffi, siocled – mae’r rhestr yn ddi ddiwedd! Allan o rheina sbwnj lemon yw fy hoff un.
Grandma’s Whisky Cake, rysait fy mam-yng-nghyfraith (blynyddoed cyn iddi ddod yn grandma ei hun). Fruitcake golau iawn, gyda raisins yn unig fel ffrwyth a thipyn i chwisgi wrth gwrs. Dw i wedi trio ei choginio hi fy hun unwaith neu ddwy a ddylwn i ddim dangos yr ymdrech yma gan i’r tu allan goginio gormod a’r tu mewn ddim coginio digon – ddim yr hysbys gorau!
Hewl Hocys (rocky road) gan ei fod yn gyfuniad melys o siocled a malws melys meddal gyda chrensian y bisged.
Pineapple cheesecake mam, mae o mor lysh! Wastad yn ei gael dros Dolig felly atgoffa fi o’r Dolig fyd
Cacen foron arbennig Kemi’s yn y Bae – mae na 2 fersiwn – yr un draddodiadol a’r un gyda sbeis a darnau o bin-afal ynddi. Hefyd mae Mam yn dda am wneuc cacen gaws leim a Dad sydd wastad yn gyfrifol am y 2 gacen Nadolig yn ty ni
spynj efo LOT o eisin, dyna fo, mor syml a hyna!
Heb os nac oni bai, cacen gellyg a almwn Hugh o River Cottage Everyday. Pan mae’n cael ei weini gyda hufen tolch (clotted) mae’n nefolaidd! Os nad dwi di gael e am sbel, dwi’n dechrau breddwydio amdano!
Teisen foron – mae wedi bod yn agoriad llygad i gyfeillion Sbeinig sydd wedi arfer â chacenni gor-felys, ac o hynny’n agor drysau imi fel newydd-ddyfodiad i’r pentref.
Cacen gaws Efrog Newyedd efo sbwnj ar y gwaelod yn lle bisgedi ac wedi ei adael yn y pobty i oeri.
Yr hen glasur. Cacen Fictoria. Rhaid dweud bod un Pettigrew yn dda iawn ond does dim byd yn well na fod wedi’i meistroli hi eich hun. Ar ôl sawl methiant Mary Berry wnaeth fy helpu i bobi un berffaith a dyna oedd teimlad o gyflawniad wedyn.
Hoff bwdin i yw Black Forest Gateau.Dwi’n dwli am y cymysg o siocled,hufen a cheirios.Mae hefyd yn atgoffa fi o mhlentyndod.Roedd Black Forest Gateau yn eitha posh yn yr 70au ac 80au ac dwi’n cofio’n teimlo’n eitha soffistigedig wrth ei fwyta.
Cacen sunsur olau yn llawn o ddarnau mân o ‘stem ginger’ efo hufen eisin a chaws meddal ar ei phen – hyfryd. Mae’n werth mynd i Gaffi Cyffin ym Mangor i’w chael, ond dydy hi ddim yno bob tro.
Mae genai ddau ffefryn; Crumble Riwbob efo cwstard cartref (ddim y powdwr na mewn tin)’ mae’n cynnesu’r galon ar ddiwrnodau gwyntog ag oer; Queen of Puddings, oedd Nain yn gwneud hwn yn aml, ond mae i weld fel fod llawer ddim yn gwybod amdano. Mae’n pwdin hawdd a hynod o felys.
Mae o’n newid trwy’r amser ond os dwi allan a mae na un dda ar gael sbwng fictoria draddodiadol pob tro. Ond ar pnawn Sul efo paned o de, tafell o bara brith…
Dwi methu dewis un, ma hynna yn ormod o dasg.. Dwi’n caru cacennau! ‘Na ni dwi di deud o. Ma hwn fatha therapi!
Dwi’m yn meddwl bo fi rioed wedi blasu cacen dwi ddim yn ei hoffi!.. Er dwi’n deud clwydda, mi wnes i gacen bîtrwt a siocled un tro…ges i un sleisen a doedd hyd yn oed Marged y ferch sydd yn fwy o ffan o gacenau na fi methu ei stumogi( bach o gyfuniad od, meddwl bo fi di rhoi gormod o fîtrwt a dim digon o siocled!)a rhoddwyd y rhan fwyaf yn y cadi gegin!
Yr adeg yma o’r flwyddyn? Wel mins pei amdani ac edrach ‘mlaen am gacan Dolig wrth gwrs. Pa un ‘di’n hoff gacen? Fedrai ddim dewis – dw i’n hoffi pob un heblaw cacan wy!