Ac enillwyr y gystadleuaeth yw ……

28 Tach

Wel mae’r amser wedi dod i ddewis enillydd y gystadleuaeth.

Diolch i bawb wnaeth drio, nes i joio darllen eich sylwadau am eich hoff gacennau chi. Da chi gyd yn glasurol iawn efo’ch cacennau, ond ‘da chi’n iawn allwch chi ddim curo cacen fictoria ysgafn neu fara brith.

fe fuaswn i’n licio trio cacen chwisgi mam yng nghyfraith Rhys Wynne a dwi’n mynd i drio gwneud cacen gellyg ag almon Dafydd Morse. Mae gen i River Cottage Everyday, a dwi wrth fy modd efo tarten gellyg ac almon, pam nad ydw i wedi’i wneud eisoes?

Ond fel y dywedais ynghynt, doeddwn i ddim yn mynd i ddewis enillydd ar sail eich hoff gacen.

Er mwyn dewis yn deg dwi wedi sgwennu enw pawb ar ddarn o bapur ac mae fy nghariad Johny wedi pigo dau allan o het.

Gweler y llun i brofi.

A’r enillwyr yw:

 

Nia James

a

Elin VJ

 

Llongyfarchiadau!!

Fe wnai ebostio yn fuan i gael eich manylion.

2 Ymateb to “Ac enillwyr y gystadleuaeth yw ……”

  1. Delyth A. Jones. Beddycoedwr, Abergeirw, Dolgellau. 18/01/2013 at 11:49 #

    Wrth fy modd efo’r llyfr. Wedi ei brynu i mi fy hun yn anrheg ‘Dolig. Yn bwriadu trio pobi’r hyni buns yn fuan. Wedi prynu’r cynhwysion yn barod. Mae ‘na golled fawr ar ôl Popdy’r Dref (Ifan a Maggie) yn arbennig yr hyni byns!
    Roedd dy fam a minnau yn gyd disgyblion yn Ysgol y Gader ac wedi mwynhau’r gwersi coginio – llawer o hwyl a chwerthin.

    • Paned a Chacen 18/01/2013 at 13:00 #

      O diolch yn fawr. Dwi’n gweld colled mawr ar popty’r dref pan dwi adra hefyd. Dyna pam roedd rhaid ail greu’r hyni byns fy hun!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: