Pobi Nadoligaidd

11 Rhag


20121211-220321.jpg

Fel pob cogydd da dwi wedi gwneud fy nghacennau Nadolig ers peth amser. Dwi wedi bod yn eu bwydo gyda brandi yn weddol reolaidd ac yn fuan fe fydd hi’n amser i mi eu haddurno. Ond fe geith hynny aros am ryw wythnos arall.

Ond yn y cyfamser mae yna ddigon o bobi arall i gadw fi’n brysur. A dyma rai o’r pethau dwi wedi’i gwneud dros yr wythnos diwethaf.

20121211-220336.jpg

Wrth gwrs dyw hi ddim yn gyfnod y Nadolig heb mins peis, er mae’n rhaid cyfaddef mai dim ond yn weddol ddiweddar dwi wedi dechrau eu licio. Dwi’n gwneud toes melys ar gyfer fy mins peis, gydag ychydig o almonau mâl a sudd oren. A dwi dal heb wneud fy mriwgig fy hun (twt twt) felly dwi’n defnyddio pot o friwgig siop ac yn ychwanegu croen oren a brandi.

20121211-220346.jpg

Ond yn ogystal â’r mins peis traddodiadol dwi hefyd wedi gwneud byns Nadoligaidd. Rhywbeth wnes i greu ydi’r rhain, yn seiliedig ar fy rysait ar gyfer byns chelsea. I’w gwneud nhw bach yn Nadoligaidd fe ychwanegais sbeis at y menyn a siwgr yn y canol a rhoi ceirios, llugaeron sych a chroen candi yng nghanol gyda’r rhesins. Wedyn ar ôl eu coginio tywallt ychydig o eisin am ei ben ac ysgeintio gydag almonau wedi’i sleisio.

20121211-220450.jpg

 

20121211-220509.jpg

Rai wythnosau yn ôl fe ddaeth fy ffrind Pia o Sweden draw i aros (os da chi wedi prynu’r llyfr fe fyddwch chi wedi clywed amdani, hi sy’n rhoi’r holl ryseitiau hyfryd i mi o Sweden). Fe ddoth hi ag ychydig o anrhegion gyda hi – mygiau hyfryd sy’n edrych fel eu bod nhw wedi’i gweu, cesys bach i wneud Mazariner (mae’r rysáit ar gyfer rhain yn y llyfr) a llwyth o dorwyr Nadoligaidd. Felly pan ddaeth hi’n amser i mi ddefnyddio’r torwyr a gwneud bisgedi Nadoligaidd, roedd rhaid i mi wneud rhywbeth scandinafiaidd, rhywbeth fel Pepperkaker. Bisgedi bach tenau sy’n llawn sbeis. Wel yn digwydd bod gen i ychydig bach o obsesiwn gyda Scndinafia, ac un o’r llyfrau diweddar i mi eu prynu oedd Scandilicious gan Signe Johansen, ac mae ‘na rysáit perffaith ar gyfer pepperkaker yno. Mae’r rysáit yn gwneud llwythi o fisgedi, ond maen nhw’n para am oes, felly perffaith i’w cadw yn y tŷ dros yr ŵyl. Maen nhw’n hyfryd hefyd fel anrhegion, wedi’i rhoi mewn bagiau a’u clymu gyda rhuban.

Gadael sylw