I lawer, dydd Mawrth Ynyd yw’r un diwrnod y flwyddyn pan maen nhw’n gwneud yr ymdrech i wneud crempogau. Ond dwi’n hapus i fachu ar unrhyw gyfle i wneud crempogau, boed nhw’n rai tenau fel sy’n draddodiadol i ni heddiw, neu grempogau tew Americanaidd i frecwast gyda bacwn a sudd masarn, neu hyd yn oed y Kaiserschmarrn o Awstria, sy’n gwneud pwdin neu hyd yn oed ginio barus.
Ond ar ddydd Mawrth Ynyd, dim ond y crempogau mawr tenau sy’n gwneud y tro, a dwi’n reit draddodiadol ac yn hoffi eu llenwi gyda menyn, siwgr a lemon ( a rhaid cyfaddef dwi’n ddigon hapus i ddefnyddio sudd lemon ffug ar y rhain, dyna da ni wastad wedi ei wneud ers yn blant). Yna byddaf eu rholio i fyny ac yn eu sglaffio yn sydyn, does dim angen cyllell a fforc. Ac os ydy un grempog yn unig yn eich digoni, yna rydych chi’n well person na fi o lawer!
Mae’n bosib prynu pob math o gymysgedd crempogau wedi’i gwneud yn barod yn y siopau y dyddiau hyn, ond beth all fod yn haws na chymysgu ychydig o flawd gydag wyau a llaeth?
Y broblem pam da chi’n eu coginio yw nad ydych chi byth yn cael nhw ar eu gorau, yn syth o’r badell yn chwilboeth.
Dyma chi’r rysáit , ond sut ‘da chi’n licio eich rhai chi?
Cynhwysion
110g blawd plaen
pinsied o halen
2 wy mawr
250ml llaeth (dwi’n defnyddio llaeth sgim gan mai dyna sydd yn y tŷ, ond defnyddiwch chi beth bynnag da chi eisiau)
25g menyn wedi’i doddi.
Dull
Hidlwch y blawd mewn i bowlen ac ychwanegwch yr halen
Cymysgwch y wyau mewn cwpan a gwnewch bant ynghanol y blawd a’u tywallt i mewn.
Yn raddol ychwanegwch y llaeth gan gymysgu gyda chwisg llaw.
Cymysgwch yn araf o’r canol gan gymysgu’r blawd o’r ochrau yn raddol. Fe fydd hynny sicrhau na fydd gennych chi unrhyw lympiau.
Ar ôl ychwanegu’r llaeth i gyd, gadewch y cytew yn yr oergell i orffwys am ryw hanner awr.Pan fyddwch chi’n barod i goginio eich crempogau toddwch y menyn mewn padell ffrio, ac ychwanegwch ddau lond llwy fwrdd i’r cytew, a’i gymysgu yn dda.
Tywalltwch y gweddill allan o’r badell a’i roi i un ochr. Defnyddiwch bapur gegin i gael gwared ag unrhyw ormodedd o fenyn yn y badell, da chi ddim eisiau boddi eich crempog mewn menyn. (Dwi’n ffeindio drwy wneud hyn a drwy sicrhau bod y gwres yn ddigon uchel fe fydd hyd yn oed y grempog cyntaf yn berffaith).
Yna gyda’r gwres i fyny yn uchel rhowch diogon o gytew yn eich padell i orchuddio’r gwaelod, gan droi’r badell o gwmpas i wneud yn siŵr bod y cytew yn gorchuddio’r badell yn hafal. Gofalwch i beidio â rhoi gormod, fe ddylen nhw fod yn eithaf tenau.
Ar ôl rhyw funud neu ddau, fe ddylech chi weld swigod bach ar dop y grempog, trowch nhw drosodd a’u coginio am funud neu ddau yn bellach.
Bwytewch cyn gynted â da chi’n gallu.