Semlor – Byns Cardamom o Sweden

11 Chw

semlor

 

 

Yr adeg yma o’r flwyddyn da ni gyd yn cofio bod crempogau yn bodoli ac yn gwagio silffoedd yr archfarchnadoedd o flawd, wyau a jiff lemon wrth i ni ddathlu dydd Mawrth Ynyd gyda brwdfrydedd.

Dwi wrth fy modd gyda chrempogau, ond os caf i esgus i wneud rhywbeth arall yna dwi am neidio ar y cyfle i ehangu fy ngorwelion ychydig.

Wrth gwrs nid y ni yw’r unig wlad i ddathlu’r diwrnod olaf yma cyn y Grawys, ond mae gwledydd eraill yn gwneud defnydd gwahanol o’r wyau, siwgr a menyn sydd yn y cypyrddau. Yn Sweden a llawer o wledydd Sgandinafiaiadd eraill nid crempogau maen nhw’n ei wneud ond Semlor – byns bach cardamom, wedi’i llenwi gyda phast marsipán a hufen.

Fy ffrind i Pia o Sweden wnaeth fy nghyflwyno i’r danteithion hyfryd yma yn wreiddiol. Pan yrrodd lun o’r cacennau bach hyn i mi, ro’n i’n gwybod bod rhaid i mi gael y rysáit. Gan eu bod nhw’n seiliedig ar does bara, mae ‘na gryn dipyn mwy o waith i’r rhain na chrempog, ond os cewch chi’r amser mae’n werth eu trio, does dim rhaid cyfyngu eich hunain i ddydd Mawrth Ynyd.

Mae’r sbeis o’r cardamom yn ysgafn iawn ond yn rhoi blas ychydig yn wahanol iddyn nhw, a’r hufen a’r marsipán wedyn yn ychwanegu’r melystra. Mae’r rysáit wreiddiol yn cynnwys almonau chwerw, ond maen nhw’n anghyfreithlon yn y wlad hon gan eu bod nhw’n wenwynig os ydych yn bwyta gormod! Er hynny dwi wedi cael cyflenwad arbennig gan fy ffrind yn y post, ond fe fydd y rhain yr un mor neis heb yr almonau chwerw.

Cynhwysion

500g o flawd bara cryf

14g o furum sych

100g o siwgr mân

5g o halen

1 wy bach

250ml o laeth braster llawn

7 pod cardamom neu llwy de o gardamom mâl

100g o fenyn heb halen

 

I’w llenwi

150g o farsipán

300ml o hufen dwbl

½ llwy de o rin fanila (vanilla extract)

2 llwy fwrdd o siwgr eisin

 

Dull

Toddwch y menyn mewn sosban ac ychwanegwch y llaeth. Tynnwch yr hadau o’r podau cardamom a’u malu yn fân gyda phestl a mortar, neu waelod pin rholio, a’u hychwanegu at y llaeth. Cynheswch i 37°C (tymheredd y corff). Gofalwch nad yw’n rhy boeth gan y bydd gormod o wres yn lladd y burum.

Mewn powlen, cymysgwch y blawd, y siwgr, yr halen a’r burum. Ychwanegwch yr wy ac yna hidlwch y llaeth i’r gymysgedd, er mwyn dal yr hadau cardamom.

Rhowch ychydig bach o flawd ar y bwrdd a thylinwch y toes am 10 munud nes ei fod yn llyfn.

Rhowch y toes mewn bowlen wedi ei iro gydag olew a gorchuddiwch gyda cling film. Gadewch i’r toes godi mewn rhywle cynnes am awr.

Rhannwch y toes yn ddarnau crwn tua 60g yr un (ychydig yn fwy na pel golf ) a’u gosod ar dun pobi gydag ychydig o flawd wedi ei ysgeintio arno. Gorchuddiwch gyda cling film neu liain sychu llestri a’u gadael am awr a hanner arall i godi.

Cynheswch y popty i 230°C/ Ffan 210°C/ Nwy 8 a’u pobi am 10 munud nes eu bod nhw’n euraidd frown.

Gadewch i oeri ar rwyll fetel.

Yn y cyfamser chwipiwch yr hufen gyda’r fanila a’r siwgr eisin.

Gratiwch y marsipán a’i gymysgu gydag ychydig bach o laeth i ffurfio past meddal.

Pan fo’r byns yn oer torrwch y topiau i ffwrdd a’u gosod i un ochr.

Tynnwch ychydig o’r bara allan o ganol y byns a cymysgwch y briwsion bara gyda’r past marsipan a llenwch y twll gyda’r gymysgedd.

Peipiwch ychydig o’r hufen am ei ben, a rhowch y caead yn ôl am eu pennau.

Ysgeintiwch ychydig o siwgr eisin am eu pennau a mwynhewch!

3 Ymateb to “Semlor – Byns Cardamom o Sweden”

  1. scares 12/02/2013 at 08:45 #

    Mae’n werth nodi bydd y grempogen cynta’ sy’n cael ei goginio o hyd yn un wael ac yn anfwytadwy.
    Dwi o’r farn y grempogen cynta’ yn rhyw fath o aberth i’r Duwiau Crempog i sicrhau crempogau gwych am weddill y flwyddyn.
    Yn bersonol dwi’n defnyddio llond llwy de o bowdr pobi ac ychydig llai o laeth i greu Crempog Albanaidd.

    Beth yw dy deimladau am y Grempog Albanaidd? Ydy’r math yma o grempog yn addas ar gyfer Diwrnod Crempog?

Trackbacks/Pingbacks

  1. Clwb Pobi: Gwanwyn | Paned a Chacen - 24/04/2014

    […] hefyd sef Semlor. Byns cardamom o Sweden, wedi’i llenwi gyda phast almon a hufen. Dwi wedi blogio am y rhain o’r blaen ac maer rysait yn llyfr Paned a Chacen hefyd, ac maen nhw’n […]

  2. Llond bol o grempog | Paned a Chacen - 16/02/2015

    […] os am rhywbeth hollol wahanol triwch Semlor. Byns cardamom o Sweden sydd wedi’i llenwi â phast almon a hufen. Mae nhw’n […]

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: