Archif | Mawrth, 2013

Digon o gacen i dagu ci

8 Maw

20130308-160510.jpg

Fel da chi’n gwybod dwi ddim angen unrhyw anogaeth i bobi nac i fwyta cacennau, felly pan glywais i gan ffrind bod yna grwp o bobwyr lleol yn cwrdd yn fisol, roeddwn i’n gwybod bod rhaid i mi ymuno â nhw.

Mae Band Of Bakers yn grwp yn Ne Ddwyrain Llundain sy’n dod a pobl at ei gilydd sy’n hoffi pobi, i rannu eu campweithiau dros ddiod a sgwrs.

Mae yna thema benodol i bob digwyddiad, ond dyna’r unig reol. Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr a does yna ddim elfen o gystadleuaeth o gwbwl. Mae pawb yn dod a’u cacen, pwdin, tarten neu fisgedi gyda nhw, eu gosod ar fwrdd enfawr a wedyn mae pawb yn cael cyfle i flasu.

20130308-160549.jpg

Y thema y tro hwn oedd clasuron Prydeinig, ac roedd yna ystod eang o ddanteithion fel cacennau eccles, sgons, digestives, tarten gaws a nionyn, cacen sticky toffee pudding, cacennau bach earl grey a hot cross buns.

Mae’n rhaid cyfaddef nad oedd rhaid i fi feddwl yn hir, pan glywais i beth oedd y thema. Beth arall gallwn i ei wneud ond cacs bach Mamgu? Fe gefais i ymateb da iddyn nhw, gyda lot o bobl yn dweud wrthai eu bod nhw wrth eu boddau gyda ‘welshcakes’, ac roeddwn i’n falch o weld plât gwag ar ddiwedd y noson.

Roedd yna ryw 30-35 o bobl yn y digwyddiad, oedd yn cael ei gynnal mewn tafarn leol, felly roedd hi’n amhosib blasu popeth. Ond fe fyddwch chi’n falch o glywed fy mod i wedi gwneud fy ngorau a stwffio fy hun nes fy mod i’n cael palpitations o’r holl siwgr. Wedyn os nad oeddwn i wedi bwyta digon, ar ddiwedd y noson, roedd pawb yn cael llenwi eu bocsys gyda beth bynnag oedd ar ôl ar y bwrdd i fynd adra gyda nhw.

20130308-160605.jpg

Mae’n rhaid dweud bod popeth wnes i flasu yn hyfryd, yn amlwg mae yna griw talentog iawn o bobwyr yn yr ardal yma.

Mae’r syniad o ddod at eich gilydd i rannu yr hyn ‘da chi wedi’i goginio, mor syml ond yn gymaint o hwyl. Ac mae’n rhaid i mi ddiolch i Gemma a Naomi am drefnu’r digwyddiadau. Dwi methau aros rwan i glywed beth fydd thema’r un nesaf.