Archif | Ebrill, 2013

Te yn y Dorchester

29 Ebr

20130429-213045.jpg

Gyda fy ffrind gorau, Catrin, yn dod i aros am y penwythnos, a minnau heb ei gweld hi ers sbel, roedd rhaid trefnu rhywbeth arbennig. A does yna ddim esgus gwell nag ymweliad ffrind i wneud y mwyaf o’r ddinas hon. Roeddwn i eisoes wedi cael tocynnau i ni fynd i’r theatr i weld The Audience, drama am gyfarfod wythnosol y frenhines (wedi’i actio yn wych gan Helen Mirren) gyda phrif weinidogion y wlad, ond wrth gwrs roedd angen trefnu rhywle i fwyta cyn hynny hefyd. Felly, gan fod angen bwyta yn gynnar, beth well na the prynhawn (unrhyw esgus!).

Nawr dwi wedi bod am de mewn nifer o westai yn Llundain yn barod, ond mae yna dal ddigon ar fy ‘to do list’. Y broblem fel arfer yw bod angen mis neu fwy o rybudd i gael bwrdd yn y llefydd gorau, yn enwedig ar ddydd Sadwrn. Ond rhywsut, gyda minnau ddim ond yn bwcio rhyw bythefnos yn ôl, fe gefais i fwrdd i dri yn y Dorchester.

20130429-213307.jpg

Pan gyrhaeddodd Catrin a fi (ar ôl bod yn potsian o gwmpas Selfridges) roedd Johny eisoes yn aros amdanom yn y bar, felly gydag ychydig o amser i fynd nes bod y bwrdd yn barod, roedd rhaid cael diod bach. Ac wrth gwrs, beth mae merch i fod i’w yfed yn y Dorchester na glased o Bollinger. Yn amlwg maen nhw’n mynd trwy lot o champagne yno, achos nid o botel safonol y daeth ein glased ond o Jeraboam, roedd o’n anferth. Duw a ŵyr faint mae Jeraboam o Bollinger yn ei gostio!

Doedd dim rhaid aros yn hir am ein bwrdd, ac fe gawsom ein harwain draw i fwrdd ger y piano yn y Promenade, sef lobby y gwesty. Ond peidiwch â meddwl ein bod ni’n ei slymio hi, dyma’r lobby mwyaf crand yr ydw i wedi’i weld, gyda cholofnau euraidd, trefniadau blodau anferthol a soffas moethus. Ac roeddem ni mewn cwmni da, pwy oedd yn eistedd yno gyda chwpwl o ffrindiau ond y cricedwr Kevin Pieterson (bu bron i mi stopio i gymharu anafiadau ben-glin, wrth i mi hoblan heibio ar fy maglau!).

20130429-212852.jpg

20130429-213149.jpg

Dwi’n licio ffaith mai’r unig ddewis mae’n rhaid i chi wneud gyda the prynhawn yw champagne neu beidio (champagne bob tro!) a pha de i’w gael. Yn y Dorchester roedd yna ddewis helaeth o de, ond roedd ein gweinyddes yn hapus iawn i’n helpu ni i wneud penderfyniad. Gan ein bod ni i gyd yn hoff o de cryf, fe wnaeth hi argymell yr Assam, te dwi wastad yn dewis fy hun fel arfer.

20130429-213112.jpg

Ar ôl i’r te a’r champagne gyrraedd (o Jeraboam arall!) fe ddaeth y brechdanau. Roedd yna ddewis o eog wedi’i fygu, ham, wy, cyw iâr a chiwcymbr. A ddim eisiau edrych yn farus fe es i am dri i ddechrau, ond wrth gwrs doedd hynny ddim yn mynd i fod yn ddigon a diolch byth fe ddaeth y weinyddes yn ôl i gynnig mwy i ni. Roedden nhw’n flasus iawn gyda bara gwahanol i bob llenwad, ac roedden nhw’n amlwg wedi eu torri yn ffres (does dim byd gwaeth na brechdanau sy’n dechrau sychu ar yr ochrau). Roedd y tri ohonom yn gytûn bod y frechdan cyw iâr, gyda bara basil ymysg y frechdan cyw iâr orau i ni ei gael. Roeddwn i’n hoff iawn o’r frechdan ciwcymbr, oedd yn fwy diddorol na’r arfer gan fod yna caraway yn y bara.

20130429-220016.jpg

Cyn i’r sgons a chacennau gyrraedd, fe gawsom ni gwpan bach siocled wedi’i lenwi gyda mousse cappucino a ffeuen goffi aur am ei ben. Doeddwn i ddim yn disgwyl hwn, felly roedd o’n ychwanegiad bach neis. Roedd y mousse yn ysgafn dros ben o’n flasus iawn, ac er fy mod wedi trio bwyta’r gwpan siocled gyda’r llwy, roedd o bach yn anodd felly fe wnes i stwffio yn un darn i fy ngheg.

20130429-213123.jpg

Dim ond wedyn y daeth y sgons, yn dal yn gynnes o’r popty a’r cacennau bach. Roedd yna ddwy sgon yr un i ni, un plaen ac un ffrwythau, ac wrth gwrs jam mefus, jam cyrens duon a hufen tolchog i fynd gyda nhw. Roedd y sgons yn ysgafn iawn a ddim yn rhy fawr, felly doedd bwyta dwy ddim yn ormod o broblem!

20130429-213205.jpg

Y cwrs olaf yw’r piece de resistance bob tro, ble ma’r chefs yn gallu dangos eu hunain gyda’r cacennau a thartenni bach del. Y broblem yn aml yw fy mod i’n stwffio gymaint ar y brechdanau a’r sgons fel nad oes gen i ryw lawer o le pan ddaw hi at y cacennau. Ond y tro hwn roedd y cacennau yn ddigon bach ac ysgafn fel nad oeddwn i’n teimlo’n rhy llawn ar y diwedd. OK roeddwn i’n llawn ond ddim yn teimlo fel fy mod i’n mynd i fyrstio!

Yn rhy aml hefyd mae’r danteithion olaf yma yn gallu edrych yn dlws iawn ond mae’r blas yn gallu bod ychydig yn siomedig. Ond nid y tro hwn, roedd y gacen oren yn iawn, ond ddim byd anhygoel, ond roedd yvgweddill yn flasus dros ben. Roedd yna gacen mefus a siocled gwyn, financier siocled gyda mousse pistasio (dwi’n caru unrhywbeth pistasio), macaron pina colada (wow!) a tharten siocled a chanu mwnci a charamel hallt (OMG!).

20130429-213025.jpg

20130429-212938.jpg

Roedd y darten siocled a chnau mwnci yn ogoneddus, fel snickers posh iawn ac roedd y macaron yn gyfuniad perffaith o goconyt a phinafal. Roedd rhaid i mi gael mwy ac roedd y weinyddes yn fwy na bodlon i ddod a rhagor.

Fe wnaeth y tri ohonom ni wedi mwynhau yn fawr a doeddwn i ddim yn gallu canfod yr un bai, wel heblaw am y bil yn y diwedd! Mae o’n sicr yn un o’r drytaf yn Llundain, ond mae o hefyd, yn fy marn i, ymysg y gorau hefyd.

Fe aethom ni’n syth o’r’ Dorchester i’r Gielgud Theatre i wylio Helen Mirren yn The Audience. Drama ddoniol a diddorol iawn gyda Helen Mirren yn portreadu’r frenhines yn llwyddianus iawn o’r dyddiau cynnar i’r presennol.

Diweddglo perffaith ar ddiwrnod i’r brenin (neu frenhines).

**Ymddiheuriadau am ansawdd y lluniau, ro’n i’n canolbwyntio mwy ar y bwyta a’r joi ang ar y lluniau!**

Dysgu gan y meistr yn Awstria

19 Ebr

20130419-172536.jpgGyda’r gaeaf yn edrych fel ei fod am bara am byth, a gwyliau’r Pasg yn agosáu fe benderfynais fynd ar drip munud olaf i Awstria. Wrth gwrs roedd yr eira ffres oedd yn dal i ddisgyn ar y llethrau yn atyniad mawr, ond roeddwn i hefyd yn awyddus i dreulio ychydig o amser yn y gegin gyda Heinz, fy nghyn fos, a phobwr o fri.

Fel dwi wedi sôn o’r blaen roeddwn i’n gweithio mewn gwesty bach yn Awstria am dymor sgïo ar ôl gadael y coleg, gwesty sy’n berchen i Heinz ac Anita Schenk. Mae Heinz yn dod o Awstria ond o Flaenau Ffestiniog y daw Anita yn wreiddiol. Fy gyfarfu’r ddau pan ddaeth Heinz i weithio fel chef yng ngwesty Portmeirion, ond ers blynyddoedd nawr maen nhw wedi bod yn rhedeg gwesty teuluol hyfryd o’r enw Luginsland, ynghanol ardal sgïo anhygoel.

heinz - blog

Mae Heinz yn chef gwych, ac roeddwn i’n lwcus i gael bwyta ei fwyd bob dydd am ryw bum mis wrth weithio yno. Ond er fy mod wrth fy modd ar y pryd yn ei wylio’n coginio ac o gael helpu yn y gegin, wnes i ddim bachu ar y cyfle i ddwyn rhai o’i ryseitiau. Felly y tro hwn roeddwn i wedi rhybuddio Heinz fy mod i’n dod i bigo ei ymennydd (gan mai dyna ble mae ei ryseitiau i gyd) yn ogystal â dod i sgïo.

Roedd o’n grêt cael mynd i sgïo bob dydd (tan i fi frifo fy hun yn troi fy mhen-glin, ond stori arall yw honno) ac wedyn dod ‘nôl i dreulio amser yn y gegin. Cegin anferth broffesiynol! Roedd yna rai ryseitiau yr oeddwn i’n awyddus i’w gael, ond hefyd roeddwn i’n agored i awgrymiadau Heinz.

bara - blog

Y rysáit oedd ar frig fy rhestr oedd y bara melys wedi’i blethu. Roedd yn Heinz yn arfer gwneud y dorth yma bob dydd ar gyfer brecwast ac mae hi’n hyfryd, yn enwedig efo’i jam bricyll cartref, neu jam grawnwin a sinsir. Mae’r dorth yn un reit gyfoethog gyda menyn, siwgr ac wyau ynddi, ond er ei fod yn felys, dyw hi ddim cweit fel torth brioche chwaith.

bara2 - blog

bara3 - blog

Fe ges i hwyl yn dysgu sut i blethu’r dorth, dwi’n gallu plethu gwallt efo tri darn yn hawdd ond fe gymerodd ychydig o amser i gael fy mhen rownd gweithio gyda phedwar. Mae Heinz yn gwneud torth fwy gyda 6 hefyd, ond dwi heb fentro honno … eto.

Dwi wedi gwneud fideo o’r plethu os da chi am drio fo eich hun.

Ymysg y pethau eraill y gwnes i goginio oedd gebacken mäuse – llygod wedi’i ffrio (math o doughnut efo cyrens)

llygod - blog

Beugel – toes bara tenau wedi’i lenwi un ai gyda chnau cyll wedi’i malu yn fan, neu hadau pabi (cynhwysyn sy’n gyffredin iawn yn Awstria).

beugel2 - blog

beugel - blog

beugel3 - blog

Mae’r Awstriaid yn coginio lot efo caws ceulaidd (curd cheese) hefyd, topfen maen nhw’n ei alw ond mae’n cael ei werthu fel Quark yn y wlad yma. Fe wnaethom ni ddau rysáit yn defnyddio’r caws yma – topfen knödel a topfen palatschinken.

Math o dumpling caws sy’n cael ei goginio mewn dŵr berwedig a’i orchuddio mewn briwsion bara, siwgr a sinamon yw topfen knödel. Mae’n flasus iawn, yn enwedig wedi’i weini gyda jam eirin.

IMG_7116

Wedyn crempog wedi’i llenwi gyda’r caws, cyrens a lemon, a’i goginio yn y popty wedi’i orchuddio mewn cwstard yw topfen palatschinken. Ddim yn annhebyg o gwbl i’n pwdin bara menyn ni a dweud y gwir, ond mae’r Awstriaid yn fwy na hapus i’w fwyta fel cinio yn ogystal â phwdin. Un o’r rhesymau pam fy mod i’n licio Awstria gymaint debyg!

paltschinken - blog

palatschinken2 - blog

Yn ogystal â hynny fe wnaethom ni fisgedi bach a creme caramel. Fel y gallwch ddychmygu roeddwn i wrth fy modd yn sglaffio’r holl bwdinau yma bob nos.

bisgedi - blog

creme caramel - blog

Mae’n rhaid i fi nawr ail greu’r holl ryseitiau yma adra, doedd Heinz ddim yn mesur dim, gan fod y ryseitiau i gyd yn ei gof, a’i fod yn gwybod o edrych faint o bopeth oedd angen. Felly roedd rhaid i mi amcangyfrif faint o bopeth yr oedd o’n ei ddefnyddio. Dwi’n gobeithio bod fy mesuriadau yn gywir!

Pobi dros y Pasg

1 Ebr

IMG_7008 Mae penwythnos hir yn golygu un peth i fi, digon o amser i botsian yn y gegin. Doedd gen i ddim llawer o gynlluniau dros benwythnos y Pasg, felly fe fachais ar y cyfle i bobi ychydig o bethau sydd angen amser ac amynedd i’w gwneud. Pethau na fuaswn i’n gallu eu gwneud ar benwythnos prysur arferol. Ar frig y rhestr wrth gwrs oedd hot cross buns, neu bynen y Grog yn Gymraeg (dwi’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd efo’r blog ma!). Dwi wrth fy modd efo’r byns bach sbeislyd yma, yn enwedig wedi’i tostio a’u taenu efo menyn. Ond yn wahanol i’r arfer roeddwn i’n awyddus i drio eu gwneud nhw gyda blawd spelt y tro hwn. Dwi heb bobi gyda’r blawd yma o’r blaen ond mae’r pobydd o Norwy, Signe Johansen yn ei argymell yn ei llyfrau hi, ac fe ddywedodd wrthyf ei bod hi’n ei defnyddio mewn 90% o’i bara melys y dyddiau yma. Mae spelt yn wenith hynafol, oedd wedi mynd allan o ffasiwn, ond mae o i fod yn fwy iachus na gwenith arferol ac mae yn lot llai o glwten felly mae’n dda ar gyfer pobl sy’n sensitif i wenith. IMG_7013 IMG_7025 Mae blawd spelt yn bihafio ychydig yn wahanol i flawd cyffredin, fe wnes i ffeindio bod angen llai o hylif nag y buaswn i’n arferol, ond dyw’r diffyg glwten ddim yn effeithio ar y bara yn y pendraw, a dweud y gwir mae’n rhoi blas hyfryd i’ch byns. 20130331-113956.jpg Yn ogystal â chwarae gyda spelt roeddwn i hefyd eisiau trio rhywbeth hollol newydd, felly ar ôl pori drwy fy llyfrau fe benderfynais y buaswn i’n trio gwneud croissants am y tro cyntaf, gan ddilyn rysáit o lyfr gwych Richard Bertinet. 20130331-114056.jpg Nawr dwi erioed wedi trio gwneud croissants o’r blaen, yn bennaf gan ei fod yn cymryd cymaint o amser. Ond mewn gwirionedd dyw o ddim yn anodd, ond mae’r broses yn un hir wyntog, gan fod angen digon o amser i’r toes godi dros nos, ac mae’n rhaid gadael i’r toes orffwys rhwng bob cam. 20130331-114007.jpg Er bod y broses yn un llafurus, roedd o’n werth o yn y diwedd i gael croissants cartref ffres. Roedden nhw’n hyfryd, doeddwn i ddim yn gallu dychmygu y buasent nhw’n troi allan cweit mor dda. Rydych chi’n gallu rhewi’r toes hefyd cyn eu coginio, felly rwan mae gen i lond rhewgell o croissants yn barod i’w dadmer pan fyddai awydd un eto. Fe ddywedodd rhywun ar twitter yn ddiweddar bod Pasg yn wyliau llawer gwell na’r Nadolig, does ‘na ddim y pwysau na’r disgwyliadau i borthi’r pum mil na’r angen i lynu at fwydlen ddogmatig, ac felly mae rhywun yn tueddu i’w fwynhau yn fwy. Ac mae’n rhaid dweud fy mod i’n cytuno, dwi’n cael digon o amser i bobi, ond teimlo fy mod i’n gallu gwneud hynny yn fy amser fy hun a gwneud yn union beth dwi eisiau. O weld trydar pobl dros y dyddiau diwethaf dim fi yw’r unig un, mae’r byg pobi wedi bachu llawer. Beth arall sy’n well pan fo’r tywydd yn dal i fod mor oer. 20130331-114126.jpg Mwynhewch y pobi a’r wyau siocled!