Archif | Mehefin, 2013

Gwyl Tafwyl

13 Meh

image001

Y penwythnos yma fe fydda i’n mynd nôl i Gaerdydd i gymryd rhan yng Ngŵyl Tafwyl.

Mae Tafwyl yn ŵyl flynyddol sy’n cael ei drefnu gan Fenter Caerdydd. Mae’r prif ddigwyddiadau yng Nghastell Caerdydd, ar ddydd Sadwrn Mehefin 15fed, ond fe fydd digwyddiadau ar draws Caerdydd drwy gydol yr wythnos.

Roedd gŵyl y llynedd yn llwyddiant ysgubol, yn anffodus doeddwn i ddim yn gallu mynd, felly roeddwn i’n falch iawn pan ges i wahoddiad i gymryd rhan eleni.

Mae’n edrych fel bod yna rywbeth i bawb yn Ffair Tafwyl dydd Sadwrn, gan gynnwys stondinau yn hyrwyddo cynnyrch Cymreig (o weld y rhestr fe fydd yn rhaid i mi gofio fy mhwrs!); gweithdai llenyddol, cerdd, celf, coginio a drama; a pherfformiadau byw gan ystod o artistiaid gan gynnwys un o fy hoff fandiau Cymraeg, Colorama.

Mae nhw wedi gofyn i mi gynnal sesiwn yn y babell goginio (ble arall?) am 1 o’r gloch. Sesiwn ar addurno cacennau bach fydd hi, felly os ydych chi eisiau gwybod y gyfrinach i eisin menyn ysgafn, neu’n cael trafferth peipio yn berffaith dewch draw. Dwi’n gobeithio dangos nifer o ffyrdd gwahanol o addurno a rhannu digon o tips ar sut i gael cacennau perffaith bob tro. Ac wrth gwrs ar ôl addurno’r cacennau fe fydd rhaid i rywun eu bwyta, felly fe fydd yna gegaid o gacen i’r rhai sydd yn dod i wrando (dim fy mod i’n eich llwgrwobrwyo gyda chacen!).

Dwi hefyd yn mynd i gael cyfle i lenwi fy mol, gan fy mod i’n beirniadu Bake Off Tafwyl gyda Nerys Howell. Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant ac oedolion , gyda 3 chategori gwahanol i’r gwahanol oedrannau. Mae’n rhaid i blant dan 11, pobi ac addurno chwech fairycake, pobl ifanc dan 16 yn pobi ac addurno chwech cupcake, ac mae’n rhaid i’r oedolion bobi ac addurno cacen sbwng dwy haen neu fwy. Dwi’n disgwyl y bydd yna wledd o gacennau, a gyda rhyw 45 o blant ac oedolion wedi cofrestru, dwi’n amau na fyddai angen cinio wedyn!

Fe fydd Nerys a minnau yn cyhoeddi’r canlyniadau am 12 yn y babell goginio, dwi’n addo y byddai’n fwy o Mary Berry na Paul Hollywood wrth feirniadu.

Felly os ydych chi o gwmpas Caerdydd dydd Sadwrn, dewch draw i Ffair Tawfyl, mae yna lwyth o bethau yn mynd ymlaen a chofiwch bigo fewn i’r babell goginio i ddweud helo.