Dwi’n caru riwbob, mae’n un o fy hoff ffrwythau ( ok dwi’n gwybod mai llysieuyn ydio, ond tydio ddim yn swnio’n iawn), felly pan ges i gynnig llond bag mawr o riwbob o ardd y rhieni yng nghyfraith, roeddwn i wrth fy modd.
Roedd yna gymaint o bethau y gallwn i fod wedi’i gwneud efo nhw, ond gan fy mod i hefyd wedi cael benthyg peiriant hufen ia fy mam yng nghyfraith, roeddwn i’n awyddus i geisio gwneud rhyw fath o hufen iâ. Roeddwn i’n gwybod y byddai’r riwbob sawrus yn cyferbynnu yn berffaith gyda’r hufen melys, wel da ni gyd yn gwybod pa mor dda ydi riwbob a chwstard. Ond dwi’n licio ychydig mwy o ansawdd yn fy hufen iâ, felly dyna ble daeth y syniad o ychwanegu crymbl iddo.
Dwi’m yn licio canmol fy hun (ok mi ydw i weithiau!) ond dyma’r hufen iâ gorau i mi ei wneud, ac yn agos iawn i fod fy hoff flas erioed – wel heblaw am yr un afal yn Odettes, mae hwnna yn anhygoel!
Cynhwysion
400g riwbob
150g siwgr mân
1 llwy fwrdd o sudd lemon
80g blawd plaen
50g menyn
40g siwgr brown meddal
40g ceirch
4 melynwy
300ml hufen dwbl
450ml llaeth
150g siwgr mân
½ pod fanila
Dull
Dechreuwch drwy goginio’r riwbob a’r crymbl, gan fod angen gadael iddyn nhw oeri cyn gwneud yr hufen ia.
Cynheswch y popty i 210°C / 190°C ffan
Rhowch y riwbob, sudd lemon a siwgr mewn dysgl sy’n iawn i fynd yn y popty, a’u coginio am 30 munud.
Yn y cyfamser gwnewch y crymbl drwy rwbio’r menyn i mewn i’r blawd gyda’ch bysedd, nes ei fod yn edrych fel briwsion. Yna ychwanegwch y siwgr a’r ceirch a’i gymysgu.
Taenwch ar dun pobi, a’i goginio yn yr un popty am 10 munud, gan ei droi hanner ffordd trwy’r amser coginio.
Gadewch y crymbl i oeri yn llwyr, ond ar ôl gadael i’r riwbob oeri rhywfaint, rhowch mewn prosesydd bwyd neu blender nes ei fod yn llyfn. Rhowch yn yr oergell i oeri yn llwyr.
Er mwyn gwneud yr hufen ia curwch y siwgr a’r melynwy mewn powlen a thynnwch yr hadau o’r pod fanila a’u hychwanegu at y siwgr ar wyau.
Mewn sosban, cynheswch y llaeth , gyda’r pod fanila sydd ar ôl, nes ei fod jyst yn dechrau codi berw.
Tynnwch y pod fanila allan a thywallt y llaeth cynnes dros y wyau a’r siwgr, gan ei chwisgio yr holl amser.
Trosglwyddwch yr holl gymysgedd yn ôl i mewn i’r sosban, a’i gynhesu eto, gan ei droi gyda llwy bren yr holl amser, nes ei fod yn tewychu. Dylai fod yn ddigon trwchus i orchuddio cefn eich llwy, ond gwnewch yn siŵr nad ydio’n berwi o gwbl.
Tynnwch oddi ar y gwres a’i roi yn ôl mewn powlen, gyda haen o cling ffilm reit ar wyneb y cwstard (er mwyn osgoi ffurfio croen), a’i adael i oeri.
Unwaith y bydd popeth wedi oeri, ychwanegwch yr hufen at y cwstard a’i gymysgu yn dda, yna ychwanegwch y riwbob a’i gymysgu.
Rhowch yn eich peiriant hufen iâ, a pan fydd o’n dechrau mynd yn drwchus ac yn rhewi, ychwanegwch eich crymbl.
Pan fydd wedi rhewi digon rhowch mewn bocs plastig a’i gadw yn y rhewgell.
Os nad oes gennych chi beiriant hufen ia, rhowch yr hufen ia yn syth mewn bocs plastig a’i rewi am ddwy awr, yna tynnwch allan a’i gymysgu yn dda gyda chwisg neu fforc. Ailadroddwch bob rhyw awr, a pan fydd o’n ddigon trwchus gallwch ychwanegu’r crymbl.
Dyw o ddim yn gwneud hufen iâ cweit mor dda â pheiriant ac efallai y bydd yn rhaid ei adael i ddadmer ychydig cyn gweini, ond fe fydd yn dal i flasu’n hyfryd. Os ydych yn gwenud hufen ia fel hyn, weithiau mae’n helpu i roi sloch o alcohol ynddo, gan ei fod yn golygu na fydd yn rhewi mor galed, mae vodka yn dda, gan nad oes blas iddo.