Dwi wedi bod yn reit dawel ar y blog yma yn ddiweddar, ond dyw hynny ddim yn golygu fy mod wedi rhoi’r ffedog o’r neilltu a’i bod hi wedi bod yn dawel yn y gegin. I’r gwrthwyneb, dwi wedi bod yn pobi fel ffŵl yn ddiweddar, yn gwneud pob math o ddanteithion wrth i mi arbrofi gyda ryseitiau newydd. Os ydych chi’n fy nilyn ar twitter neu instagram fyddwch chi wedi gweld y dystiolaeth. Dyw popeth ddim wedi bod yn llwyddiant wrth gwrs (fe wnes i gacen siocled sych ar y diawl!), ond mae yna rai sy’n mynd i fod yn ffefrynnau i mi am flynyddoedd i ddod dwi’n siŵr.
Ond pam yr holl bobi ma a’r diffyg blogio? Wel dwi’n ysgrifennu llyfr arall – Paned a Chacen 2 (mae’n rhaid i mi feddwl am enw gwell cyn cyhoeddi!) Llyfr pobi arall fydd hon, gyda ryseitiau ar gyfer pob achlysur. Mae yn fisgedi ‘retro’ fel custard creams a bourbons, cacennau gydag ychydig o ‘wow factor’ ar gyfer achlysuron arbennig, ac fe fydd yna hyd yn oed bennod ar bobi sawrus.
Felly fel tamaid bach i aros pryd, dyma un o’r ryseitiau y gwnes i’r penwythnos yma, cacen orennau bach a marmaled. Mae Johny eisoes wedi datgan hon fel un o’i hoff ryseitiau gen i erioed! Dwi’n gobeithio y bydd hi’n eich plesio chi cymaint.
Cynhwysion
4 oren bach (rhywbeth fel clementines)
200g o siwgr mân
400ml o ddŵr
200g o fenyn heb halen
200g o siwgr mân
3 wy
250g o flawd codi
4 llwy fwrdd o farmaled (y gorau gallwch ei gael)
2 lwy fwrdd o laethDull
1. Cynheswch y popty i 180C / 160C ffan ac iro a leinio tun crwn dwfn.
2. Torrwch yr orennau bach yn dafellau tua 0.5cm gan gael gwared a’r ddau ben ar bob un.
3. Rhowch y siwgr a’r dŵr mewn sosban a’i gynhesu nes bod y siwgr wedi toddi, yna ychwanegwch y tafellau oren a’u coginio am ryw 5 munud ymhellach, nes eu bod yn feddal ond yn dal eu siâp.
4. Tynnwch allan o’r surop siwgr a’u rhoi i un ochr.
5. Parhewch i ferwi’r surop nes ei fod yn ludiog a hadwch tan yn hwyrach ymlaen.
6. Curwch y menyn am funud gyda chwisg trydan, yna ychwanegwch y siwgr a’i guro am 4 munud arall nes ei fod yn ysgafn ac yn olau.
7. Ychwanegwch yr wyau un ar y tro, gan sicrhau eich bod yn cymysgu yn llwyr rhwng pob un.
8. Nawr ychwanegwch y marmaled a’i gymysgu, cyn plygu’r blawd i mewn ac wedyn y llaeth.
9. Gorchuddiwch waelod eich tun gyda’r tafellau oren, yna rhowch gymysgedd y gacen am ei ben yn ofalus gan sicrhau nad yw’r orennau yn symud.
10. Coginiwch am awr, nes bod sgiwer yn dod allan o ganol y gacen yn lân.
11. Gadewch y gacen i oeri yn y tun am ychydig , cyn ei droi allan ben i waered, fel bod yr orennau ar y top.
12. Defnyddiwch sgiwer i wneud ychydig o dyllau yn y gacen, a thywallt y surop y coginiwyd yr orennau ynddo am ei ben (mae’n annhebyg y byddwch ei angen i gyd).