Does gen i ddim bwriad i ymprydio dros y Grawys, a dweud y gwir dwi ddim yn mynd i ymwrthod rhag unrhyw beth (mae bywyd yn rhy fyr). Ond dyw hynny ddim yn mynd i fy stopio rhag defnyddio’r holl flawd, siwgr wyau, llaeth a menyn yn y tŷ a dathlu Dydd Mawrth Ynyd, neu fel da ni gyd yn licio galw’r diwrnod arbennig hwn – Diwrnod Crempog.
Dwi wrth fy modd gyda’r hen glasur – crempog gyda siwgr a lemon am ei ben, ond weithiau mae angen ehangu ein gorwelion. Ac os ydych awydd gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol gyda’ch crempogau eleni yna ewch chi ddim o’i le o edrych tuag Awstria. Mae’r Awstriaid yn bwyta crempogau drwy gydol y flwyddyn, boed o’n bwdin (dwi di blogio am fy hoffter o Kaiserschmarrn o’r blaen) ond hefyd i ginio – mae nhw’n gwneud cawl clir hyfryd, gyda stribedi o grempog ynddo.
Ond eleni dwi am wneud Topfenpalatschinken – pwdin eithaf newydd i mi, ond un traddodiadol iawn yn Awstria. Mae crempogau’n cael eu llenwi gyda chymysgedd melys o gaws meddal, lemon a rhesin; ac yna’n cael eu pobi mewn cwstard. Wir i chi mae’n ogoneddus, ac yn berffaith os ydych chi’n chwilio am esgus i ddefnyddio’r holl fraster a siwgr yn y tŷ cyn y Grawys (neu jyst yn farus fel fi!). Y caws meddal Quark maen nhw’n ei ddefnyddio yn Awstria, dyw o ddim wastad yn hawdd i’w ffeindio yn y wlad hon, felly mae’n bosib defnyddio caws mascarpone neu gaws meddal fel Philadelphia yn ei le.
Cynhwysion
Ar gyfer y Crempogau
100g o flawd plaen
Pinsied o halen
2 wy
250ml o laeth
25g o fenyn wedi toddi
Ar gyfer y llenwad
40g o resins
1 llwy fwrdd o frandi
250g o Quark
1 wy
1 llwy fwrdd o groen lemon wedi gratio
3 llwy fwrdd o siwgr fanila
Ar gyfer y cwstard
125ml o laeth
1 wy
1 llwy fwrdd o siwgr
Dull
- Gwnewch y crempogau i ddechrau. Hidlwch y blawd mewn powlen ac ychwanegu’r halen.
- Cymysgwch yr wyau mewn cwpan. Gwnewch bant ynghanol y blawd a thywallt yr wyau i mewn.
- Yn raddol ychwanegwch y llaeth gan gymysgu gyda chwisg llaw. Cymysgwch yn araf o’r canol gan gymysgu’r blawd o’r ochrau’n raddol. Dylai hyn sicrhau na fydd lympiau yn y gymysgedd.
- Ar ôl ychwanegu’r llaeth i gyd, gadewch y cytew yn yr oergell i orffwys am ryw hanner awr.
- Pan fyddwch chi’n barod i goginio’r crempogau toddwch y menyn mewn padell ffrio ac ychwanegu dau lond llwy fwrdd i’r cytew a chymysgu’n dda.
- Tywalltwch y gweddill allan o’r badell a’i roi i un ochr. Defnyddiwch bapur cegin i gael gwared ar unrhyw fenyn sydd dros ben yn y badell er mwyn sicrhau nad ydych yn boddi eich crempog mewn menyn.
- Yna, gyda’r gwres i fyny’n uchel, rhowch ddigon o gytew yn y badell i orchuddio’r gwaelod, gan droi’r badell o gwmpas i wneud yn siŵr bod y cytew’n ei orchuddio’n hafal. Gofalwch beidio â rhoi gormod o gytew yn y badell, fe ddylai’r crempogau fod yn eithaf tenau.
- Ar ôl rhyw funud neu ddwy, fe ddylech weld swigod bach ar y grempog. Trowch y grempog drosodd a’u coginio am funud neu ddwy arall.
- Cynheswch y popty i 180°C / Ffan 160°C / Nwy 4 ac irwch ddysgl sy’n addas i’r popty gyda menyn.
- Rhowch y rhesins i socian yn y brandi.
- Rhowch y Quark, yr wy, y croen lemon a’r siwgr mewn powlen a’u cymysgu gyda llwy bren neu chwisg llaw. Ychwanegwch y rhesins a chymysgu.
- Mewn powlen arall cymysgwch y llaeth, yr wy a’r siwgr a chymysgu’n dda gyda chwisg.
- Taenwch ychydig o’r gymysgedd Quark ar un o’r crempogau, ei rolio i fyny a’i osod yn y ddysgl. Ailadroddwch gyda gweddill y crempogau a’r llenwad nes bod y ddysgl yn llawn.
- Tywalltwch y cwstard am ben y crempogau a choginio am 15–20 munud nes bod y cwstard wedi coginio a’r top wedi brownio.
Bwytewch yn gynnes.
Un Ymateb i “Topfenpalatschinken – crempogau wedi’i pobi”