Dwi wrth fy modd gyda pizza ond dwi hefyd yn ei gasáu. Oes yna unrhyw fwyd sy’n gallu bod cweit mor afiach a hyfryd ar yr un pryd?
Alla’i ddim meddwl am ddim byd gwaeth na Dominos seimllyd, efo crwst trwchus, sydd â digon o galorïau i’ch cadw chi fynd am wythnos. Ond ar y llaw arall does yna’m llawer gwell na pizza tenau a chrensiog, wedi gwneud â’r cynhwysion gorau a’i goginio mewn popty coed.
Mae’r ddau yn fwystfil hollol wahanol.
Ond does yna ddim esgus i estyn am y ffôn a galw am takeaway, achos mae pizza nid yn unig yn hawdd i’w wneud adref, mae hefyd yn lot o hwyl, ac fe allaf warantu y bydd o’n blasu gan-gwaith yn well hefyd. Er fel da chi’n gweld isod mae o’n gallu golygu lot o lanast!
Roeddwn i wrth fy modd yn cael gwneud pizza fel plentyn. Byddai mam yn prynu’r crwst mewn paced o’r siop a ninnau yn cael rhoi beth bynnag oedd yn mynd a’n bryd am ei ben – ham, pys bach melyn a lot o gaws fyddai fy newis arferol i os ydw i’n cofio’n iawn. Wrth gwrs doedd y crwst siop yn ddim byd tebyg i grwst cartref (tebycach i gardfwrdd fuaswn i’n ei ddweud), ond roedd o’n gymaint o hwyl cael gwneud ein bwyd ein hunain, a dewis y cynhwysion yr oeddwn i eisiau, yn hytrach na gorfod rhannu gyda phawb.
A dyna ydi’r pleser yn dal i fod, mae Johny a minnau’n licio pizzas hollol wahanol – mae o’n ddyn meat feast efo gymaint o bethau wedi’u taflu ar un pizza ac sy’n bosib, tra dwi’n licio rhywbeth llawer symlach. Ond mae hynny yn iawn pan fyddwch chi’n gwneud eich pizza personol eich un.
Felly y tro hwn fe gawsom pizza garlleg i ddechrau efo dim byd mwy nag olew olewydd a garlleg arno, wedyn fe wnes i bizza pesto, parma ham, pupur coch a dail rocket, tra bod Johny wedi cael un efo salami, ham, wy a chaws. Fel y gwelwch chi roedd o’n falch iawn o’i gampwaith.
Er mwyn sicrhau’r crwst perffaith mae’n bwysig bod eich popty mor boeth ag y gall fod. Mae hefyd yn werth cael rhyw fath o garreg bobi, sy’n cael ei gynhesu yn y popty o flaen llaw. Mae’n bosib prynu un pwrpasol, defnyddio teil marmor, neu gwnewch be dwi’n ei wneud a defnyddio’r radell haearn sydd gen i ar gyfer gwneud cacs bach.
Mae’r rysáit yma yn gwneud digon o does i wneud 8 pizza, dwi ddim yn disgwyl i unrhyw un fwyta cymaint a hynny, ond mae’n rhewi’n dda, felly dwi wastad yn gwneud gormod. Felly ar gadael i’r toes godi, rhannwch yn 8 pelen, a rhowch unrhyw does na fyddwch yn ei ddefnydio mewn bagiau plastig a’u gosod yn y rhewgell. Wedyn y tro nesaf dwi awydd pizza yr unig beth sydd angen ei wneud yw ei dynnu allan a’i adael i ddadmer ar dymheredd ystafell, cyn ei rolio allan fel arfer.
Cynhwysion
500g o flawd bara cryf
500g o flawd spelt
20g o halen
14g o furum
3 llwy fwrdd o olew olewydd
650ml o ddŵr cynnes
Dull
Cymysgwch y ddau flawd mewn powlen fawr cyn ychwanegu’r halen a’r burum. Gwnewch bant yn y canol ac ychwanegwch y dŵr a’r olew. Cymysgwch gyda llwy nes ei fod wedi cyfuno yn llwyr yn does gwlyb.
Ysgeintiwch fymryn o flawd ar eich bwrdd a thylino’r toes am 10 munud nes ei fod yn llyfn.
Rhowch y toes mewn powlen wedi ei hiro ag olew, a’i orchuddio â cling film. Gadewch i’r toes godi am awr, neu hyd yn oed ei roi yn yr oergell i godi yn araf dros nos.
Yn y cyfamser rhowch eich carreg bobi yn y popty a chynhesu’r popty i 240ºC / 220ºC ffan / marc nwy 6
Ysgeintiwch y bwrdd â blawd. Cnociwch y toes yn fflat, ei rannu’n 8 darn. Rholiwch i mewn i beli a’u gadael i orffwys am 15 munud o dan liain sychu llestri, (ar y pwynt yma gallwch rewi unrhyw does na fyddwch yn ei ddefnyddio).
Gyda digon o flawd ar eich bwrdd, a gyda phin rholio rholiwch un o’r peli toes yn gylch mawr tenau.
Ychwanegwch pa bynnag gynhwysion yr hoffech, boed o’n saws tomato, cig a chaws, neu pesto a llysiau, cyn trosglwyddo’r toes yn ofalus i’ch carreg pobi. Fel arall gallwch roi’r toes yn syth ar y garreg pobi, ac wedyn ychwanegu’r cynhwysion, ond bydd angen gweithio yn gyflym fel hyn gan fod y garreg yn boeth iawn ac fe fydd y toes yn dechrau coginio.
Yna rhowch yn y popty i goginio am 10-12 munud, nes bod y crwst yn grisp.
Bwytewch, cyn gwneud un arall!
Gadael Ymateb