Sori os ydw i’n swnio fel rhyw dôn gron ynglŷn â bwyta’n iach y dyddiau hyn (dwi’n addo blog am gacen go iawn yn fuan) ond roedd rhaid i mi flogio am fy nhegan newydd – y nutribullet. Yn ôl y cwmni nid ‘juicer’ na ‘blender’ mo hwn ond ‘superfood nutrition extractor’ – sydd wrth gwrs yn swnio fel nonsens llwyr. Ond anghofiwch am beth mae’r cwmni yn ei ddweud, yr hyn ydi o yw blender hynod o gryf, sy’n gwneud smoothies perffaith mewn munud. Gallwch hyd yn oed ychwanegu cnau, llysiau caled, neu afalau gyda’u croen ac fe fyddwch chi’n dal i gael diod lyfn.
Nawr mae’n rhaid cyfaddef fy mod i yn y gorffennol wedi bod yn ddigon parod i wneud hwyl am ben pobl oedd yn yfed eu llysiau, ond ers prynu hwn, mae’n ddrwg gen i ddweud fy mod i nawr yn un o’r bobl hynny . A dweud y gwir mae smoothie gwyrdd yn reit flasus. Efallai bod diod wedi’i wneud gyda sbigoglys neu kale yn edrych fel chwd kermit y frog, ond o’u cymysgu gyda ffrwythau fyddwch chi ddim yn eu blasu, er wrth gwrs rydych chi’n dal i gael y maeth.
Dwi wedi bod yn yfed un o’r rhain i frecwast bob dydd ers pythefnos ac wedi gwneud pob math o gyfuniadau gwahanol.
- sbigoglys, ciwcymbr, mafon a mango
- sbigoglys, afocado, nectarin, grawnwin, lemon a flaxseed
- letys, afocado, banana, mango a chnau cashew
- sbigoglys, brocoli, ciwcymbyr, melon, mango a sinsir
Yn syml dwi’n taflu pa bynnag lysiau a ffrwythau sydd gen i yn y potyn a’u cymysgu i fyny gydag ychydig o ddŵr neu laeth reis, gan ychwanegu ychydig o hadau chia neu flax a dyna ni, diod blasus sy’n eich llenwi ac sy’n dda i chi hefyd. Dwi’n siŵr nad ydi o i bawb, ond dwi wrth fy modd gyda fy nhegan newydd – ac mae unrhywbeth sy’n fy annog i fwyta mwyaf o lysiau a ffrwythau yn dda yn fy marn i.