Crempogau banana di-glwten

4 Gorf

crempog banana7

Dwi’n amlwg ar dipyn bach o ‘health kick’ ar hyn o bryd, achos dyma i chi rysáit iachus arall.

Fel yr oeddwn i’n dweud yn fy nghofnod diwethaf ar bwdin chia, dwi’n licio meddwl fy mod i’n bwyta’n weddol iach y rhan fwyaf o’r amser. Ond pan fo’r tywydd yn braf, fel mae hi wedi bod yn ddiweddar, dwi’n naturiol yn tueddu i fwyta salad a ffrwythau yn hytrach na rhywbeth trymach.

Wedi dweud hynny dwi wedi priodi yn ddiweddar a dwi’n mynd ar fy mis Mel ymhen mis, felly mae hynny wedi rhoi rheswm ychwanegol i mi chwilio am opsiynau sy’n is mewn braster a siwgr.

A dyma i chi grempogau sydd nid yn unig yn blasu’n hyfryd ac yn hawdd iawn i’w gwneud ond hefyd sydd heb unrhyw siwgr na glwten ynddyn nhw, ac yn isel mewn calorïau. A dweud y gwir yr oll sydd ynddyn nhw yw banana ac wy, gydag ychydig bach o bowdr codi a sinamon.

crempog banana

 

crempog banana3

Nawr mae’n amhosib credu y gall bananas ac wyau wneud crempog call, ond wir i chi drwy ryw ryfedd wyrth mae’n gweithio. Wrth gwrs dy nhw ddim cystal â chrempog arferol, ond maen nhw’n flasus. Ac yn berffaith os ydych chi’n gwylio’ch pwysau neu jyst eisiau brecwast sydd ychydig yn fwy iach. A gyda’r wyau a banana maen nhw’n fwyd perffaith i’w fwyta os ydych wedi bod yn gweithio’n galed yn y gym.

crempog banana6

 

Cynhwysion
1 banana mawr
2 wy
¼ llwy de o bowdr codi
½ llwy de o sinamon

Dull
1. Stwnsiwch y banana mewn powlen nes ei fod yn weddol lyfn, ond gydag ychydig o lympiau.
2. Ychwanegwch yr wyau a’u cymysgu yn dda cyn ychwanegu’r powdr codi a sinamon, a’u cymysgu eto.
3. Yna fel gyda chrempogau bach arferol, rhowch lond llwy mewn padell gynnes i goginio. Dwi’n tueddu i wneud rhyw 4 ar y tro.
4. Ar ôl munud neu ddwy trowch nhw drosodd a’u coginio am funud neu ddwy ymhellach.
5. Bwytewch gyda ffrwythau ffres ac ychydig bach o surop masarn.

4 Ymateb to “Crempogau banana di-glwten”

  1. RubyTues74 04/07/2014 at 18:18 #

    Wow! Mae rheina yn edrych mor flasus hyd yn oed bod dwi ddim yn hoffi bananas! Dwi yn eitha tempted i dria wneud nhw fy hunain,dwi’n siwr byddwn nhw’n lyfli gyda bach o hufen ar yr ochr (dwi’n ferch ddrwg!)

    • Paned a Chacen 04/07/2014 at 18:21 #

      Ie wrth gwrs bydde nhw hyd yn oed neis iach efo hufen!!

  2. Huw 07/07/2014 at 12:23 #

    Paid a thorri gormod ar y braster – mi wneith helpu ti golli pwysau!

    • Paned a Chacen 08/07/2014 at 06:34 #

      Dwi ddim, jysd yn torri lawr ac yn trio bwyta mwy o fraster da yn lle.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: