Yr haf yma fe deithiais i Japan yn ystod fy mis mel. Mae Japan wastad wedi fy niddori a ges i ddim fy siomi. Roedd o’r profiad mwyaf anhygoel a’r wlad orau i mi ymweld â hi hyd yma. Mae’r diwylliant mor wahanol, y bobl mor garedig, a’r bwyd yn wirioneddol anhygoel. Bydd rhaid i mi sgwennu blog arall am yr holl fwyd y cefais i yno, ond mae un peth yn sicr dwi wedi fy sbwylio’n racs rŵan a gallai byth gael sushi rhad eto!
Mae’r sushi, tempura a noodles yn fyd enwog ond dyw Japan efallai ddim mor adnabyddus am eu bwydydd melys. Dydyn nhw ddim yn tueddu i gael pwdin ar ôl pryd, ond maen nhw yn licio eu cacennau a melysion ar adegau, ac mae yna un blas sydd wastad i’w weld yn eu cacennau, siocledi a hufen ia – sef te gwyrdd matcha.
Mae te gwyrdd yn elfen bwysig o gymdeithas Japan, maen nhw’n ei yfed yn boeth neu yn oer, yn coginio ag o, ac wrth gwrs mae yna seremoni de arbennig, all bara oriau, ar gyfer paratoi, gweini a mwynhau’r te. Dyw’r gŵr ddim yn or hoff o’r blas, ond dwi wrth fy modd, ac roedd o’n brofiad anhygoel cael gwisgo mewn kimono traddodiadol a dysgu ynglŷn ar seremoni de hynafol tra’r oeddem yn Kyoto.
Fe sylwch fod y te gwyrdd yma, yn edrych yn wahanol i’r te gwyrdd da chi o bosib yn ei yfed gartref – mae bron a bod yn wyrdd llachar iawn , a’r rheswm am hynny yw mai te gwyrdd matcha yw hwn. Yn hytrach na dail te rhydd, neu Duw a’u gwaredo bag te, te gwyrdd mewn ffurf powdr yw matcha. Mae’n defnyddio’r dail te gorau ac felly mae’n ddrytach na the gwyrdd arferol. Ond mae’n llawn antioxidants sydd, meddai pobl sy’n gwybod yn well na fi, yn dda iawn i chi. Ac mae’r lliw gwyrdd llachar, sydd yn hollol naturiol yn gwneud pwdinau a chacennau trawiadol, fel y gacen hon ges i yn Kyoto.
Wrth gwrs fe wnes i ddod a llwyth o de gwyrdd gwahanol yn ôl gyda mi, a fyth ers i mi gyrraedd adref dwi wedi bod yn awchu i wneud rhywbeth fy hun gyda the gwyrdd matcha. Yn y diwedd fe benderfynais gyfuno cacen Ffrengig iawn gyda blas o Japan i wneud madeleines te gwyrdd matcha gyda hadau sesame du. Mae angen tun arbennig i gael y siâp cragen unigryw, ac roeddwn i’n lwcus i gael rhai silicon hyfryd yn anrheg gan fy mrawd. Ond peidiwch â phoeni, fe fydden nhw’r un mor flasus wedi’i gwneud mewn tun cacennau bach, neu dun tartenni bach.
Nawr os ydych chi’n am wneud y rhain, fe allwch ffeindio te matcha ar y we yn reit hawdd. Mae’r Japan Centre yn wych ar gyfer eich holl anghenion siapaneiadd
Cynhwysion
100g o fenyn heb halen ac ychydig bach yn ychwanegol i iro eich tuniau
2 wy
80g o siwgr mân
100g o flawd plaen
1 llwy de o bowdr codi
2 llwy de o bwodr te gwyrdd matcha
2 llwy de o fêl
1 llwy de o hadau sesame du (ddim yn angenrheidiol)
Dull
Cynheswch y popty i 180°C / 160°C ffan / marc nwy 4.
Toddwch y menyn a’i roi i un ochr i oeri rhywfaint.
Chwisgiwch yr wyau a’r siwgr gyda chwisg drydan nes eu bod yn ysgafn, yn olau ac wedi dyblu mewn maint.
Hidlwch y blawd a’r powdr codi, a’r powdr matcha i mewn at yr wyau a’r siwgr, a’i blygu yn ofalus gyda llwy neu spatula.
Ychwanegwch y menyn a’r mêl a’i gymysgu i mewn yn ofalus gyda’ch llwy neu spatula.
Toddwch ychydig bach o fenyn ychwanegol a brwsiwch eich tuniau gyda’r menyn.
Llenwch y tuniau nes eu bod yn 2/3 llawn ac ysgeinitwch ychydig o’r hadau sesame am eu pen cyn eu coginio am 10 munud.
Gadewch i oeri ar rwyll fetel.